Sut i geisio am Gymrodoriaeth – Y Llwybr Profiadol

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Mae Llwybr Cais Abertawe ar gael yn rhad ac am ddim i staff Prifysgol Abertawe.

Gall staff sydd â digon o brofiad cyfredol o addysgu/cefnogi dysgu mewn addysg uwch wneud cais am gydnabyddiaeth drwy lwybr profiadol Llwybr Cais Abertawe. Mae staff sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr ar y Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd wneud cais drwy’r llwybr hwn. Mae cydnabyddiaeth fel Cymrawd Cysylltiol neu Gymrawd ar gael.

(Bydd myfyrwyr ar y cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd nad ydynt yn gweithio i Brifysgol Abertawe yn cael eu hasesu gan ddefnyddio meini prawf Llwybr Cais Abertawe, ond bydd rhaid iddynt dalu am eu cydnabyddiaeth gyda’r Academi Addysg Uwch ar sail ei chyfraddau cyfredol.

Mae’r Llwybr Profiadol ar gael i’r holl staff sy’n cyfrannu at ddysgu ac addysgu, gan gynnwys staff cymorth a gweinyddwyr, staff y llyfrgell, gyrfaoedd a marchnata, ar yr amod bod ganddynt ddigon o brofiad.

Mae’r rhaglen gefnogol ar gyfer ceisiadau llwybr profiadol, ar gael ym mhob lleoliad ar ffurf cefnogaeth gyfunol, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn gymwys i wneud cais drwy lwybr cefnogol i gyflwyno cais ar gyfer Cymrodoriaeth Gysylltiol.

 

Sut i wneud cais am Gymrodoriaeth drwy’r Llwybr Profiadol

Beth dylwn ei wneud yn gyntaf? Casglu Gwybodaeth

Siaradwch â Chadeirydd Dysgu ac Addysgu’ch Coleg, yr Arweinydd ADAA neu’ch rheolwr llinell ac ystyried a yw cais am Gymrodoriaeth yn briodol i chi a pha gategori o Gymrodoriaeth yw’r un mwyaf perthnasol. Mae’r llwybr hwn ar gyfer staff profiadol ag o leiaf tair blynedd amser llawn (neu gyfwerth) o brofiad addysgu mewn addysg uwch.  Gall myfyrwyr ar y cwrs TAR mewn Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd wneud cais drwy’r llwybr profiadol hefyd, a dylent drafod yr opsiynau â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Mae llwybrau eraill ar gael a allai fod yn fwy addas os nad oes digon o brofiad gennych – TAR mewn Addysg uwch ag opsiynau eraill ar gyfer staff addysgu rhan-amser.

Rydyn ni’n cynnal sgyrsiau anffurfiol ar gyfer cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth (unrhyw gategori) drwy ein sesiynau Cymrodoriaeth a Chwestiynau. Cynhelir y rhain bob pythefnos ar brynhawn Mawrth yn ystod y tymor. I gadw lle, cofrestrwch drwy dudalen Digwyddiadau’r Dyfodol SALT.

Beth mae angen i mi ei wneud? Cwblhau Sesiwn Sefydlu

Ewch i sesiwn wybodaeth ar gyfer y sefydlu cychwynnol. I weld pryd mae’r sesiynau gwybodaeth nesaf, cofrestrwch ar gyfer Digwyddiadau Cyfredol ADAA.

NEU

Os nad ydych yn gallu mynd i un o’r sesiynau, ond hoffech gael mynediad i’r adnoddau perthnasol ar-lein, anfonwch gais drwy’r ddolen hon:

Dolen Cais am Fynediad i Gwrs Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch drwy Lwybr Cais Abertawe

Cewch eich cofrestru ar gwrs CANVAS lle cewch adnoddau pellach i gefnogi’r broses ymgeisio, gan gynnwys dolenni i gadw lle ar sesiynau cymorth ysgrifennu dewisol.

Ar ôl y cwrs sefydlu cychwynnol, i fwrw ymlaen â chais, rhaid i chi

  • gwblhau dadansoddiad o anghenion ar-lein gan nodi’ch profiad mewn perthynas â’r categori perthnasol o Gymrodoriaeth a
  • Chyflwyno cais drafft o leiaf mis cyn y dyddiad cau.

Mae sesiynau cymorth ysgrifennu dewisol ar gael.

Mae sesiynau Cymrodoriaeth a Chwestiynau hefyd ar gael drwy gofrestru ar y cwrs CANVAS.

Mae rhagor o fanylion am y Rhaglen Gymorth ar gael yn y sesiwn wybodaeth a/neu ar y modiwl Blackboard os nad ydych yn gallu mynd i’r sesiwn.

Beth mae’r broses ymgeisio yn ei gynnwys?

Gallwch gyflwyno cais am Gymrodoriaeth drwy ddau ddull (yn unrhyw un o’r tri chategori) – drwy gais ysgrifenedig neu drwy gyflwyniad llafar. Mae’r ddau lwybr yn rhannu rhai elfennau gweinyddol craidd, ond mae ganddynt ffurflenni gwahanol a gofynion gwahanol, yn unol â’r categori o Gymrodoriaeth.

Mae’r dogfennau trosolwg hyn yn crynhoi’r rhain:

Crynodeb o Gais Ysgrifenedig: SAR HEA Fellowship categories poster WRITTEN neu

Grynodeb o Gais drwy Gyflwyniad: SAR HEA Fellowship categories poster PRESENTATION

Mae angen i bob cais gael ei ategu gan dystiolaeth a dau ddatganiad cefnogol.

Camymddygiad Academaidd

Caiff ymgeiswyr fynediad i geisiadau llwyddiannus blaenorol er mwyn eu hadolygu i gael canllawiau i gwblhau’r ffurflen ar-lein, y mathau o dystiolaeth i’w cynnwys ayb. Serch hynny, rhybuddir ymgeiswyr y bydd y Brifysgol yn defnyddio ei Gweithdrefnau ynghylch Ymddygiad a Disgyblu os oes unrhyw amheuon o gamymddygiad academaidd.

 

Am Ragor o Fanylion

Cysylltwch â’r Tîm Cydnabyddiaeth yn ADAA: Louise Rees (l.j.rees@abertawe.ac.uk) neu Darren Minister (d.g.minister@abertawe.ac.uk)

Comments are closed.