Clickers

Dylid defnyddio’r fersiwn cywir ar gyfer meddalwedd clickers. Defnyddiwch y dolenni isod:


(Cliciwch y dolenni a, os yn briodol, dewiswch y botwm lawr lwytho.)

Meddalwedd Windows PC:

Meddalwedd Mac:

TurningPoint logo

Mae system ateb cynulleidfa (yn aml yn cyfeirio at clickers yma ym Mhrifysgol Abertawe) yn gallu ychwanegu dialog, rhyngweithio ac adborth i sesiynau dysgu. Mae myfyrwyr yn gallu ateb nifer o wahanol gwestiynau gan ddefnyddio set llaw ac yn gallu cael eu dangos i’r dosbarth. Mae’n helpu myfyrwyr teimlo’n llai bygythiol oherwydd yr anhysbysrwydd a ddarparir gan y system.

Mae’r system yn cynnwys nifer o setiau llaw ar gyfer y myfyrwyr sy’n trosglwyddo eu pwysau allweddol a derbynnydd i’r darlithydd.

Mae’r meddalwedd yn gweithio fel ategyn i PowerPoint, felly os ydych chi’n gallu defnyddio PowerPoint, gallwch chi ddefnyddio clickers! Gall fod mor syml neu soffistigedig a mynnwch chi.

I lawr lwytho syniadau ar gyfer defnyddio Clickers yn eich sesiwn cliciwch ar y ddolen yma Pam Defnyddio Clickers ac Arweinlyfr TurningPoint am fanylion sy’n fwy technegol neu i Newid PowerPoint i mewn i gyflwyniadau Clickers.

Papurau Ymchwil

Bojinova, E. & Oigara, J., 2013. Teaching and Learning with Clickers in Higher Education. International Journal of Teaching and Learning in Higher Education, 25(2), pp. 154-165 http://files.eric.ed.gov/fulltext/EJ1016407.pdf

Kullvén, H. & Westin, T., 2012. Clickers in Education – do student’s perceptions of. Umeå: Sweden, pp. 1-14. Online http://kth.diva-portal.org/smash/get/diva2:579381/FULLTEXT01.pdf

McCune, V., 2009. University of Edinburgh, College of Science and Engineering. [Online]
Ar gael yma: http://www.scieng.ed.ac.uk/LTStrategy/clickers_effectiveUse.html [Accessed 16 09 2015].

Mae yna setiau o Clickers (y setiau llaw) wedi cael eu lleoli’n barhaol yn:

  • Glyndwr D
  • Faraday A
  • Darlithfa James Callaghan

Yn Glyndwr D a Faraday A mae’r Clickers yn sownd i’r desgiau felly dim ond eisiau agor TurningPoint a bant a chi. Yn Narlithfa James Callaghan mae’r Clickers yn cael eu gadw mewn bocs wedi’ cloi ac felly bydd angen i chi gofrestru eich cerdyn staff gyda Gwasanaethau’r Cyfryngau i fedru agor y bocs. Gallwch hefyd bwcio set o Clickers o Wasanaethau’r Cyfryngau aamedia@swansea.ac.uk Estyniad 4000


Mae Dr Sam Webster o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi defnyddio Clickers yn llwyddiannus yn ei ddysgu ac mae’n siarad am rhai yn y fideo isod:

Dr Sam Webster, Coleg Meddygaeth, ar ddefnyddio clicwyr wrth addysgu.

Gallwch glicio yma i ddarllen yr holl astudiaeth achos.


Leave a Reply

Your email address will not be published.