Hoffai Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) eich croesawu i’ch Beit DPP cyntaf. Rydym wedi creu cwrs Blackboard o’r enw DPP Cynwysoldeb, y’i nod yw helpu’r holl staff addysgu a chymorth i ddatblygu ymagwedd fwy cynhwysol yn eu rôl. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth am eich dyletswyddau yn unol â’r gyfraith a pholisïau Prifysgol Abertawe o ran darpariaeth ar gyfer yr ystod lawn o nodweddion gwarchodedig.
Mae’r cwrs wrthi’n cael ei ddatblygu, felly byddem yn croesawu’ch syniadau a’ch barn. Ceir adran blogio lle anogir aelodau staff i roi gwybodaeth gyfredol werthfawr am Arfer Cynhwysol yn eu disgyblaethau penodol. Byddwn yn ychwanegu at y cynnwys ar-lein drwy weithdai hefyd. Yr un cyntaf yw ‘Bod yn Diwtor Personol Cynhwysol’, yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd.
Gobeithiaf y bydd cynnwys y cwrs ei hun, a’r angen i wneud yr hyn a wnawn yn well, yn ddigon o ysgogiad i gymryd rhan yn y cwrs DPP Cynwysoldeb, ond rhagwelaf y bydd bathodynnau yn ysgogiad ychwanegol i ddysgu.
Y syniad yw y gall staff brofi’r cynnwys cyfarwyddol, a gyflwynir yn y modiwl, yna cael eu gwobrwyo â llun digidol o fathodyn ar ôl ei gwblhau. Gall y bathodynnau digidol ddynodi sgiliau ardystiadwy.
Mae’n bosib eich bod wedi’ch cofrestru eisoes, felly cadwch lygad am DPP Cynwysoldeb yn eich Modiwlau Cyfredol 1617. Os na welwch y modiwl, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
- Yn gyntaf, sicrhewch eich bod wedi mewngofnodi i Blackboard
- Cliciwch ar http://bit.ly/CPDInclusivity
- Cliciwch ar y ddolen “Click Here to Enrol” link
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd + Enrol ar y chwith
- Dywedwch wrth Mandy Jack sut yr aeth pethau drwy e-bostio m.j.jack@abertawe.ac.uk