Rheoliadau Hygyrchedd Digidol

Beth yw Hygyrchedd Digidol?

Gallu gwefan, dyfais symudol neu ddogfen electronig i gael ei llywio a’i deall gan ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y defnyddwyr hynny ag anableddau gweledol, clywedol, motor neu wybyddol yw hygyrchedd digidol. (whatis.com, 2016)

I’r rhai hynny sy’n ei chael hi’n anodd cyrchu technolegau digidol, gallai ‘meddalwedd gynorthwyol’ eu helpu nhw. Serch hynny, mae’n bwysig bod adnoddau digidol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n galluogi’r feddalwedd hon i weithio a ‘gall dylunio digidol gwael wneud yr offer hynny’n llai effeithiol ac atal gallu’r defnyddiwr i ryngweithio â’r cynnwys digidol’. (Whatis.com, 2016)

Beth yw ystyr y Rheoliadau Hygyrchedd Digidol i mi?

 

image showing person inside a question mark representing what Digital Accessibility means for me

Image by Gordon Johnson from Pixabay

 

Mae’r dudalen we hon yn canolbwyntio ar agweddau Addysgu, Dysgu ac Asesu’r Rheoliadau’n unig. O safbwynt dysgu ac addysgu, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynnwys ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE), ac unrhyw blatfformau eraill (megis PebblePad) fod yn hygyrch. Bydd hyn yn cynnwys eich cyflwyniadau PowerPoint, nodiadau o’r darlithoedd, fideos etc.

Cydymffurfio:

Beth sydd angen i mi ei wneud i gydymffurfio?

icon showing mortar board on a computer monitor symbolising teaching materials    VLE:

 

Mae’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir; Canvas ar hyn o bryd, yn cynnwys nodweddion hygyrchedd.  Mae manylion o’r rhain ar dudalennau gwe Canvas.  Serch hynny, dylai cynnwys rydych yn ei roi ar Canvas fodloni safonau hygyrchedd. Nid yw hyn yn dasg anodd na beichus, ac mae rhai adnoddau isod a fydd yn eich helpu i wneud eich cynnwys yn fwy hygyrch.

black and white icon symbolising Blackboard    Deunyddiau Addysgu:

 

Rhaid i unrhyw gynnwys rydych yn ei greu fod yn hygyrch.  Gallai hyn fod mor syml â bod yn ymwybodol o’r cyferbyniad rhwng eich blaendir a chefndir ar eich cyflwyniadau PowerPoint, neu lle’r ydych wedi gosod llun, i ddefnyddio ALT-TEXT yn y priodweddau. Mae ALT-TEXT yn galluogi darllenwyr sgrîn i ddisgrifio’r llun. Mae rhai adnoddau a allai fod o gymorth i’w cael isod.

icon showing gps pointer symbolising navigation

Llywio a Strwythur:

 

Pan fyddwch yn uwchlwytho cynnwys i’ch tudalen ar Canvas, byddwch yn gyson yn y ffordd rydych chi’n ei strwythuro. Sut bynnag rydych chi’n bwriadu strwythuro’ch cwrs, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth eich myfyrwyr sut rydych chi’n ei strwythuro a ble maen nhw’n gallu dod o hyd i’w deunyddiau, aseiniadau ac ati. Wrth greu tudalennau a modiwlau, rhowch enwau ystyrlon iddyn nhw – mae mynd yn ôl pwnc yn hytrach nag wythnos yn fwy perthnasol (yn enwedig o ran adolygu!)

icon showing pc on desk symbolising electronic availability of materials   Argaeledd deunyddiau electronig:

 

Mae gan y Brifysgol bolisi y dylai deunyddiau darlithio fod ar gael 24 awr o flaen llaw. Mae’r Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu wedi cymeradwyo hyn, a’r rheswm am hyn yw ei fod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyrchu’r deunydd at ddibenion hygyrchedd – efallai bydd angen i rai myfyrwyr newid y ffont/lliw, bydd eraill yn cymryd amser i’w ddarllen, ac efallai bydd angen i rai ei ddarllen yn electronig ar eu dyfais gan ddefnyddio darllenydd sgrîn neu feddalwedd chwyddwydr.

Sut gallaf i wneud fy neunyddiau addysgu’n hygyrch?

 

Mae llu o wybodaeth, canllawiau a thiwtorialau ar gael ar-lein i’ch helpu i wneud eich deunydd darllen yn hygyrch. Serch hynny, mae SAILS wedi llunio dogfen ddefnyddiol iawn, sef Canllaw cyflym ar ddeunydd hygyrch a chynhwysol

 

 

image of a stack of books symbolising the need to produce materials in an alternative format

Image by Jill Wellington from Pixabay

Sut gallaf i creu deunyddiau mewn fformat amgen?

 

 

Yn hytrach na llunio deunyddiau mewn fformatau gwahanol, byddem yn cynghori myfyrwyr y mae angen deunyddiau mewn fformatau penodol arnynt i gysylltu â’u darlithydd i ddechrau. Byddem yn argymell os oes angen newid lliw/ffont a maint/gofod y papur, dylai’r myfyrwyr gael y ddogfen wreiddiol yn electronig fel y gallant ei golygu i fodloni eu hanghenion nhw er mwyn defnyddio’r deunydd. Am ragor o wybodaeth am bethau eraill yr ydych yn gallu eu gwneud mewn achosion o’r fath, gweler tudalennau gwe SAILS ar wneud adnoddau’n gynhwysol a’r polisi VLE Minimum with amendments for Inclusive Culture o’r adran adnoddau isod.

Adnoddau:

 

4 different coloured semi-circles surrounding a circle, arranged in a square. Hoping to depict outward-facing unity and also representing round peg in a square hole!

Ble gallaf ddod o hyd i gymorth?

 

Cyfeiriadau:

 

whatis.com. (2016). Whatis.com . Retrieved July 30, 2019, from http://whatis.techtarget.com/definition/digital-accessibility

Comments are closed.