Y VLE Wonderland

Pan ddechreuais yn nhîm Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL), Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) ym Mhrifysgol Abertawe, roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr i wneud  mwyaf o’m profiadau addysgol a phroffesiynol mewn swydd oedd wedi ymddangos wedi creu ar gyfer rhywun gyda fy nghefndir.  Mae gennyf radd mewn Hanes ond rwyf wedi treulio rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio mewn TG yn datblygu systemau a gwasanaethau ar gyfer llyfrgelloedd academig a chyhoeddus. Felly, wrth gyfuno TAR cynradd, ugain mlynedd o brofiad rhaglennu a gwir cariad tuag at dechnoleg ac addysg, dyma’r nodweddion o ddatblygwr academaidd, siŵr? Roeddwn yn ymwybodol bod angen i mi adnewyddu fy nealltwriaeth pedagogeg (pan wnes i fy TAR, roedd Arddulliau Dysgu [1] yn boblogaidd iawn fe ges i ddiagnosis o ddysgwr clywedol – siŵr a bod achos nad oeddwn yn cymryd nodiadau mewn darlithoedd) ond roedd gen i gydweithwyr newydd ffantastig oedd yn fodlon rhannu profiadau, meddyliau a barn eu hun a chyfeirio mi tuag at erthyglau, gwefannau a chysylltiadau defnyddiol.

Yn eironig iawn, roeddwn yn ymuno â’r tîm Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg a’u cefnogaeth gynradd yw cynnal a datblygu Blackboard. Dyna le oedd y bwlch mwyaf yn fy nealltwriaeth, hynny o’r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE). Fel myfyriwr ac ymarferydd, nid wyf wedi defnyddio un yn iawn! [2] Dechreuwyd fy ngradd israddedig yn 1999 ac er i mi fynychu prifysgol oedd ar flaen gyda thechnoleg,  roedd adnoddau megis rhestrau darllen a llawlyfrau cyrsiau yn cael eu trafod ar lefel cyfadran. Dechreuais ar TAR yn 2007 a hyd yn oed bod gan y sefydliad Blackboard, nid oeddwn yn defnyddio’n aml ond i lawr lwytho dogfennu megis llawlyfr y cwrs. Nid oeddwn yn cyflwyno aseiniadau nac edrych ar gynnwys y cwrs gan fod y darlithwyr yn rhoi copïau ar bapur. Yn olaf, fel datblygwr meddalwedd, roedd gen i’r dasg o integreiddio allbwn ein rhestr ddarllen i mewn i Blackboard yn 2012. Fe wnes i ddylunio teclyn JavaScript oedd yn blatfform agnostig felly nad oedd angen i mi gael mwy na dealltwriaeth sylfaenol o’n hamgylchedd dysgu rhithiol (VLE). Efallai ei bod yn gyd-ddigwyddiad ond mae’r amseroedd yma yn croesi’n fras gyda’r cipluniau a gymerwyd i gynrychioli dyrchafiadau technolegol gan Linda Clarke yn ei adolygiad o erthyglau’n glwm â ‘VLE’s’ yn “Technology, Pedagogy and Education”: y cyfnod “which comes after the introduction of the Internet to education, but prior to its widespread availability and use”, cyfnod o “renewal and renovation” nodweddion gan “transition to the Internet” ac yn olaf cyfnod o “learning in the social web” wedi nodweddu gan gyfaniad “web 2.0” technolegau megis blogs a wikis [3].

Yn wreiddiol roeddwn yn bwriadu i’r blog yma i fod yn recordiad o’m hymchwil i ddeall pedagogeg o’r VLE. Wrth i mi greu map meddwl o’r testunau bydd rhaid i mi ymdrin â, sylweddolais byddai’n troi i mewn i thesis. Felly, rydw i wedi penderfynu defnyddio’r blog yma i uwch oleuo rhai o’r themâu hoffwn archwilio mewn dyfnder.

Neo is presented with a choice from “The Matrix”, Directed by The Wachowski Brothers, Warner Bros. 1999.

Neo is presented with a choice from “The Matrix”, Directed by The Wachowski Brothers, Warner Bros. 1999.

Y peth cyntaf i mi ddysgu wrth ddechrau darllen trwy erthyglau, blogiau a dogfenni polisi yw nad oes cytundeb ar beth yn union olygir pedagogeg VLE. Tra bod datblygwr cynradd Moodle, Martin Dougiamas, yn sicr bod VLE yn cael ei lywio gan addysgeg adeiladol gymdeithasol [4], mae sylwebyddion eraill yn dadlau bod VLE’s yn bedagogeg niwtral oherwydd bod pedagogeg yn “decision made by teachers, not systems”. [5] Os nad oes pedagogeg VLE hanfodol, mae’n wir, fel pob peth technolegol nid ydynt yn niwtral nac yn ddiduedd; maent yn dod gyda ‘ “propensities, potentials, affordances and constraints that make them more suitable for certain tasks than others” ’. [6] Fel rhaglennwr rydw i wedi gweithio gyda defnyddwyr profiad a datblygwyr defnyddwyr rhyngwyneb talentog wnaeth dangos i mi’r wyddoniaeth a’r seicoleg tu ôl i wefan da. [7] Nid yw VLE yn wahanol; bydd y dyluniad yn cael effaith mawr ar sut mae’n cael ei ddefnyddio. Gan fod prinder o erthyglau sydd yn cymryd agwedd gyfannol o bedagogeg VLE, nid oes yna ddiffyg o adnoddau sydd yn archwilio cyfansoddion megis blogs, wikis, cwisiau ac asesiadau. Gall yr un peth cael ei ddweud am y mathau o ddysgu gall VLE hyrwyddo (e.e cyfunol, trosi, gweithredol). A yw’r maint cysyniadol o’r VLE (gyda’r ‘plugins’ ac ‘add-ons’ i gyd ayyb) yn eu gwneud yn amhosib dadansoddi mewn ffordd gydlynol? Ydyn ni’n well i dderbyn rhannau cyfansoddol y pedagogeg yn ddigonol i’n dealltwriaeth? Y mwy rydw i’n darllen ynglŷn â phedagogeg VLE, y mwy dwi’n sylweddoli efallai fy mod i wedi gor-gymhlethu pethau; roeddwn i’n ffocysu ar fframweithiau cysyniadol ond yn anwybyddu’r dystiolaeth ymarferol a chyfoethog oedd yn recordio fy nghydweithwyr ar eu llwyddiant a methiant gan ddefnyddio VLE.  Gan fy mod yn dod o gefndir rhaglenni, roeddwn yn llawn diddordeb i ddarganfod os oedd unrhyw safonau byddai VLE yn cael ei gyffelybu yn erbyn. Yn fy swydd flaenorol, efallai byddaf yn fwy pryderus gyda sawl cysylltiad http cydamserol mae gweinydd modwl Blackboard yn gallu ymdopi â, neu os yw’r wefan yn cydymffurfio gyda ‘Web Content Accessibility Guidelines’. Ond nawr, roeddwn yn llawn rhyfeddod sut oedd yn bosib dweud os oedd VLE yn cael effaith bositif ar ddysgu ac addysgu. Wrth ddilyn y meddyliad yma, fe wnes i ddarganfod modelau technoleg megis ‘The Three Tier Technology Use Model (TUM)’ [8], ‘The Technological Pedagogical Content Knowledge (TPACK) Model 9’ [9] a SAMR [10]; nid oeddent yn feincnod ond roeddent yn darparu mewnwelediadau defnyddiol ar gyfer deall sut gall VLE cael ei integreiddio’n fwyaf effeithiol i mewn i ddysgu ac addysgu. Roeddwn wedi darbwyllo’n barod dylai pedagogeg blaenori technoleg wrth ddewis sut i ddysgu testun arbenigol ond roedd yr archwiliad o’r fframweithiau hyn yn tynnu sylw at y ffaith y dylai rhai datblygiadau mewn technoleg arwain at ailgyhoeddi arfer dysgu ac addysgu oherwydd eu bod yn gwneud pethau’n bosibl a oedd yn annhebygol o’r blaen. [11] Yr astudiaethau achos mwyaf defnyddiol rydw i wedi darganfod yw’r rhai sydd yn esbonio siwrnai yn dechrau gyda VLE fel safle tirlenwi digidol ac yn gorffen gyda chynnwys strwythuredig cydlynol, wedi’ trosglwyddo yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer y canlyniad dysgu. Mae’r teithiau yma yn orlawn gyda sialensiau ond wastad yn uwch oleuo’r buddion nodedig o ddefnyddio VLE a’r potensial o ddefnyddio VLE ynghyd â newid sefydliadol a phersonol ar gyfer staff a myfyrwyr. [12] Beth mae’r safon aur mewn VLE yn edrych fel? I mi, dylid VLE arbennig cynnig profiad dysgu ac addysgu personol; bydd yn galluogi i fyfyrwyr ac athrawon i ddysgu, addysgu a rhyngweithio mewn ffordd sydd yn gweithio orau iddynt. Bydd rhaid iddo fod yn hyblyg, addasol ac yn gallu ymateb i ddewisiadau ac amgylchiadau myfyrwyr, gan drosglwyddo cynnwys sydd wedi selio ar ddeilliannau dysgu a dadansoddiad dysgu wedi datblygu gan arbenigwyr parth.

Indiana Jones searching for the Gold Standard VLE from “Indiana Jones and The Raiders of the Lost Ark, Directed by Steven Spielberg, Paramount Pictures, 1981

Indiana Jones searching for the Gold Standard VLE from “Indiana Jones and The Raiders of the Lost Ark, Directed by Steven Spielberg, Paramount Pictures, 1981

Rydw i wedi bod yn SALT am bedwar mis ac rwyf wedi mwynhau pob munud. Ar y dechrau, roeddwn wedi digalonni wrth bryderu am sut roeddwn i yn mynd i wella fy nealltwriaeth yn enwedig ar ôl siarad gyda fy nghydweithwyr newydd a darganfod yr holl bethau roeddent ynghlwm gyda! Fel bod pobl eraill wedi dweud cyn fi [13], roedd petai fod y tîm yn siarad iaith wahanol. Rydw i’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i adeiladu ar fy nealltwriaeth a fy mhrofiad; rydw i wedi darllen o amgylch pynciau sydd wedi codi diddordeb i mi megis ‘active learning’, deallusrwydd artiffisial, rhith realiti a realiti estynedig. Rydw i hefyd wedi cwrdd â darlithwyr ac athrawon ffantastig sydd wedi helpu i mi ddeall meysydd academig Prifysgol Abertawe. Yn bwysicach, mae fy nhîm newydd wedi croesawi mi yma – nid ydw i wedi bod allan o de ers dechrau!

Leave a Reply

Your email address will not be published.