Y Sialensiau yn Newid

Ciwb Rubik ar y tywod, sy'n dangos her

Mae’n Her

Mae Alison Williams yn addysgu Ffrangeg ac eisiau annog ei myfyrwyr hi i wneud yr iaith yn rhan o’i bywydau pob dydd yn hytrach na bod yn rhywbeth sydd yn gyfyng i’r dosbarth a gwaith cartref, gan mai dyna’r ffordd i gynyddu rhuglder a ffydd mewn iaith dramor. Yn y gorffenol, mae hi wedi ceisio gofyn i fyfyrwyr i gadw dyddiadur o bethau sy’n gysylltiedig â phethau Ffrengig maent wedi gwneud, ond nad oedd hwn yn ddigon rhyngweithiol ac nad oedd yna gymhelliant iddyn nhw eu gwneud. Ar gyfer y sesiwn newydd 2016-17, fe wnaeth hi benderfynu cyflwyno gweithgaredd ‘Sialensiau’ i ddosbarthiadau wythnosol ysgrifennu a gramadeg y flwyddyn gyntaf. Mae yna nifer o sialensiau ar ddarnau o bapur mewn bag/jar/tin a bob wythnos bydd un myfyriwr yn pigo sialens (fel twb lwcus).

Enghreifftiau o’r gweithgareddau:

  • Gwylio ffilm/rhaglen deledu Ffrengig ac adrodd yn ôl amdano
  • Darganfod cân Ffrengig a dweud pam eich bod yn hoffi, pwy sy’n canu, pa themau sydd yn y gân
  • Adrodd yn ôl am lyfr Ffrengig
  • Dilyn porthiant newydd sy’n gysylltiedig â Ffrangeg ar Twitter, Instagram neu Facebook
  • Darllen am destun gramadeg ac adborth yn ôl am yr adnoddau wnaethoch ddefnyddio

Yr wythnos ganlynol, mae’r myfyriwr yn dweud wrth y dosbarth (yn Ffrangeg) am beth maent wedi gwneud, gan gynnwys defnyddio clipiau o YouTube neu Cyfryngau Cymdeithasol. Mae rhai myfyrwyr yn rhannu eu golygon am ffilmiau, caneuon ayyb sydd yn arwain at adolygu gramadeg. Mae’r adran yn dysgu dosbarthiadau llafar mewn grwpiau bach, mae hyn yn golygu bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan/cyflwyno mewn pâr. Mae’r darlithiau o fewn yr adran yn cynnal rhan o Blackboard ar gyfer y modiwl lle maent yn cadw cofnod o’r llyfrau, ffilmiau ayyb sydd wedi cael eu cyflwyno. Mae hwn yn ddefnyddiol ar gyfer pob myfyriwr sydd ar y modiwl, gan eu bod nhw’n gallu gweld pa ddeunydd sydd werth ddefnyddio. Mae’r gweithgaredd yn cael ei ddefnyddio i roi’r siawns i fyfyrwyr arwain a chyfarwyddo ei gilydd.

Dywed Alison, “Mae angen i mi feddwl am sialensiau newydd ar gyfer y tymor nesaf – roeddwn i’n mynd i ofyn i’r myfyrwyr ysgrifennu sialensiau eu hun.” Wrth edrych yn ôl ar y sialensiau, maent yn bositif iawn. Mae Alison a’i chydweithwyr yn edrych ymlaen at weld sut fydd hwn yn effeithio ar ganlyniadau’r myfyrwyr, a hoffwn ni cyfrif werth y broses yn ffurfiol yn y dyfodol.

Comments are closed.