Llwybr Cefnogol Gymrodoriaeth Gysylltiol – Pwy sy’n gymwys i geisio?

Nid yw’r Llwybr â Chymorth at Gymrodoriaeth Gysylltiol yr Academi Addysg Uwch ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a gyflogir i addysgu ar gael ar hyn o bryd. Gwiriwch gyda SALT yn yr Hydref 2021.

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Os ydych yn gweithio rhan-amser gyda Phrifysgol Abertawe er mwyn ymgymryd ag addysgu penodol/dyletswyddau arddangos AC yn dilyn rhaglen Ymchwil Ôl-raddedig, rydych yn gymwys, ar yr amod eich bod yn astudio mewn Coleg/disgyblaeth sy’n cymryd rhan.

Rhaid i’ch arolygwr ymchwil cytuno i chi mynd ymlaen â rhaglen gefnogol AFHEA. Bydd yna berson enwebedig ym mhob Coleg/Ysgol i chi gael cymorth a chefnogaeth ar gyfer y rhaglen yma.

Bydd efallai nifer cyfyng o gyfranogwyr gall pob Coleg/Ysgol cefnogi. O ganlyniad, efallai bydd Colegau/Ysgolion yn rhoi meini prawf penodol ychwanegol i fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd eisiau ymgymryd yn y rhaglen yma.

Bydd cyfranogwyr cymwys fel arfer yn cyflawni’r rhaglen gefnogol yma i gyflwyno cais AFHEA o fewn 12 mis. Nid oes yna gost ynghlwm â’r rhaglen AFHEA na’r cais dilynol trwy lwybr cais Abertawe (SAR).

Fel arfer, bydd rhaid i chi o hyd bod yn gyflogedig gan y Brifysgol yn darparu dyletswyddau dysgu/arddangos yn ystod yr adeg o gyflwyno’ch cais ar gyfer AFHEA a’r penderfyniad dilynol. Os rydych wedi cwblhau’ch rhaglen ymchwil a/neu’n bellach ddim yn gyflogedig ar gyfer dyletswyddau dysgu/arddangos, bydd y cymhwyster i gyflwyno a/neu’r gost gysylltiedig â chais AFHEA, yn cael ei ystyried ar sail achos unigol.

Pa Golegau/Disgyblaethau sy’n cymryd rhan yn y llwybr hwn?

Y Coleg Peirianneg – cysylltwch â’r Athro Paul Holland

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd – cysylltwch â Maria Davis, Rheolwr Academi Ymchwil Ôl-raddedig

Yr Ysgol Reolaeth – cysylltwch â Dr Jenny Cave, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig

Y Coleg Gwyddoniaeth (Biowyddorau) – cysylltwch â Dr Laura Roberts, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

 

Cysylltwch â Thiwtor eich Coleg i ganfod manylion pryd y cynhelir y sesiynau sefydlu nesaf.

Pwy sy’n anghymwys?

Mae is-raddedigion neu myfyrwyr sy’n dilyn rhaglen ôl-raddedig a ddysgir, yn anghymwys. Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cael cefnogaeth allanol trwy tal, sy’n ofynnol o ymrwymiad i ddysgu fel rhan o’u rhaglen, hefyd yn anghymwys trwy’r llwybr mewnol yma, ond anogir iddynt ceisio’n uniongyrchol i’r AAU.

Beth fydd rhaid i mi wneud?

  1. Cael cytundeb oddi wrth eich arolygwr gradd ymchwil i gymryd rhan yn y rhaglen.
  2. Cwrdd â’ch tiwtor Coleg i’ch arwain yn y trafodaethau cyntaf am gydnabyddiaeth AFHEA.
  3. Dylid cynnwys adolygiad o’ch profiad cyfamserol; cynlluniau’r dyfodol; adnoddau penodol sydd angen i wneud cais AFHEA a dyddiad cyflwyno addas.
  4. Edrych ar adnoddau ar-lein, ar yr amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) , gweithio trwyddo a chwblhau’r tasgau yn y tair adran isod. Defnyddiwch eich siwrnal ar-lein ac adlewyrchu ar y tasgau yma; bydd adnoddau ar gyfer ysgrifennu’n adlewyrchol ar gael.

A. Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF)

Mae’r tasgau yn rhan o’r Amcanion Dysgu (Learning Objects)

B. Dysgu ac addysgu

Tasgau Arsylwadau Dysgu; mae yna fanylion a ffurflenni ar-lein

C. Asesiad ac adborth

Ystyried a trafod amrywiaeth a chwmpas asesiad; manylion ar-lein.

D. Cyflwyno drafft o’ch cais AFHEA er mwyn cael adborth o’ch tiwtor Coleg o leiaf 1 mis cyn y dyddiad cyflwyno bwriadol.

Unwaith mae’r uchod yn gyflawn, gallwch gyflwyno cais terfynol ar gyfer AFHEA, gan lenwi’r adrannau priodol o ffurflen Llwybr Cais Abertawe (SAR) ac yna chyflwyno hynny ar gyfer archwiliad mewnol.

Byddwch wedi gweithio/cwrdd â’ch tiwtor ar 4 achlysur (bydd un yn cynnwys adolygu’ch adborth ffurfiannol ar ddrafft eich cais AFHEA).

 

Sut i Geisio am Gymrodoriaeth Gysylltiedig drwy’r Llwybr Cefnogol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Beth ddylen i wneud yn gyntaf?

Trafodwch gyda’ch arolygwr gradd ymchwil i drafod os yw hwn yn ymarferol i chi yn ôl eich cynnydd ar ymchwil a’r cwmpas o’ch dysgu/asesu a’ch gweithgareddau adborth.

Darganfod manylion am y rhaglen

Mynychu Sesiwn Wybodaeth ar gyfer anwythiad cychwynnol. Ar gyfer y Sesiynau Wybodaeth nesaf, cadwch le drwy XXXXXXX.

I’r rheini sydd wedi cael cadarnhad oddi wrth eu harolygwr ymchwil i gymryd rhan yn y rhaglen, byddwch yn cael mynediad i fodiwl Bb ar gyfer Llwybr Cefnogol Gymrodoriaeth Gysylltiol ble ddarganfyddwch yr adnoddau ar-lein a’r tasgau.

Bydd tiwtoriaid colegol yn arwain chi i gwblhau’r gweithgareddau priodol i sicrhau tystiolaeth ddigonol i gefnogi cais AFHEA. Byddant yn cwrdd â chi naill ai’n unigol neu fel grŵp, i adolygu natur y rhaglen, eich ymrwymiadau ac i amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Efallai bydd Colegau/Ysgolion yn darparu adnoddau ychwanegol i’ch arwain, e.e. ar ysgrifennu’n adlewyrchol.

Bydd tiwtoriaid yn adolygu drafft o’ch cais AFHEA cyn cyflwyno ac yn darparu adborth ffurfiol. Rhaid cyflwyno drafft o’ch cais i’ch tiwtor o leiaf UN MIS cyn eich dyddiad cyflwyno bwriadol. Os nad ydych yn cyflwyno drafft, ni fyddwch yn gallu gwneud cais terfynol.

Unwaith i chi gwblhau pob agwedd o raglen AFHEA, bydd y tiwtoriaid yn hysbysu Tîm Cydnabyddiaeth SALT o’r cyfranogwyr sydd yn barod i gyflwyno cais ac i ba ddyddiad cyflwyno. Byddant yna’n cael mynediad i fodiwl ‘SAR HEA Fellowship’ i wneud cais. (Gan fod nhw wedi cael y trafodaethau cychwynnol a chyflwyno drafft, bydd cyfranogwyr ar raglen gefnogol AFHEA wedi’ heithrio o elfennau mandadol o’r llwybr profiadol. Ond cais terfynol bydd angen).

 

Beth mae cais yn enteilio?

Unwaith i chi gwblhau’r gweithgareddau o lwybr cefnogol AFHEA, mae yna ddwy ffordd i gyflwyno cais ar gyfer Cymrodoriaeth Gysylltiedig – trwy gais ysgrifenedig neu gyflwyniad. Mae yna rhai elfennau craidd gweinyddol i’r ddau lwybr gwahanol (ysgrifenedig a chyflwyniad), ond mae yna ffurflenni gwahanol ac yna gofynion gwahanol yn ôl y categori o Gymrodoriaeth.

Mae’r rhain yn cael eu crynhoi yn y dogfennau trosolwg yma:

Crynodeb Cais Ysgrifenedig neu

Crynodeb Cais Cyflwynedig

Mae angen i bob cais cael eu cefnogi gan dystiolaeth a dau Datganiad Cefnogol.

Camweinyddiad academaidd

Darparir ymgeiswyr â mynediad i adolygu ceisiadau llwyddiannus blaenorol ar gyfer cyfarwyddyd ynglŷn â chwblhau’r ffurflen ar-lein, y math o dystiolaeth i gynnwys ayyb. Ceir myfyrwyr rhybuddio mewn unrhyw achos o gamweinyddiad academaidd, bydd trefn weinyddol y Brifysgol ynglŷn ag Ymddygiad a Disgyblaeth yn cael ei weithredu.

Am ragor o fanylion

Cysylltwch â Thîm Cydnabyddiaeth SALT: Louise Rees (l.j.rees@abertawe.ac.uk <mailto:l.j.rees@abertawe.ac.uk>) neu Darren Minister (d.g.minister@abertawe.ac.uk <mailto:d.g.minister@abertawe.ac.uk>)

Comments are closed.