Aseswyr Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (HEA)

Dod yn Asesydd/Mentor ar gyfer Llwybr Cais Abertawe


Mae mynegiannau o ddiddordeb i fod yn aseswr Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (pob categori) bellach wedi cau ar gyfer 2021. 


Mae bod yn rhan o gefnogi ac asesu ceisiadau am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn rhan bwysig o gyfrannu at amcanion Prifysgol Abertawe. Un o Alluogwyr Strategol y Canmlwyddiant (rhif 16) yw, er enghraifft, “Byddwn yn recriwtio, yn datblygu ac yn cadw staff academaidd a phroffesiynol amrywiol ac o safon uchel sy’n rhannu ein huchelgeisiau a’n gwerthoedd”.

Yn ddiweddar, rydym wedi ennill achrediad i gynnig llwybr i Gymrodoriaeth Gysylltiol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd hefyd yn cael eu cyflogi i addysgu gan y Brifysgol. Mae angen cefnogaeth ar y myfyrwyr hyn ac mae angen asesu eu ceisiadau a dyma hefyd ble y gallwch chi gyfrannu.

Mae asesu ceisiadau a rhoi adborth a chefnogaeth ffurfiannol i ymgeiswyr nid yn unig yn eich galluogi i alinio â’r nodau sefydliadol hyn, ond hefyd mae’n cefnogi eich datblygiad proffesiynol eich hun ac yn benodol yn eich rhoi mewn sefyllfa dda fel Cymrawd yr Academi Addysg Uwch yn y categori y mae gennych gydnabyddiaeth ynddo.

Pwy sy’n Gymwys?

Dim ond staff â chydnabyddiaeth Cymrawd, Uwch Gymrawd neu Brif Gymrawd sy’n gallu bod yn aseswyr a mentoriaid sy’n cefnogi Llwybr Cais Abertawe.

Beth yw’r ymrwymiad amser?

Mae’r ymrwymiad amser fel arfer yn cynnwys asesu 3 i 4 cais ar gyfer UN o’r 4 terfyn amser bob blwyddyn A mentora/rhoi adborth ffurfiannol dros un semester gan arwain at derfyn amser cyflwyno cais.

Hyfforddiant a Chymorth

Mae hyfforddiant cychwynnol ar gyfer y rôl a’r hyfforddiant gloywi blynyddol dilynol yn orfodol fel rhan o brosesau achredu Advance HE. Dynodir cydweithwyr mwy profiadol i weithio gydag aseswyr sydd newydd gael eu hyfforddi a rhaid iddynt asesu cyn gweithio fel mentor.

Meini Prawf

I fod yn aseswr neu’n fentor ymgeisydd Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch, mae’r meini prawf canlynol yn gymwys:
• Rydych eisoes yn Gymrawd/Uwch Gymrawd neu’n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
• Gallwch chi ymrwymo i’r amser ar gyfer asesu
• Gallwch chi ymrwymo i ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant gloywi blynyddol
• Byddech chi’n fodlon, lle bo’n briodol, gefnogi llwybr AFHEA a gefnogir ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig drwy gysylltu ag arweinydd enwebedig y Coleg (yn gweithredu fel aseswyr/tiwtoriaid y Coleg)
• Rydych chi’n gyfarwydd â defnyddio’r meini prawf marcio ar-lein a rhoi adborth
• Rydych chi wedi dangos profiad wrth roi adborth adeiladol o ran gwaith a aseswyd/cyflwyniadau/drafftiau o erthyglau/cyflwyniadau ar gyfer mathau eraill o waith.
• Gallwch ddangos eich bod wedi ymgymryd â dysgu proffesiynol i lywio eich ymarfer yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Os oes diddordeb gennych mewn bod yn aseswr ar gyfer rhaglen Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch achrededig Prifysgol Abertawe, cwblhewch y Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb hon.

Bydd mynegiannau o ddiddordeb yn cael eu hadolygu a bydd y rhai sy’n bodloni’r meini prawf yn derbyn gwahoddiad i ddod i’r hyfforddiant cychwynnol.


Mae mynegiannau o ddiddordeb i fod yn aseswr Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (pob categori) bellach wedi cau ar gyfer 2021. 


Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Lawlyfr Aseswr SAR

E-bostiwch Dîm Cydnabyddiaeth SALT i gael rhagor o fanylion – salt@abertawe.ac.uk.

Leave a Reply

Your email address will not be published.