Mae Turnitin, ynghyd â’r tŵls integredig marcio sgrin Feedback Studio, yn ymestyn trwy holl sector addysg uwch yn y DU ac yn wir, y byd. Mae ar y ffordd i fod yn hollbresenoldeb !
Mae’r system gwirio tebygrwydd yn gwirio gwaith myfyrwyr yn syth gan ddefnyddio cydnabyddiaeth patrymau ac yn erbyn cronfeydd data wrth gynnwys 45+ biliwn o dudalennau we, 337+ miliwn o bapurau myfyrwyr a 130+ miliwn o erthyglau o lyfrau academig a chyhoeddiadau. Mae’r adroddiad yn dangos ffynonellau unigol wrth adael i chi ddeall pa ran sy’n wreiddiol a pa ran sydd ddim, gan alluogi’r academydd i wneud dyfarniad ynghylch a oes yna faterion yn ymwneud ag ysgrifennu a chyfeirnodi, neu os oes Uniondeb Academaidd yn cael ei drin hefyd.
Mae Feedback Studio yn hyrwyddo marcio ar lein, wrth arbed amser yr hyfforddwyr a rhoi adborth sy’n fwy cefnog i fyfyrwyr gan ganiatáu sylwadau’n unionsyth ar y sgript. Mae banciau sylwadau personol yn gynwysedig sydd yn arbed amser wrth osgoi ail deipio’r un sylwadau drosodd a throsodd. Mae hefyd yn cynnwys nodweddion megis teclyn rhuddell a recordydd llais sydd yn caniatáu sylwadau wedi’u recordio.
Mae yna ddogfennau wedi atodi isod sydd yn amlinellu’r defnydd o’r teclau yma, ac mae yna ddefnyddwyr profiadol ym mhob agwedd, ym mhob coleg, gan gynnwys:
- Gosod a rheoli’r aseiniadau
- Dehongli adroddiadau llên-ladrata
- Marcio ar y sgrin
- Technoleg Gwirio Gramadeg e-rater®
- Turnitin Feedback Studio
- Turnitin Grademark: Sefydlu Aseiniad Turnitin
- Accessing legacy Turnitin Submissions (submissions made via Turnitin in Blackboard)
- Dylai myfyrwyr sydd am gael mynediad at gyflwyniadau Turnitin blaenorol gysylltu â’u coleg yn y lle cyntaf. Bydd y coleg yn gallu lawrlwytho’r aseiniadau ar eu cyfer
Mae SALT yn gallu cynghori chi ar bob agwedd o’r system.