Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Augustine Egwebe

 

“Bydd cais i fod yn gymrawd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich ymarfer addysgu a phroffesiynol.”

 

 

 

 

Dywedwch wrthym amdanoch:

Dr Augustine Egwebe ydw i a chwblheais fy ngraddau PhD a BEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (EEE) ym Mhrifysgol Abertawe, Cymru. Rwy’n diwtor addysgu academaidd yn y portffolio EEE yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Rwyf wedi cefnogi gweithgareddau dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch/Abertawe am o leiaf saith blynedd gan gynnwys fy rôl flaenorol yn ddangosydd labordy yn ystod fy rhaglen PhD, ac yn fy ngwaith presennol fel tiwtor addysgu academaidd.

Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?

Er bod y sawl rwy’n ei ddysgu a’m cydweithwyr yn yr adran yn parhau i roi adborth cadarnhaol a chalonogol i mi ar fy nulliau addysgu, roedd angen rhai mesurau i feirniadu, i ddilysu a meincnodi fy nulliau dysgu ac addysgu yn y sector addysg uwch. Yn gryno, roeddwn i’n chwilio am ryw fath o adborth proffesiynol ar fy ngwaith ac yn ffodus roedd yr Academi Addysg Uwch (HEA) yn cynnig y platfform hwnnw i mi.

Gan hynny, mae cydnabyddiaeth cymrodoriaeth yn cynnig cyfrwng amhrisiadwy i mi ddangos fy ymrwymiad personol at arferion proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys fy ymrwymiad at ymgysylltu â myfyrwyr, gwella’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr, helpu’r myfyrwyr i wneud cynnydd a’m datblygiad parhaus fel addysgwr.

Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

Roedd yn bleser gweld sut mae fy null bob dydd o ddysgu ac addysgu yn cyd-fynd â’r cyd-destun addysg uwch ehangach. Roeddwn i’n gallu casglu, o’r broses paratoi cais, ei fod yn bwysig hidlo a chofnodi pob arfer/cyfraniad a’u mapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU er bod gennyf fentrau a chyfraniadau addysgu ardderchog. Mae hyn i mi yn cynnwys tynnu sylw at yr hyn rwyf wedi’i wneud, pam y gwnaed yn y lle cyntaf, beth oedd ei effaith ar y dysgwyr, arnaf fi a’r sefydliad a sut y gallaf wella’r ymyriadau amrywiol.

Cesglais hefyd yn fuan iawn o’r broses ymgeisio, y rôl sydd gan fy mhrofiad a’m gwaith ymchwil ar y cyd o ran y ffordd rwy’n addysgu ac yn rhyngweithio â’r dysgwyr. Dywedais wrthyf fy hun fod hyn yn gofnod myfyriol nid yn bapur technegol. Felly, bu’n rhaid i mi arfer yr amynedd i ymchwilio i fy ngwaith fel addysgwr ac i sicrhau bod digon o dystiolaeth i gefnogi pob cyfraniad perthnasol.
Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn ymddangos fel mynydd mawr i’w ddringo gan nad ydw i wedi gwneud rhywbeth tebyg o’r blaen. Ond gyda chymorth a chyngor gan fy mentor a staff yr Academi, roeddwn yn barod i fentro. Rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau pob rhan o’r broses ysgrifennu myfyriol.

Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd addysg uwch?

Mae fy safbwynt am ddysgu ac addysgu ym maes addysg uwch wedi newid yn llwyr. Ers dechrau cymryd rhan yn y broses gymrodoriaeth a chael statws cymrodoriaeth, mae bellach gennyf restr wirio ar gyfer pob ymyriad addysgu i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Fframwaith Safonau Proffesiynol y maes Addysg Uwch. Un newid allweddol i mi yn awr yw fy mod bellach yn hyrwyddo adborth ar gyfer dysgu yn hytrach na’r adborth clasurol o ddysgu. Rwyf hefyd bellach yn sicrhau bod cyfathrebu dwy ffordd rhyngof fi a’r dysgwyr wrth gynnig adborth amserol ac ystyrlon.

Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi – y meysydd gweithgarwch, gwybodaeth graidd neu werthoedd proffesiynol – neu unrhyw un yn benodol a pham?

Yn benodol rwy’n hoffi pob eitem yn yr wybodaeth graidd (CK) oherwydd bod pob K yn ategu fy ymrwymiad at ddeunydd y pwnc, dulliau priodol ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu gan gynnwys sut mae’r dysgwyr yn dysgu mewn pwnc i helpu datblygu sgiliau gwybyddol a phroffesiynol. Rwy’n hoffi’r ffaith fod y CK yn hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau, gan gynnwys y defnydd o ddulliau dysgu cyfunol i wella’r profiad dysgu. Roedd eitemau K5 a K6 yn y CK yn eithaf unigryw oherwydd roeddwn yn gallu mapio llond llaw o’r dystiolaeth i werthuso pa mor effeithiol y mae fy nulliau addysgu a chyflwyno adborth gan roi ystyriaeth ddigonol i sicrhau a gwella ansawdd.

Beth oedd rhannau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?

Roedd y drafodaeth gefndirol amdanaf a’m hathroniaeth addysgu yn syml ac i safon dda. Rhoddodd yr adran hon gyfle i mi gyflwyno pwy ydw i fel addysgwr. Roeddwn yn gallu cysylltu fy methodolegau’n llwyddiannus â llenyddiaeth addysgeg bresennol. Roedd llif da i adran A1 hefyd yn fy marn i, oherwydd roedd hyn yn bennaf yn dweud wrthyf am banel Academi Addysg Uwch, a’r ffordd rwy’n llunio ac yn cynllunio gweithgareddau dysgu cynhwysol a diddorol i’r dysgwyr. Roedd gennyf lawer i’w ddweud yn yr adran hon.

Roedd A3 ychydig yn heriol yn fy marn i oherwydd ei bod yn canolbwyntio ar sut rydw i’n defnyddio ac yn rhoi adborth i’r dysgwyr. Gall fod yn anodd ar adegau i daro’r cydbwysedd iawn rhwng llif bi-gyfeiriadol y rhyngweithio rhwng y dysgwr â’r addysgwr wrth gynllunio gweithgareddau dysgu. Gwnaeth hefyd gymryd amser i mi ddod o hyd i’r dystiolaeth gywir sy’n nodi bod fy null o roi adborth yn effeithiol. Gall cyrchu a rhoi trefn ar dystiolaeth amrywiol ar gyfer pob adran o’r cais fod ychydig yn heriol. Ond llwyddais wneud hynny yn y pen draw.

Rhaid i mi ddweud fy mod i wedi cael gwell dealltwriaeth o adborth a’r mesur posibl ar gyfer dull adborth adeiladol ers cwblhau fy nghais.

Byddwn yn dweud bod fy nosbarth lawer yn fwy bywiog a dymunol oherwydd y profiad a gefais yn ystod proses ymgeisio’r Academi Addysg Uwch.

Sut rydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers cael y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal safon dda.

Rwyf wedi parhau i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus yn fy mhwnc/disgyblaeth a’m hymchwil. Un o’r manteision ychwanegol o fod yn Gymrawd yw ei fod yn agor drysau i hyfforddiant a gweithdai uwch yr Academi Addysg Uwch – rwyf wedi bod i rai o’r sesiynau hynny. Mae’r sesiynau hyn wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i wella fy arfer addysgeg er mwyn addysgu’n effeithiol a datblygu’n broffesiynol.

I rywun nad yw’n siŵr os yw am wneud cais neu beidio, pa eiriau y gallech eu cynnig i’w annog?

“Byddwn yn eich cynghori i’w gadw’n syml”

Mae’r broses ymgeisio’n broses gyffrous unwaith rydych yn dechrau arni. Bydd cais i fod yn gymrawd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich ymarfer addysgu a phroffesiynol.

Yn gyntaf, byddwn yn eich cynghori i’w gadw’n syml. Mae’n siŵr bod gennych fwy o brofiad a thystiolaeth yn eich portffolio/arferion addysgu nag rydych yn sylweddoli.

Mae bob amser pethau rydych wedi’u gwneud yn hynod dda yn y gorffennol. Dechreuwch drwy restru eich holl brofiadau, ymyriadau a chyfraniadau ers ymuno â’r maes addysg uwch, gan gynnwys cymorth i weithgareddau addysgu unigol.

Peidiwch â chanolbwyntio ar y pethau mawr yn unig. Mae’r pethau bach yn cyfrif hefyd.

Y cam nesaf yw myfyrio ar bob eitem mewn modd adeiladol drwy ofyn y cwestiynau craidd: Ym mha ffordd gwnaeth y gweithgaredd neu’r ymyriad hwn hyrwyddo neu ddylanwadu ar ddysgu? Beth yw effaith gyffredinol y gweithgaredd dysgu hwn ar y gymuned addysg uwch ehangach? Sut rydych chi’n mesur neu’n casglu adborth ar y dull a fabwysiadwyd? A yw’r gweithgaredd dysgu yn cefnogi neu’n hyrwyddo Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

Fyddwch chi byth yn gwybod pa mor bell y gallwch chi fynd na faint y gallwch ei gyflawni nes i chi roi cynnig ar hyn, felly ceisiwch a chewch chi’ch synnu faint y gallwch chi ei wneud. Byddwn hefyd yn eich cynghori i fynd i un o sesiynau Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe i gael cymorth.

Pa argymhellion y byddech yn eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth – unrhyw gategori?

“Peidiwch â phoeni – un cam ar y tro”

Yn gyntaf, peidiwch â phoeni – un cam ar y tro. Dechreuwch drwy restru a mapio’r holl brofiadau a chyfraniadau posibl (gan gynnwys gweithgareddau ar gyfer seminarau, y labordy, cymorth dysgu neu waith maes) ar gyfer pob maes gweithgarwch, gan ddefnyddio pwyntiau bwled. Nesaf, mapiwch o leiaf ddwy elfen ‘wybodaeth graidd’ neu ‘werthoedd proffesiynol’ i bob eitem ac yn olaf, rhowch dystiolaeth i bob eitem ar y rhestr. Mae cyfrwng hunan-ddiagnostig cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn ddefnyddiol iawn, a bydd yn helpu i gryfhau eich tystiolaeth.

Hefyd, osgowch y temtasiwn i ysgrifennu’r cais fel papur technegol. Byddwn yn eich cynghori i ysgrifennu’r cais mor fyfyriol â phosibl. Sicrhewch eich bod yn treulio amser i ddeall yr eitemau amrywiol yn Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU cyn mapio. Ewch i seminarau amrywiol Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe i gael darlun mwy eglur o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonoch. Roedd sesiwn yr Academi’n ddefnyddiol iawn yn fy marn i. Bydd eich mentor bob amser yno i’ch cefnogi chi drwy’r broses.

Yn olaf, byddwch yn ddisgybledig o ran eich amser, ac ewch i’r arfer o ysgrifennu cofnod myfyriol byr bob dydd wrth baratoi ar gyfer y cais am gymrodoriaeth.

Leave a Reply

Your email address will not be published.