I mi, y peth allweddol i Brif Gymrodoriaeth yw arweinyddiaeth addysgol wedi mewnblannu’n gadarn i mewn i gynnwys fy mhroffesiwn ac wedi tanategu gan brofiad y pwnc.
Amdanoch chi
Angharad Davies ydw i – rydw i’n Athro cysylltiedig clinigol ac yn ficrobiolegydd meddygol ymgynghorol anrhydeddus yn yr ysgol feddygaeth. Rydw i wedi bod yn dysgu mewn amrywiaeth o osodiadau gofal iechyd am dros ugain mlynedd, yn gyntaf yn ystod fy amser yn ymarfer fel arbenigwr clinigol ac fel Cymrawd Ymarfer Ymchwil Clinigol yr MRC (MRC Clinical Research Training Fellow) ac yna yma yn Abertawe. Mae gen i ddiddordeb penodol ar ddysgu am ddefnydd wrthmicrobaidd a gwrthsafiad, sydd wedi dod yn fygythiad enfawr i systemau gofal iechyd ledled y byd. Yn ychwanegol i fy rolau dysgu i fyfyrwyr meddygol ac i eraill yn yr ysgol feddygol, rydw i hefyd yn dysgu amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol gofal iechyd ar draws Cymru ac mae gen i rôl genedlaethol y DU fel cyd-arweinydd Addysg Israddedig a Sylfaenol y ‘Royal College of Pathologists’. Rydw i’n Arweinydd Arbenigol Heintiau ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn aelod o Gyngor yr ‘Academy of Medical Educators’.
Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?
Yn ymarfer clinigol, yn hanesyddol mae dysgu wedi tueddu cymryd yn ganiatadol fel rhywbeth mae pawb ‘ond yn gwneud’ fel rhan o’u rôl clinigol ehangach, nid yw wastad wedi cael y gwerth o sgil penodol. Mae hyn yn newid yn araf, er enghraifft gyda’r creadigaeth o’r “Academy of Medical Educators”. Ar ôl i mi fod yn fy rôl yn y “Royal College” am gyfnod, a gofynnwyd imi ymgymryd â nifer o rolau allanol eraill, sylweddolais nad oeddwn bellach ‘ond yn’ dysgu, roedd gen i profiad helaeth o addysg o fewn fy nisgyblaeth, yn yr ysbyty, prifysgol ac ar lefel cenedlaethol. Dylid profiad addysgol cael ei gydnabod yr un fath â phrofiad clinigol, i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn dysgeidiaeth sydd wedi seilio ar ymarfer gorau yn clinigol ac yn addysgol. Roedd fy mhenderfyniad i geisio am Brif Gymrodoriaeth yn adlewyrchiad o hyn.
Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?
Fe wnes i ffeindio’r broses cais yn adeiladol iawn. Wrth orfod ystyried tystiolaeth i bob un o ddisgfrifwyr yr UK PSF ar gyfer Brif Gymrawd, fe wnaeth i mi feddwl am fy ymarfer addysgol yn gyfannol. Fe wnaeth helpu i mi weld yn glir sut mae’n ffitio i mewn i gynnwys fy ymarfer academaidd a chlinigol yn gyfan mewn ffordd nad ydw wedi ystyried o’r blaen. Mae’r holl weithgareddau rydw i ynghlwm â – megis ymarfer clinigol, ymchwil clinigol, fy ymglymiad mewn amrywiaeth o waith cydraddoldeb – yn cefnogi a chyfrannu i fy rôl addysgol ac maent yn gydgysylltiol, nad ydynt yn weithgareddau gwahanol. Fe wnaeth fy nghais Brif Gymrawd tynnu’r rhain i gyd at ei gilydd.
Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd Addysg Uwch?
I mi, mae wedi atgyfnerthu gwerth ag effaith o ddysgu gyrrir gan ymarfer.
Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi?
Maent i gyd yn bwysig, ond i mi mae’n rhaid taw Gwybodaeth Graidd yw’r ateb. Dyma beth sy’n diffinio disgyblaeth rhywun; hebddo, ni fyddai lawer o werth i rhannu gyda’r myfyrwyr. Y brwdfrydedd ar gyfer y pwnc sy’n gwneud addysgwr llwyddiannus. Mae’r elfennau eraill yn cael ei ddatblygu o amgylch hynny.
Beth oedd rhannau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?
Roedd y broses yn heriol, ond mewn ffordd bositif. Yn gyntaf roeddwn yn meddwl buasem wedi ffeindio hi’n anodd ysgrifennu 7000 o eiriau ond erbyn diwedd y broses, bu rhaid i mi dorri geiriau allan yn ddidostur! Fel dywedir uchod, fe wnaeth helpu mi i weld fy ymarfer academaidd yn gyflawn ac i roi bob elfen i mewn i gynnwys holliach. Mae tîm SALT yn darparu cefnogaeth arbennig ar bob lefel.
Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Jane Thomas a wnaeth helpu i mi ddeall y gofynion a rhoi’r hyder i mi fynd yn ei flaen.
Sut rydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers cael y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal safon dda.
Ond yn ddiweddar enillais Brif Gymrodoriaeth ond ers hynny rydw i wedi cynnal cwrs DPP (CPD), wythnos o hyd ar gyfer staff gofal iechyd. Fe wnes fynychu diwrnod astudio gan “British Society for Antimicrobial Chemotherapy” ond wythnos yn gynt a wnaeth amlinellu datblygiadau therapiwtig diweddaraf. Roeddwn i’n gallu cynnwys y wybodaeth yna i mewn i adnoddau dysgu fy hun, felly roedd yn gyfoes i’r munud. Mae’r maes yma yn newid yn gyflym iawn ac felly mae DPP fy hun yn hanfodol.
Ar gyfer rhywun sydd ddim yn siŵr am ymgeisio, pa eiriau o anogaeth allwch gynnig?
Os rydych yn dysgu mewn AU, nid yw ond cael Cymrodoriaeth ar y lefel briodol yn dda i gael yn eich portffolio ond mae’n broses ddefnyddiol iawn i ddadansoddi beth rydych yn gwneud a pham. Mae’r gofyniad o ysgrifennu adlewyrchol yn annog i chi feddwl am ardaloedd o’ch dysgu rydych efallai yn anymwybodol o neu yn cymryd yn ganiataol – fe wnaeth wir effeithio ar fy rhagolwg i. Mae tim SALT yn gynorthwyol iawn, hawdd mynd ato a fyddwch â chymorth da iawn.
Pa argymhellion y byddech yn eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth – unrhyw gategori?
Rhowch dyddiad cadarn i’ch hun – mae’n hawdd i waith fwy “pwysig” gymryd blaenoriaeth. Cymrwch mantais o enciliadau ysgrifennu SALT sydd yn gallu helpu â hyn.
Beth yw’r criterion allweddol i chi ar gyfer bod yn Brif Gymrawd?
I mi, y peth allweddol i Brif Gymrodoriaeth yw arweinyddiaeth addysgol wedi mewnblannu’n gadarn i mewn i gynnwys fy mhroffesiwn ac wedi tanategu gan brofiad y pwnc.