Llwybrau i Gymrodoriaeth

Success

Mae Llwybr Cais Abertawe’n cynnig pedwar llwybr i staff sydd am wneud cais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch, gan ddibynnu ar faint o brofiad sydd gan yr ymgeisydd a/neu statws ei gontract.

Mae gan myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig cyfredol sydd wedi cyflogi ar contract dros dro er mwyn darparu rolau cefnogol ar gyfer dysgu/arddangos, mynediad i lwybr cefnogol i AFHEA.

 

  1. Llwybr Cais Abertawe – Llwybr ar gyfer staff profiadol – amser llawn neu ran-amser a/neu staff sy’n astudio ar y cwrs TUAAU Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd. Cânt eu hannog i wneud cais drwy fodloni’r un gofynion â staff profiadol. Mae’n arwain at AFHEA/FHEA neu SFHEA, gan ddibynnu ar lefel y profiad.
  2. Llwybr Cais Abertawe – Llwybr Addysgu  â Chymorth – cwrs cyfunol â chymorth tiwtor SALT, ar gyfer staff rhan-amser nad ydynt yn gallu mynd i sesiynau cynlluniedig y TUAAU.  Mae’n arwain at AFHEA.  Bydd ymgeiswyr yn cwblhau’r ffurflen gais a chânt eu hasesu gan ddefnyddio’r un meini prawf ag a nodir ar gyfer Llwybr Cais Abertawe i staff profiadol.
  3. Llwyr Cais AbertaweLlwybr ar gyfer staff rhan-amser sydd wedi cyflogi i ddarparu cymorth dysgu, ac hefyd yn fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. Cwrs cyfunol, gyda chymorth oddi wrth tiwtoriaid Colegol. Mae’n arwain at AFHEA. Mae gan hwn llawlyfr yn amlinellu’r cefnogaeth. Bydd ymgeiswyr yn cwblhau’r ffurflen gais ac yn cael eu asesu yn yr un ffordd amlinellir i staff profiadol y Llwybr Cais Abertawe.
  4. TUAAU– rhaglen wedi’i hachredu ar wahân yw hon â Chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.

Cefnogir tri chategori o Gymrodoriaeth drwy Lwybr Cais Abertawe: Cymrodoriaeth Gysylltiol, Cymrodoriaeth a Chymrodoriaeth Uwch. Rhaid i staff sydd â diddordeb mewn gwneud cais am Brif Gymrodoriaeth wneud hynny’n uniongyrchol i’r Academi Addysg Uwch.

Gall ymgeiswyr arfaethedig PFHEA edrych ar y PADLET yma am gyngor:

Made with Padlet

 

Pa gategori a llwybr sydd orau i mi?

Mae gan yr Academi Addysg Uwch twlsyn i’ch helpu benderfynu pa Gategori o Gymrodoriaeth sydd orau i chi: https://www.advance-he.ac.uk/form/fellowship-decision-tool

Gallai’r siart llif sylfaenol hwn eich helpu i benderfynu hefyd: Gweler Dewis Lefel Cymrodoriaeth – Siart Llif

Mae Llwybr Cais Abertawe’n cynnwys proses hunanasesu a dadansoddiad o anghenion gorfodol at ddiben adolygu enghreifftiau a thystiolaeth briodol i ategu’r categori:

 

 

 

 

 


  • Yn achos staff academaidd newydd, nad ydynt wedi addysgu mewn addysg uwch o’r blaen, neu sydd â phrofiad cyfyngedig, bydd rhaid iddynt astudio am un o’r Tystysgrifau Ôl-raddedig sydd ar gael ac, fel arfer, ni fyddent yn gwneud cais gan ddefnyddio’r llwybr ar gyfer staff profiadol.

  • Os ydych yn aelod staff â rhai cyfrifoldebau addysgu, neu os ydych yn darparu cymorth addysgu, megis fel llyfrgellydd, technegydd, technolegydd dysgu ayb, neu os ydych yn academydd ar ddechrau’ch gyrfa sydd â rhai cyfrifoldebau addysgu, dylech ystyried cyflwyno cais am Gymrodoriaeth Gysylltiol. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch yn gymwys am y categori Cymrodoriaeth neu Gymrodoriaeth Uwch, gan ddibynnu ar gwmpas eich gweithgareddau.
  • Dylid myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd wedi cyflogi i ddysgu, ystyried ennill cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth Gysylltiol.
  • Os ydych yn aelod o’r staff addysgu ac mae gennych o leiaf tair blynedd o brofiad amser llawn, dylech gyflwyno cais am Gymrodoriaeth.
  • Os ydych yn aelod profiadol o’r staff addysgu ac mae gennych gyfrifoldebau arweinyddiaeth rydych wedi’u cyflawni ers peth amser (e.e. mentor, cyfarwyddwr rhaglen, pennaeth adran) a bu gennych ddylanwad dros eraill mewn mentrau dysgu, addysgu neu asesu, efallai y bydd Cymrodoriaeth Uwch yn briodol i chi.
  • Os ydych yn academydd profiadol iawn sydd wedi cael effaith gyson ar lefel strategol y tu allan i’r Brifysgol, e.e. yn genedlaethol neu’n rhyngwladol, yna byddai Prif Gymrodoriaeth (cais uniongyrchol i’r Academi Addysg Uwch) yn briodol.

Nodir y rolau a’r gofynion tystiolaeth nodweddiadol ar gyfer pob categori o gymrodoriaeth yn yr Arweiniad i Ymgeiswyr Llwybr Cais Abertawe a thrwy’r ddolen hon: UKPSFSummary2017 – RaceandBrown.

Mae rhagor o fanylion ar gyfer staff sy’n cefnogi dysgu (e.e. llyfrgellwyr, technolegwyr dysgu, staff gyrfaoedd ayb) mewn Dogfen Arweiniad ar wefan yr Advance HE.

 

Am ragor o fanylion

Cysylltwch â’r Tîm Cydnabyddiaeth yn ADAA: Louise Rees neu Darren Minister

Leave a Reply

Your email address will not be published.