Abertawe Cynhwysol

Fel aelod o grŵp Cynwysoldeb GGS, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chyd-weithwyr ar ddatblygu ffyrdd i hybu ac adnabod y gwaith arbennig mae staff Abertawe yn gwneud ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad (EDI).

Rydym ni wedi creu eicon, roedden ni’n teimlo ei fod yn cynrychioli cynhwysiad. Rydym ni wedi cael bathodynnau i’w greu ac mae yna grysau t ar y ffordd gyda’r logo arnynt, efallai welwch rhai staff yn eu gwisgo. Os ydych, gofynnwch iddynt amdano!
Rydym wedi dechrau datblygu proses ar gyfer gwobrwyo bathodynnau, yn ddigidol ac mewn person, mae’n dechrau tyfu, ond mae o hyd yn y camau cynnar. I ddarganfod rhagor am y bathodynnau, gofynnwch i rywun sy’n gwisgo un neu ymunwch â’r Modiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cynwysoldeb ar Blackboard https://salt.swan.ac.uk/cy/bite-size/inclusivity-cpd. I gael bathodyn bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch ymrwymiad gyda Chynwysoldeb yma ym Mhrifysgol Abertawe. Efallai trwy gymryd rhan mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus eich hun, mynychu hyfforddiant EDI neu gall fod wrth hybu ymwybyddiaeth a chefnogi myfyrwyr neu gyd-weithwyr mewn rhyw ffordd.
Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch ymrwymiad a darparu trosolwg o beth rydych wedi bod yn gwneud. Rydym yn gofyn bod eich tystiolaeth yn cael eu rhannu fel bod pobl eraill yn gallu dysgu o’ch profiadau. Gall hwn fod ar Blog y Llyfrgell (cysylltwch â Gwasanaethau’r Llyfrgell: customerservice@abertawe.ac.uk), Blog SALT (cysylltwch â salt@abertawe.ac.uk) neu ar fodiwl Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cynwysoldeb ar Blackboard (am fynediad https://salt.swan.ac.uk/cy/bite-size/inclusivity-cpd)

Grŵp Cynwysoldeb GGS

Leave a Reply

Your email address will not be published.