Wythnos TEL DPP – Mae’r stori’n Parhau’

 

 

Shaking handsRoedd Mai 13eg – 17eg 2019 yn wythnos TEL DPP yma yn SALT. Am y tro cyntaf, fe wnaethon ni cynnig tair ffordd i ddysgu rhagor am fuddion pedagogeg dysgu trwy dechnoleg, i gyd mewn un wythnos:-

  1. TRAFODAETHAUTEL19 – Rhaglen o drafodaethau byw ar-lein yn defnyddio Blackboard Collaborate Ultra.
  1. Padlet TACLAU TEL a Mathau o Ddysgu – bwrdd bwletin digidol gyda dolenni i amrywiaeth eang o Daclau TEL, wedi alinio i chwe math o ddysgu Diana Laurillard, sydd wrth wraidd ymagwedd ABC UCL at ddylunio dysgu.
  1. Seminar 7 Nodwedd o Athro Brifysgol Dda, sesiwn wyneb yn wyneb gan Dr Nigel Francis, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. ‘Dod yn Athro Gwell: Trosi’r Dosbarth’

Dyma damaid o wybodaeth am bob un o’r uchod a sut gallwch o hyd cymryd rhan. Crëwyd lawer o adnoddau gallwch o hyd defnyddio neu cofrestrwch am DPP perthnasol o SALT – gwelir y dolenni ar ddiwedd y blog yma.

TRAFODAETHAUTEL19

Mae ein trafodaethau ar-lein wedi denu lawer o staff sydd yn awyddus i ddysgu rhagor am dechnoleg math-webinar, fe wnaethon nhw ffeindio’r sesiynau bore ‘blasu’ yn gyflwyniad defnyddiol i’r hanfodion. Fe wnaeth lawer o staff yna adeiladu ar y profiad yna gan fynychu trafodaethau’r prynhawn oedd ar y testunau canlynol.

  • Polau fel ffordd i Atynnu Grwpiau Mawr
  • Padlet
  • Dysgu Cyfunol a Dysgu wedi Trosi
  • Cynwysoldeb a Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg

Fe wnaeth y trafodaethau prynhawn galluogi staff ledled y brifysgol dysgu o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad o’i gilydd; roedd yna lawer o gwestiynau a sylwadau i adlewyrchu arno, gan ddatblygu sgiliau yn defnyddio teclyn cyfathrebu ar-lein cydamserol.

Fe wnaethon ni fwynhau cysylltu â staff Prifysgol Abertawe yn y modd yma. Roedd y sesiynau yn fywiog, cynnwys cyfoethog ac yn amrywiol.

Yn yr adborth, roedd ein cyfranogwyr yn frwdfrydig am y posibilrwydd o ddefnyddio taclau megis Blackboard Collaborate yn eu dysgu, addysgu a chyfathrebiad rhwng myfyrwyr a staff.

Wrth ymateb i’r cwestiwn…

‘A fyddech yn defnyddio technoleg webinar fel hyn yn y dyfodol?’

Fe wnaeth 85% o gyfranogwyr dweud ‘BYDDEN’
Dywed 15% ‘EFALLAI’

 

Mae’r cwmwl geiriau yma yn portreadu’r ffyrdd dywedodd cyfranogwyr gallent ragweld eu defnyddio.

 

 

Os hoffech ddysgu rhagor am ddefnyddio Blackboard Collaborate, cael mynediad i’r recordiau neu eisiau dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn TRAFODAETHAUTEL y dyfodol, cysylltwch ag Uwch Ddatblygydd Academaidd SALT ac Arweinydd Peilot Blackboard Collaborate, Debbie Baff 

Mae Padlet Peilot Debbie yn cynnwys fwy o wybodaeth ddefnyddiol.

Padlet Taclau TEL a Mathau o Ddysgu

Mae hwn o hyd ar gael i weithio gyda. Sgroliwch i lawr ar bob colofn i ddysgu rhagor am y mathau o ddysgu a’r dechnoleg ddigidol gellir defnyddio ochr yn ochr neu yn lle’r dulliau confensiynol o ddysgu. Cyfrannwch gan ychwanegu sylwadau neu gofnodion eich hun.

https://padlet.com/susaltysalt/TELTOOLS

Seminar 7 Nodwedd o Athro Brifysgol Dda

Dr Nigel Francis, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Dod yn Athro Gwell: Trosi’r Dosbarth

Roedd y digwyddiad â chynulleidfa niferus yma yn A019, ystafell Dysgu Weithredol ar Gampws y Bae, roedd yna lawer o drafodaethau ‘trosi’r dosbarth’!

Mae sesiwn gyntaf Nigel o’r seminar yma, gynhaliwyd yn SALT, nawr ar gael i wylio

Diolch enfawr i bawb wnaeth gyfrannu a chymryd rhan yn Wythnos TEL DPP.

Croesawn eich adborth a gobeithio eich gweld gyda hyd yn oed fwy o staff yn rhaglen y flwyddyn nesaf.

Rhagor o DPP SALT efallai hoffech wybod am:

Modiwl DPP Dysgu wedi Trosi

Modiwl DPP Cynwysoldeb

Rhaglen Seminar a Gweithdy 7 Nodwedd

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch

Cymrodoriaeth yr AAU

Profion Blackboard

Rhaglen Drws Agored

Am unrhyw ymholiadau ar Wythnos TEL DPP, cysylltwch â Rhian Ellis 01792 604302 neu salt@abertawe.ac.uk

Trydar @susaltteam #susaltcpd #TELTALKS19

Gweler hefyd:

UCL ABC Learning Design Toolkit

Luarillard, D  Six Types of Learning (2002) 

Leave a Reply

Your email address will not be published.