Technoleg Bleidleisio / Clicwyr

Systemau Ymateb y Gynulleidfa (Technoleg Bleidleisio/Clicwyr)

Daeth y meddalwedd clicwyr TurningPoint rydym ni wedi ei ddefnyddio yma yn Abertawe am sawl blwyddyn i ben ym mis Gorffennaf 2016.

Cliciwch yma am wybodaeth gymorth ar gyfer y cynnyrch hwn a ollyngwyd.

Rydym wedi ymdrechu i gynnal y system hon tan nawr, ond o ganlyniad i broblemau sy’n ymwneud â’i chydweddoldeb â systemau gweithredu modern, mae’r sefyllfa hon bellach yn anghynaladwy. O’r flwyddyn academaidd 19/20 ymlaen, ni fydd system TurningPoint a gefnogir yn ganolog ar gael mwyach.

Vote !!

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n caffael Llwyfan Dysgu Digidol newydd i ddisodli Blackboard. Bydd llawer o’r Llwyfannau Dysgu Digidol cyfoes yn cynnwys rhyw fath o swyddogaeth holi barn ac felly, nes i ni ddethol system newydd a’i rhoi ar waith, mae’r Brifysgol wedi penderfynu oedi o ran gwneud penderfyniad am y ffordd orau o ddarparu system unigol a gefnogir yn ganolog.

Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn ystyried yr amrywiaeth eang o radwedd sydd ar gael. Yn aml, mae hon yn fersiwn swyddogaethau cyfyngedig o gynnyrch mwy y mae’n rhaid talu amdano. Mae’r cyfyngiadau y mae cwmnïoedd gwahanol wedi’u gosod ar eu cynnyrch yn amrywio. Er na fyddant oll yn addas i’ch anghenion ym mhob sefyllfa, mae’n golygu y dylai fod un sy’n addas i’r rhan fwyaf o anghenion.

Yn gynharach eleni, e-bostiwyd pob aelod o’r staff addysgu i’w hysbysu o’r newidiadau yn yr arfaeth, gan ymholi ynghylch unrhyw systemau rhadwedd maent wedi bod yn eu defnyddio.

Mae’r siartiau a welir drwy’r dolenni isod yn dangos cymhariaeth o’r swyddogaethau sydd ar gael ym mhob un o’r cynhyrchion rhadwedd y dywedodd staff eu bod yn eu defnyddio. Mae pob cynnyrch yn y siartiau wedi’i gymeradwyo gan dîm diogelwch TG i’w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

• Siartiau cymharu System Ymateb y Gynulleidfa (cliciwch yma i’w gweld)

Crëwyd y matricsau â’r nod o’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad gwybodus pan fyddwch yn chwilio am system bleidleisio a fydd yn addas i’ch sesiynau chi.

Mae’r pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd wedi cymeradwyo’r trefniant isod am y tro, o leiaf nes y bydd adolygiad o amgylchiadau mewn perthynas â’r Llwyfan Dysgu Digidol yn cael ei roi ar waith.

  • Bydd ADAA yn parhau i ddarparu cymorth addysgiadol ar gyfer systemau ymateb y gynulleidfa
  • Staff academaidd fydd yn penderfynu pa system sy’n addas i’w defnyddio, yn seiliedig ar y matrics cymharu a’u hanghenion addysgu
  • Caiff y sefyllfa ei hadolygu pan fydd y Llwyfan Dysgu Digidol newydd yn weithredol

 

Am fwy o wybodaeth:

Bb Collaborate session exploring options, TEL Week May 2019.  (open link in Chrome)

Chan, S.C.H.; J.C.L. Wan and S. Ko (2019) ‘Interactivity, active collaborative learning, and learning performance: The moderating role of perceived fun by using personal response systems’, in The International Journal of Management Education, Vol 17 (1) 94-102 DOI: https://doi.org/10.1016/j.ijme.2018.12.004

Ko, L.N., J. Rana and S. Burgin (2017) ‘Teaching & Learning Tips 5: Making lectures more “active”‘,in International Journal of Dermatology, Vol. 57 (3), 351-354. DOI: https://doi.org/10.1111/ijd.13701

Papadopoulos P.M., Natsis, A, Obwegeser N. and A. Weinberger (2018) ‘Enriching feedback in audience response systems: Analysis and implications of objective and subjective metrics on students’ performance and attitudes’, in Journal of Computer Assisted Learning,  Vol. 35 (2),  305-316. DOI:  https://doi.org/10.1111/jcal.12332

Comments are closed.