ELTA / ESSA

Dysgu rhagorolRhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu / Cynllun Gwobrwyo Cymorth i Fyfyrwyr

Mae’r Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu / Cynllun Gwobrwyo Cymorth i Fyfyrwyr yn cael eu dyfarnu’n flynyddol i’r aelodau o staff sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i brofiad dysgu’r myfyrwyr. Mae’r derbynwyr yn cael eu henwebu gan ddau fyfyriwr a rhaid i bob enwebiad cael cefnogaeth oddi wrth aelodau o staff y Coleg. Mae’r enwebiadau yn cael eu dyfarnu gan banel sy’n cynnwys Cyfarwyddwr SALT, y Dirprwy Is-ganghellor (Academaidd), enillwr blaenorol gwobr dysgeidiaeth yr Is-ganghellor a swyddog sabothol o’r Undeb myfyrwyr.

Nodau Cynlluniau Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu / Cynllun Gwobrwyo Cymorth i Fyfyrwyr

  • I roi cydnabyddiaeth gyhoeddus i’r gwerth mae Prifysgol Abertawe yn rhoi ar ansawdd dysgeidiaeth a chymorth dysgu.
  • I annog a hyrwyddo dull adlewyrchol gan staff sydd â balchder ynglŷn ag ansawdd y ddysgeidiaeth a chymorth dysgu i’w cydweithwyr a’i hunan.
  • Cyfle i fyfyrwyr rhoi eu cyfraniad i mewn i benderfyniad y wobr fawreddog yma.

Mae Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu / Cynllun Gwobrwyo Cymorth yn bwriadu adlewyrchu gwerthfawrogiad y myfyrwyr o ansawdd y dysgu a’r cymorth maen nhw wedi cael. Fydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i enwebu un o’i athrawon neu aelod o staff i’r gwobrau yma.

(Mae cynllun ELTA/ESSA yn esblygiad o’r hen ‘Distinguished Teaching Award (DTA)’)


Cliciwch yma i weld enillwyr blaenorol.


Comments are closed.