Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Safbwyntiau o’r Ysgol Feddygaeth

Fel yn achos llawer o bobl, dechreuais feddwl am y gymrodoriaeth fel rhywbeth y dylwn feddu arno ond nid oeddwn yn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y byddai’r broses ddysgu i mi ar gyfer dulliau llunio a chyflwyno fy addysgu. Os yw hyn yn swnio ychydig yn naïf, siŵr o fod dyna oedd y sefyllfa!

 

 

(Llun: Yr Athro Kerina Jones)

Helo, Kerina Jones ydw i ac rwyf wedi fy lleoli yn yr adran Gwyddor Data Poblogaeth yn yr Ysgol Feddygaeth. Fi yw’r arweinydd academaidd ar gyfer llywodraethu gwybodaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws mentrau a leolir yn Abertawe gan gynnwys y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae fy ngwaith yn ymwneud yn bennaf â Goblygiadau Moesegol, Cyfreithiol a Chymdeithasol (ELSI) sy’n gysylltiedig â defnyddio data am bobl at ddibenion ymchwil, tra’n diogelu preifatrwydd. Rwyf wedi bod yn addysgu yn Abertawe ers rhyw 10 mlynedd. Mae gennyf gefndir academaidd ym maes biocemeg a bu’r modiwl diweddaraf a luniais yn seiliedig ar ELSI genomeg gymhwysol ar gyfer y rhaglen MA mewn Meddygaeth Genomig. Mwynheais hyn yn fawr oherwydd cefais gyfle i gyfuno fy meysydd o arbenigedd. Fel yn achos llawer o bobl, dechreuais feddwl am y gymrodoriaeth fel rhywbeth y dylwn feddu arno ond nid oeddwn yn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y byddai’r broses ddysgu i mi ar gyfer dulliau llunio a chyflwyno fy addysgu. Os yw hyn yn swnio ychydig yn naïf, siŵr o fod dyna oedd y sefyllfa!

Nid yw safonau UKPSF at ddibenion eich cais am gymrodoriaeth yn unig! Byddwn yn argymell eich bod yn eu cadw wrth law er mwyn llywio pob cam o’r gwaith o lunio, cyflwyno a gwerthuso addysgu.

Lluniais fy nghais am gymrodoriaeth ar yr un adeg ag yr oeddwn yn datblygu fy modiwl genomeg. Cefais hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd iddo roi hwb i mi sicrhau fy mod wedi ystyried yr holl ddimensiynau a’u meini prawf a’r ffordd orau o’u cynnwys er budd y dysgwyr ac arfer proffesiynol da. Nid yw safonau UKPSF at ddibenion eich cais am gymrodoriaeth yn unig! Byddwn yn argymell eich bod yn eu cadw wrth law er mwyn llywio pob cam o’r gwaith o lunio, cyflwyno a gwerthuso addysgu.

 

Nid oedd y broses ymgeisio’n ofnadwy o heriol ac mae gennych yr opsiwn o gyflwyno cais ar lafar neu’n ysgrifenedig. Mae rhai disgyblaethau’n tueddu bod yn fwy geiriol nag eraill ond dylech gadw mewn cof mai safon y dystiolaeth a gyflwynir sy’n bwysig, nid ansawdd y rhyddiaith. Cefais y broses yn un gadarnhaol a theimlais fod SALT a fy mentor yn gefnogol iawn gan dderbyn adborth adeiladol gan adolygwyr. Byddwn yn eich annog i gyflwyno cais.

Leave a Reply

Your email address will not be published.