Dylech fod yn rhan o’r arloesedd, fel byddai cogydd da yn gwneud
Amdanoch chi
Fy enw i yw Almudena Ortiz, dwi’n ddarlithydd yn Adran Biowyddorau. Dwi’n dysgu bioleg folecwlar a microbioleg ar gyfer myfyrwyr bioleg, sŵoleg a bioleg forol y flwyddyn gyntaf.
Rydw i’n wreiddiol o Sbaen ble enillais PhD o Brifysgol Cordoba. Cyn cael darlithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, roeddwn i’n aelod cysylltiol ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Florida a bum mlynedd. Rydw i wedi bod yn dysgu ym Mhrifysgol Abertawe ychydig dros ddwy flynedd.
Ydych chi’n cofio beth roeddech yn meddwl yn gyntaf am Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar ddechrau’r cwrs? Beth oeddech yn gwybod am Gymrodoriaeth?
I fod yn onest, nid oeddwn i’n gwybod llawer yn y dechrau. Roeddwn i’n gwybod bod ennill cymrodoriaeth yn un o’m targedau. Ond nid nes anwythiad y TUAAU ddes i’n gyfarwydd â rhesymau pan fod yn bwysig i academyddion yn gynnar yn eu gyrfa, fel fi, i atgyfnerthu eu hymrwymiad i fwyhau profiad dysgu’r myfyrwyr trwy gwblhau rhaglen Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch.
Yn fy marn i, mae’r UKPSF yn rhoi arweiniad i academyddion â chyfrifoldebau dysgu ar sut i drosglwyddo dysgu o ansawdd da o fewn Addysg Uwch. Pwrpas yr UKPSF yw hybu arferion da gan annog darlithwyr i ymchwilio ac adolygu’r pedagogeg, mabwysiadu dull dysgu cynhwysol ag empathig, a dechrau ar siwrnai i wella’r trosglwyddiad.
Tuag at y diwedd, gofynnwyd i chi adlewyrchu yn ôl ar y cwrs ac ar sut roedd eich ymarfer yn perthyn i’r UKPSF. Beth wnaethoch “lloffa” o baratoi’r aseiniad olaf?
Tra fy mod yn paratoi ar gyfer yr aseiniad olaf, treuliais lawer o amser yn adlewyrchu ar sut mae fy hunaniaeth fel athrawes wedi datblygu ers i mi ddechrau fy ngyrfa academaidd yn fyfyriwr PhD. Ffurfiwyd fy hunaniaeth dysgu o fy newisiadau gyrfa, fy mhrofiad blaenorol, fy ymrwymiad i’r myfyrwyr a fy nghaffael o ystyr gymhwysedd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond, mae’r agweddau yma wedi mwyhau gan yr amgylchedd lle dwi nawr yn datblygu fy nysgu. I mi, mae teimlo fel rhan o gymuned, fel yr AAU, sydd yn hwyluso datblygiad proffesiynol drwy fentora, ymgynghoriad, dysgu ac adlewyrchiad yn hanfodol i ddatblygu hunaniaeth dysgu unigryw ac i drosglwyddo dysgu effeithiol a chymwys.
Beth yw elfen bwysicaf yr UKPSF yn eich barn chi – y Meysydd Gweithgaredd, Gwybodaeth Graidd neu Gwerthoedd Proffesiynol – neu un yn benodol a pham?
Mae hyn yn mynd i swnio’n ystrabedol, ond dwi’n teimlo bod y tri dimensiwn o’r fframwaith yr un mor bwysig â’i gilydd. Pan ddechreuais ddysgu, roeddwn i’n ffocysu’n fwy ar y wybodaeth graidd, e.e., adnoddau’r pwnc, ymchwilio’r technolegau dysgu priodol, neu ddewis y dull orau o werthuso dysgu effeithlonrwydd. Nawr, mae fy mhwynt ffocws yn ehangach ac yn cynnwys agweddau o’r ddau ddimensiwn arall fel datblygu amgylchiadau dysgu fwy effeithiol a dulliau i gefnogi myfyrwyr, neu adnabod y pwysigrwydd o ymarferion proffesiynol da yn Addysg Uwch.
Sut mae wedi effeithio’r ffordd rydych yn meddwl am addysgu dysgwyr yn amgylchedd Addysg Uwch?
Dwi’n credu fy mod i’n fwy ymwybodol o fy nghyfrifoldebau fel hyrwyddwr. Mae’r rhaglen TUAAU a’r UKPSF wedi helpu i mi gwella fy nysgu. Mae’r dyluniad a’r strwythur o fy darlithoedd, ar ffordd dwi’n eu trosglwyddo wedi newid yn fawr iawn dros y ddau flynedd diwethaf.
Fe wnaethoch gael Tystysgrif Ôl-raddedig ond wnaethoch hefyd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth. Pam roedd ennill cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi?
Mae ennill Cymrodoriaeth yn gwneud i mi deimlo wedi adnabod fel gweithiwr proffesiynol o fewn y gymuned Addysg Uwch. Hefyd, dwi’n teimlo’n fwy medrus nawr fy mod yn gallu croesi un o’m targedau i ffwrdd.
Sut rydych chi’n cynllunio i weithredu beth rydych wedi dysgu o raglen TUAAU, ac yn enwedig safonau’r UKPSF, yn eich dysgu? E.e. aros mewn arfer da.
Mae darparu dysgu effeithiol wrth adnabod y pwysigrwydd o drin pob myfyriwr fel unigolyn yn broses barhaol. Dwi’n teimlo bod chi wastad yn gallu gwella rhywbeth, e.e., eich sleidiau, y cynnwys, yr asesiadau ayyb. Mae’n anodd darganfod y ‘rysáit’ sy’n gweithio i ddysgu’ch dosbarth, pan rydych chi’n ei ddarganfod, dylech fod yn rhan o’r arloesedd, fel byddai cogydd da yn gwneud.
Pa awgrymiadau byddech yn cynnig i rywun sy’n dechrau dysgu mewn addysg uwch – efallai ei bod nhw/nad ydynt yn dechrau’r Dystysgrif Ôl-raddedig?
- Byddwch yn amyneddgar, mae casglu cynnwys da a gwneud eich dosbarthiadau’n ddeniadol yn cymryd amser (o leiaf 2-3 tymor).
- Byddwch yn agored i ddysgu a chymerwch cyngor oddi wrth eich cyfoedion.
- Cymryd adborth y myfyrwyr ond, dim ond y sylwadau adeiladol.
- Peidiwch bod yn rhy caled ar eich hun. Deallwch nad ydych yn gallu plesio pawb, felly peidiwch byw mewn gofid o werthusiadau’r myfyrwyr.
- Byddwch chi yn athro da; ond amser ag ymdrech sydd eisiau.