Sioe Brydeinig Addysgol Hyfforddi a Thechnoleg flynyddol yn yr Excel Centre Llundain Taith ddiddorol ac addysgiadol arall i Bett eto eleni – Mandy Jack a Suzie Pugh yn rhannu eu profiadau.
Cyrhaeddon ni’r sioe ar Ddydd Mercher 24ain gydag amser i ymgyweirio’n hun cyn ein seminar cyntaf. Yr effaith mwyaf i ni oedd y stondinau a seminarau AR (Realiti Estynedig) a VR (Realiti Rhith). Dywed eu bod yn ddatrysiadau dysgu tansuddadwy, wedi’u ddylunio i faethu cydweithredu ac yn hybu profiadau dysgu cynhwysol, ticio pob blwch. Fe wnaeth Eric Klopfer o MIT, Athro yn astudio technoleg addysgol, gemau, dynwarediad, dyfeisiadau symudol, cyfrifiannu ag addysg athrawon, cyflwyno cymhariaeth ddiddorol iawn ar AR a VR.
‘Affordances of Mixed Reality’ – Eric Klopfer, MIT
Profiad Realiti Rhith
Roedd y cyfle i archwilio’r dechnoleg Realiti Rhith diweddaraf yn uchafbwynt. Roedd plymio i mewn i lif y gwaed a rhyngweithio gyda chelloedd wrth symud gyda’r llif yn brofiad hudol. Hefyd, y profiad o fforio gwastadedd Affricanaidd. Wrth droi’n pennau (wrth bwyso ar y bwrdd), roeddwn mewn reality newydd ac yn gallu mynd yn agos i grŵp o eliffantod. Fe wnaethon ni cytuno’n hwyrach dyna’r profiad mwyaf swrrealaidd rydym ni byth wedi cael. Mae’r cyfle i ddefnyddio VR mewn Addysg Uwch yn eang iawn, yn gadael i fyfyrwyr cael mynediad i adnoddau, arteffactau a phrofiadau byddant fel arall yn eithriedig ohono.
#WomenEd
Roedd yna seminar yn ymffrostio am bartneriaeth arloesol rhwng y sefydliad #WomansEd a Microsoft Education sy’n cysylltu arweinwyr benywaidd mewn addysg fel iddynt allu ceisio cael cydraddoldeb rhyw yn ‘edtech’. Gyda’r bwlch rhyw yn STEM, cyfrifiannu yn cynyddu a’r pwysigrwydd o dechnoleg i gau’r bwlch rhwng yr anghydraddoldebau yna. Mae #WomenEd a Microsoft wedi cydweithio i greu cymuned o arweinwyr o ledled y DU sydd yn cysylltu â’i gilydd trwy ddigwyddiadau, rhwydweithio a’r ynni i alluogi i bob person cyflawni’r mwyaf posib.
Y siaradwyr oedd; Barbara Holzapfel, Rheolwr Cyffredinol o Microsoft Education, Kirsty Tonks, Darpar Bennaeth yn Ysgol Gynradd Technoleg Shireland a Vivienne Porritt, Cyd-sefydlydd ac Arweinydd Cenedlaethol WomenEd. Roedd yna cymysg diddorol i sicrhau nad oedd i gyd ynglŷn â thechnoleg.
Flipped Learning (FL) oedd ffocws arall i ni gan ei fod yn rhywbeth rydym ni, SALT, yn rhannu gyda’n cydweithwyr. Roedd Natasha Kaplinsky wedi cyflwyno seminar diddorol yn edrych ar y cysyniad o FL ar draws pob sector addysg.
Roedd myfyrwyr yn ddiysgog bod technoleg yn cefnogi ac yn ehangu cyfleoedd ar gyfer eu dysg ac nid oedd yn disodli ffyrdd eraill o ddysgu.
Dyma’r Storify os hoffech weld y rhannau gorau yn ein barn ni!