Dyluniad Dysgu ABC


ABC ym Mhrifysgol Abertawe

‘y gweithdy datblygu cwricwla ynni-uchel, ymarferol’


Mae ymagwedd ABC yn ysgogi lefel uchel o ymgysylltu, deialog a myfyrio grŵp am ddylunio cwricwla. Mewn 90 munud yn unig, mae timau addysgu’n gweithio gyda’i gilydd i greu ‘bwrdd stori’ gweledol sydd wedi’i wneud o gardiau wedi’u hargraffu ymlaen llaw.

Yn seiliedig ar gysyniad y chwe math o ddysgu yn ‘Conversational Framework’ Teaching as a Design Science (2012) gan yr Athro Diana Laurillard, gall timau adolygu modiwlau presennol neu lunio rhai newydd. Mae natur ddwys, gyflym y gweithdy’n galluogi academyddion prysur i gynllunio gweithgareddau dysgu i fodloni amcanion dysgu’r modiwl neu’r rhaglen.

Mae dros 35 o brifysgolion a cholegau ledled y DU, Ewrop a’r tu hwnt wedi elwa o fethodoleg dylunio dysgu ABC ac rydym yn falch o allu cynnig cymorth ar gyfer y fethodoleg hon yma yn Abertawe.

Mewn ymateb i’r sefyllfa COVID-19 bresennol, mae’r sesiynau hyfforddi Dylunio Dysgu ABC yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd gan staff y cymorth y mae ei angen arnynt i fyfyrio ar eu modiwlau, eu rhaglenni a’u deunyddiau presennol â’r nod o ystyried opsiynau ar-lein. Mae’r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai  a chwestiynau cyffredin ar-lein, byw, safonol, a gyflwynir drwy Zoom, wedi’u cyfuno â thasgau hunan-arweiniedig.

Comments are closed.