Mae darpariaeth DPP ddiweddaraf Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn ymwneud â’r dull ‘Ystafell Ddosbarth Wrthdro’. Yr Ystafell Ddosbarth Wrthdro, Gwrthdroi’r Ystafell Ddosbarth – dyma dermau a ddefnyddir i ddisgrifio’r gysyniad, ac mae pob tymor yn gyfnewidiol.
“Mae’r ystafell ddosbarth wrthdro yn disgrifio proses o wrthdroi addysgu traddodiadol a rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â deunydd newydd am y tro cyntaf y tu allan i’r ystafell ddosbarth, fel arfer drwy ddarllen neu fideo o ddarlith; wedyn, caiff amser yn yr ystafell ddosbarth ei neilltuo i’r gwaith anoddach o gymhathu’r wybodaeth honno drwy strategaethau megis datrys problemau, trafodaeth neu ddadleuon.”
(Prifysgol Vanderbilt, Canolfan Addysgu)
Mae’r modiwl DPP ‘ Ystafell Ddosbarth Wrthdro’ yn archwilio’r ddamcaniaeth sy’n sail i’r Ystafell Ddosbarth Wrthdro a manteision gwrthdroi, ac mae’n bwrw golwg ar rai o’r offer y gallwch eu defnyddio i greu adnoddau a fydd yn eich helpu i wrthdroi. Gallai fod rhywbeth mor syml â dogfen pdf neu gyflwyniad PowerPoint, neu gallai fod mor soffistigedig â chreu eich fideos neu eich adnoddau rhyngweithiol eich hun. Bydd y pwyslais ar ddefnyddio offer sydd naill ai ar gael ar rwydwaith y Brifysgol neu ar gael yn rhad ac am ddim ar y rhyngrwyd.
Os hoffech archwilio’r technegau a allai eich helpu i wrthdroi’ch ystafell ddosbarth, rydym wedi dyfeisio modiwl hunangyfeiriedeg ar Canvas. Bydd yn cynnwys canllawiau i greu’r deunyddiau, ystyriaethau cynwysoldeb a, lle bynnag y bo modd, astudiaethau achos gan academyddion o Brifysgol Abertawe yn esbonio sut maent wedi defnyddio rhai o’r technegau.
Mae’r Academi hefyd yn treialu Bathodynnau Digidol Agored ac, fel rhan o’r cynllun peilot hwnnw, bydd bathodynnau ar gael wrth gwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus.
Ein nod yn yr Academi yw mapio ein holl ddarpariaeth i Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF). Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn eich helpu i fodloni meini prawf canlynol y Fframwaith:
Meysydd Gweithgarwch: A1, A2, A4, A5
Gwybodaeth Graidd: K1, K2, K4, K5
Gwerthoedd Proffesiynol: V2, V3, V4
Mae manylion y Fframwaith, gan gynnwys y dimensiynau, i’w gweld ar dudalen arall ar wefan SALT.