Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (CAC)

Proses y Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol

Grŵp o athrawon yw’r Cymrodorion Addysgu Cenedlaethol (CAC) sydd wedi eu henwebu gan eu prifysgolion a’u dewis gan yr Academi Addysg Uwch (AAU) i gael eu hanrhydeddu gyda chydnabyddiaeth fel rhai eithriadol yn eu maes. Rhoddir y Gwobrau yn flynyddol ar sail meini prawf penodedig ac ar hyn o bryd maent yn cario gwobr ariannol fechan, i’w defnyddio i ddatblygu eu haddysgu.

Gweler yma am ragor o wybodaeth am ein Cymrodorion blaenorol.

  • Maen Prawf 1 – Rhagoriaeth unigol: tystiolaeth o wella a thrawsnewid profiad dysgu’r myfyriwr sy’n gymesur â chyd-destun yr unigolyn a’r cyfleoedd a gynigir iddo.
    Gellir dangos hyn, er enghraifft, drwy ddarparu tystiolaeth o: ysgogi chwilfrydedd a diddordeb myfyrwyr mewn ffyrdd sy’n ennyn ymrwymiad i ddysgu; trefnu a chyflwyno adnoddau o ansawdd uchel mewn ffyrdd hygyrch, cydlynol a llawn dychymyg, sy’n amlwg yn ei dro yn gwella dysgu’r myfyrwyr; cydnabod ac ymroi i gefnogi’r amrywiaeth lawn o anghenion dysgu myfyrwyr; tynnu ar ganlyniadau ymchwil berthnasol, ysgolheictod ac arfer proffesiynol mewn ffyrdd sy’n ychwanegu gwerth at addysgu a dysgu myfyrwyr; ymgysylltu â llenyddiaeth sefydledig a chyfrannu ati neu at sylfaen dystiolaeth yr enwebai ei hun ar gyfer addysgu a dysgu.
  • Maen Prawf 2 – Codi proffil rhagoriaeth: tystiolaeth o gefnogi cydweithwyr a dylanwadu ar gefnogaeth i ddysgu myfyrwyr; dangos effaith ac ymgysylltiad y tu hwnt i swyddogaeth academaidd neu broffesiynol yr enwebai.
    Gellir dangos hyn, er enghraifft, drwy ddarparu tystiolaeth o: gwneud cyfraniadau eithriadol i ddatblygiad proffesiynol cydweithwyr mewn perthynas â hyrwyddo a gwella dysgu’r myfyrwyr; cyfrannu i fentrau adrannol / cyfadrannol / sefydliadol / cenedlaethol i hwyluso dysgu’r myfyrwyr; cyfrannu at a / neu gefnogi newid ystyrlon a chadarnhaol o ran arferion addysgeg, polisi a / neu weithdrefn.
  • Maen Prawf 3 – Datblygu rhagoriaeth: tystiolaeth o ymrwymiad yr enwebai i’w ddatblygiad proffesiynol parhaus ef / hi ei hun o ran addysgu a dysgu a/neu gefnogi dysgu.
    Gellir dangos hyn, er enghraifft, drwy ddarparu tystiolaeth o: adolygu a gwella ymarfer proffesiynol unigol yn barhaus; cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol sy’n cynyddu arbenigedd yr enwebai mewn addysgu a chefnogi dysgu; cymryd rhan mewn adolygu a gwella ei ymarfer proffesiynol ei hun a / neu ei waith academaidd; cyfraniadau penodol i welliannau sylweddol ym mhrofiad dysgu’r myfyrwyr.

Mewn ymdrech i alluogi mwy o gydweithwyr i ddeall y broses yn Abertawe a chynllunio datblygiad eu gyrfa er mwyn cynnwys cais CAC o bosibl ar ryw adeg, rydym wedi casglu at ei gilydd rai cwestiynau a ofynnir yn aml:

Oes rhaid i mi f’enwebu fy hun ynteu a all rhywun arall wneud hynny ?

Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi galwad pan fydd y cynllun yn agor bob blwyddyn i wahodd diddordeb gan gydweithwyr sy’n credu y gallant fod yn addas ar gyfer enwebiad. Os oes gennych ddiddordeb, byddwch yn ymateb yn bersonol, nid person arall yn gwneud hynny ar eich rhan. Bydd angen i’r rheiny sy’n mynegi diddordeb ymateb yn ysgrifenedig a bydd pob achos yn cael ei ystyried wedyn er mwyn i’r Brifysgol ddewis ei 3 enwebiad i fynd ymlaen.

Faint o waith mae hyn yn ei olygu ?

Mae ymateb i’r alwad gychwynnol yn golygu ychydig o waith, gan dynnu ar feini prawf a gwefan yr Academi Addysg Uwch. Os cewch eich dewis i fynd ymlaen, bydd angen i chi roi amser ac egni i’r cais er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi eich hun a’ch sefydliad lwyddo.

Pa adeg o’r flwyddyn fydd hyn yn digwydd ?

Mae’r amseru’n amrywio, ond rydym yn ymwybodol nad oes byth amser llai prysur i bawb. Pennir yr amseriad gan yr AAU.

Pa mor bell ymlaen y dylwn fod yn cynllunio hyn ?

Yn ddelfrydol, dylid gwneud y penderfyniad ymhell ymlaen llaw. Byddwch yn gwybod a ydych mewn sefyllfa lle rydych yn meddwl bod cydnabyddiaeth genedlaethol yn briodol i’ch cyfnod o ddatblygiad a lefel eich perfformiad. Efallai yr hoffech sôn amdano wrth eich rheolwr llinell yn ystod adolygiad eich datblygiad proffesiynol neu drafod y peth gydag un o’r CAC presennol neu eich Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu.

Pa fath o beth y maent yn chwilio amdano ?

Mae’r CAC yn gymuned o athrawon ag ymrwymiad amlwg i addysgeg arloesol, seiliedig ar dystiolaeth. Yn unigol, maent yn ymarfer ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan adael eu hôl ar eu sefydliadau, ond, gyda’i gilydd, maent yn dod ynghyd i gefnogi rhagoriaeth mewn addysgu a datblygiad gydag agenda gymdeithasol a gwleidyddol gynyddol. Bu’r CAC yn egnïol yn eu hadborth ar y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac maent yn cyfrannu fwyfwy i’r sector yn ehangach.

Oes yna unrhyw gymorth ar gael i mi yn sefydliadol ?

Mae’r broses yn seiliedig yn SALT ac felly mae cymorth ar gael o fewn y tîm o ran gwybodaeth. Fodd bynnag, os cewch eich dewis, byddwch yn cael mentor, fydd yn gweithio gyda chi i amserlen ragnodedig er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cyfle gorau i’ch cyflwyno eich hun yn dda.

Pa mor fawr yw’r wobr ariannol a beth allaf i ei wneud â hi ?

Mae’r Wobr yn £10,000 ond ni ellir ei defnyddio i ddim ond i gefnogi eich datblygiad addysgu, yn unol â phrotocol ariannol Prifysgol Abertawe.

Oes yna ryw fanteision i fod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol ar wahân i’r arian ?

Yn sicr! Mae dod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol yn dod â chi i gysylltiad â llawer o unigolion hynod o ddiddorol, llawn syniadau, arbenigedd a phrofiad. Mae Cymuned y Cymrodorion Addysgu yn groesawus dros ben a cheir amrywiaeth o gyfleoedd amrywiol i fynychu eu symposiwm blynyddol, cydweithio ar ddatblygu addysgeg, cyhoeddi ac ymchwilio i addysgeg.

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn cael Cymrodoriaeth ?

Gwahoddir Cymrodorion llwyddiannus i ddathliad yn Llundain yn ystod yr Hydref pan gyflwynir eu Gwobr iddynt. Ariennir eich presenoldeb a gwahoddir chi i fynd â pherson o’ch dewis gyda chi. Mae’n ddigwyddiad mawreddog, ond hollol bleserus ac ysgogol, yng nghwmni pobl ddiddorol.

Oes gennym ni Gymrodorion Addysgu Cenedlaethol eisoes ?

  • Yr Athro Aidan Byrne oedd ein Cymrawd Addysgu Cenedlaethol cyntaf yn y Coleg Meddygaeth, sy’n awr yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Jane Thomas, Cyfarwyddwr SALT, a dderbyniodd y wobr yn y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd
  • Yr Athro Derek Connon, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

(Gweler yma am ragor o wybodaeth am ein Cymrodorion blaenorol)

Peidiwch â gadael i statws yr Athro eich digalonni – nid yw’n ofynnol ac mae llawer o Gymrodorion mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfa ac efallai y byddant yn dod o gefndiroedd proffesiynol neu lwybrau mwy academaidd ond i gyd yn unfryd yn eu hoffter cyffredin o addysgu.

Sut mae’r Brifysgol yn dewis pobl bob blwyddyn ?

Pan gyhoeddir yr alwad i fynegi diddordeb, caiff y grŵp a ddewiswyd eu hasesu o ran ansawdd eu datganiad o ddiddordeb, y graddau y maent ar gael i ymrwymo i’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig, ynghyd â’u proffil addysgu /sylfaen o dystiolaeth. Dewisir tri i fynd ymlaen ac wedyn byddwn yn dechrau gweithio’n ddwys gyda hwy i baratoi cyflwyniad manwl mewn cyfnod cywasgedig o amser.

Leave a Reply

Your email address will not be published.