Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Pam bod cydnabod dysgu yn bwysig ar gyfer yr holl staff sy’n addysgu

Mae Yamni Nigam yn Athro ar faes Arloesedd ac Ymgysylltiad Uwch ac wedi bod yn dysgu ym Mhrifysgol Abertawe am dros 20 mlynedd. Mae hi’n dysgu ar y topig eang, amlddisgyblaeth o Wyddorau Biofeddygol – yn benodol yn ymdrin ag anatomeg, ffisioleg a phathoffisioleg – yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. Efallai eich bod yn nabod hi trwy ei ymchwil i mewn i gynrhon (yn ddiweddar yn cefnogi tîm cynhyrchu’r ddrama ysbyty, Casualty sydd ar y BBC) ac mae hi wedi cael ei adnabod am ei gwaith trwy wobrwyon lleol a chenedlaethol.

Mae’n rhaid dweud bod Yamni Nigam yn bwerdy o frwdfrydedd am ei ymchwil a hefyd, ei dysgu. Mae’n amlwg gweld wrth siarad â hi a hefyd yn gweld ei swyddfa hi’n heidio gan bryfed! Mae hi’n chwysu egni ac awch, mae’n siŵr ei fod yn heintus i’r rhai mae’n cyfarfod.

Darllenwch am Yamni trwy ei thudalen: https://www.swansea.ac.uk/staff/human-and-health-sciences/allstaff/y.nigam/ a’i ymgyrch “Love a Maggot”:  https://www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences/research-at-the-college-of-human-and-health/research-impact-college-of-human-and-health/love-a-maggot/

Felly, gyda’r gydnabyddiaeth yma am ei gwaith, bod yn Athro a gyda llawer o flynyddoedd o brofiad dysgu, pam byddai Yamni yn trafferthu ennill Cymrodoriaeth yr AAU?

“Beth bynnag rydych chi’n gwneud, rydych eisiau gwybod eich bod chi’n ei wneud yn dda. Mae dysgu yn broffesiwn arbennig ac mae Cymrodoriaeth yr AAU yn arddangos eich bod wedi bodloni’r gwerthoedd proffesiynol – mae’n ‘Curiad ar y Cefn’ go iawn.

Roedd ddarganfod y Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn agoriad llygaid mawr. I fod yn onest, nid oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli, roeddwn i’n falch iawn i’w adolygu a gweld ei fod yn fframwaith manwl iawn i alluogi dysgu mewn addysg uwch i sefyll allan fel proffesiwn yn ei hun.

Wrth baratoi fy nghais, roeddwn yn gallu cyfeirio at gyfres o safonau sylfaenol o’r UKPSF a llenyddiaeth ymchwil academaidd ar gyfer dysgu roedd yn newydd i mi.”

Beth sydd wedi bod yn ddylanwadol wrth geisio am gydnabyddiaeth?

“Yn nhermau’r dylanwad o baratoi fy nghais, rydw i wastad wedi trio dulliau gwahanol o ddysgu. Roeddwn i arfer bod yn ddidactig iawn fel athrawes, yn cynnwys gormod o sleidiau oherwydd roeddwn eisiau rhoi fy ngwybodaeth i’r myfyrwyr. Ond dros amser rydw i wedi dysgu i leihau’r cynnwys a defnyddio technegau dysgu gweithredol. Ond, roeddwn i wastad yn teimlo fel nad oeddwn yn gwneud digon ac nid oeddwn yn deall y dulliau gwahanol i ddysgu.

Fe gymerais i rai cyrsiau DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) a wnaethon nhw roi syniadau newydd i mi ac fe wnes i ystyried dulliau newydd o ddysgu megis dysgu wedi trosi a defnyddio Rhith-Wirionedd (VR). Ond, nid yw pob un yn addas, ond dwi’n gwybod beth fydd yn gweithio. Y syniad o ddulliau gwahanol i ddysgu – roedd VARK yn bwysig iawn i mi. Roedd dod ag agweddau cinesthetig i mewn i ddysg anatomeg yn gwneud llawer fwy o synnwyr.

Fe wnes i archwilio’r defnydd o Rhith-Wirionedd yng Nghynhadledd SALT[1]. Rydym nawr yn dysgu anatomeg gan ddefnyddio nifer o benwarau Rhith-Wirionedd ac mae’n bywiogi beth all fod yn dopig diflas. Mae’n galluogi rhyngweithiad llawer gwell ac mae’r myfyrwyr yn mwynhau’n fawr.”

Beth yw agwedd pwysicaf o Ddimensiynau’r UKPSF i chi?

“Gwybodaeth Graidd. Mae’n hanfodol. Dwi’n teimlo nad ydych yn gallu addysgu dysgwyr yn dda os nad ydych yn gwybod eich pwnc yn drylwyr. Mae’n bwysig iawn i fynychu unrhyw beth allwch i gadw datblygu eich gwybodaeth. Mae’n newid drwy’r amser – yn fy maes i e.e. technegau newydd ac ymchwil yn dangos llawer fwy ar sut mae’r corff yn ymateb i rai cyflyrau gan gynnwys heneiddio. Mae’n bwysig i wastad fod ar eich gorau.

Roedd dysgu am bopeth nad oeddwn i’n gwybod am ddulliau dysgu yn beth positif ac yn sialens yn y broses cais. Fe wnes i fwynhau’r agwedd o ddysgu am theorïau, ond yr amser i edrych drwy lenyddiaeth briodol oedd y peth mwyaf llethol pan fo’ llawer o bethau arall i’w gwneud. Roedd defnyddio Pebblepad [2] yn hwylus ond dwi’n gwybod bod llawer o bobl ddim yn teimlo’r un peth!”

Sut wyt ti’n cadw ar ben dy ddysgu?

“Rydw i’n parhau i wella fel athrawes gan fod yn gyson wrth ofyn i’r myfyrwyr beth maent wedi deall (neu beidio) yn fy narlithoedd. Rydw i’n pasio gwerthusiad byr, ar bapur, o amgylch lle maen nhw’n gallu dweud beth nad ydynt wedi deall; ar ôl y dosbarth, dwi’n adolygu’r rheini ac yn addasu fy ngwers erbyn y tro nesaf ac yn addasu fy nysgu yn unol â hynny.

Mae adolygiad gan gydweithwyr yn gyfle da iawn i ddysgu o eraill…mae gan bawb dulliau gwahanol. Fe wnes i arsylwi un o’n staff newydd yn ddiweddar. Roeddwn i wedi swyno â’i gymhelliant ac ymrwymiad gyda’r myfyrwyr…efallai na’i ‘dwyn’ un o’i syniadau i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cymryd rhan – gan adael i fyfyrwyr dewis testunau allan o het, maent yna’n ymchwilio a pharatoi cyflwyniad mewn 15 munud o fewn y wers. Mae’n ffordd dda o hybu dysgu i’r holl grŵp.”

Iawn, fe wnes di sôn bod gan staff lawer o bethau eraill i’w gwneud. Pa anogaeth allet roi?

“Mae’n bwysig iawn i’w gwneud. Bydd yn rhoi’r gydnabyddiaeth eich bod yn dda â beth rydych yn gwneud.

Ond, mae angen i chi gynllunio’r cais trwyddo a rhoi digon o amser i’ch hun. Mae angen cynllunio, ystyried beth rydych wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, paratoi’n drylwyr a meddwl pa ddulliau sydd wedi bod yn dda i chi a’ch myfyrwyr.

Mae dysgu mor werthfawr. I allu torri rhywbeth i lawr, sydd mor gymhleth i rywbeth dealladwy. Mae’n werthfawr iawn i allu gwneud hynny.


[1] Trafodaethau a gweithdai Rhith-Wirionedd fel rhan o Gynhadledd SALT 2017: https://saltconference2017.wordpress.com/programme/

[2] Defnyddiodd Prifysgol Abertawe feddalwedd portffolio Pebblepad rhwng 2015 a 2018 ar gyfer cyflwyno cais i dderbyn cydnabyddiaeth fel Cymrawd Academi Addysg Uwch (pob categori)

Leave a Reply

Your email address will not be published.