Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Arwain Athrawon trwy Enghraifft

Mae gan Joanne Parfitt brofiad sylweddol o ran addysgu dysgwyr, gan feddu ar B.Ed mewn Addysg Gynradd a CELTA (Tystysgrif mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a gradd Meistr mewn TEFL. Ers bron 25 mlynedd mae hi wedi bod yn rhan o addysg Saesneg i fyfyrwyr fel ail iaith mewn amrywiaeth o wledydd o amgylch y byd – Siapan, Barbados, Prague, Istanbul a Hwngari, cyn dychwelyd i Brifysgol Abertawe yn amser llawn 19 mlynedd yn ôl ar gyfer addysgu myfyrwyr yng ngwasanaethau hyfforddi adran yr Iaith Saesneg.  Mae Joanne wedi bod yn arwain ELTS ers 2014 ac mae’n rhannu ei stori am ei rhesymau dros gyflwyno cais am Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.

 

Pam cyflwyno cais?

Mae pob aelod o staff sy’n cefnogi addysgu yn ELTS eisoes yn athro cymwysedig. Fodd bynnag, mae Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn eu galluogi i dderbyn cydnabyddiaeth ychwanegol am eu haddysgu mewn amgylchedd Addysg Uwch yn benodol a bu’n nod yr oeddwn i eisiau i’m staff ei chyflawni. Fodd bynnag, nid wyf yn berson sy’n gofyn i’m staff wneud rhywbeth nad oeddwn yn fodlon ei wneud fy hun! Felly, teimlais fod angen i mi fod yn fodel rôl da a chyflwyno cais fy hun. Rwy’n gosod heriau DPP i fy hun bob blwyddyn.  Yn 2017 yr her oedd ennill achrediad fel Hyfforddwr Lefel 7 ILM. Helpodd hyn â’m sgiliau arweinyddiaeth a hefyd cyfrannodd at gyd-destun Cymrodoriaeth Uwch yr Academi Addysg Uwch y cyflwynais gais amdani yn 2018.

 

Pa fudd sydd ynghlwm â chyflwyno cais?

Bu’n weithgarwch gwerthfawr iawn er mwyn myfyrio ar fy mhrofiad sylweddol ym maes addysgu, ond yn fwy penodol ar y mentrau amrywiol er mwyn arwain fy adran. Bu myfyrio ac ystyried yr effaith a gefais ar wella eu sgiliau addysgu yn amhrisiadwy, gan hefyd eu cefnogi trwy newidiadau o ran ymateb i amrywiaeth myfyrwyr ac mewn paratoi ar gyfer yr adolygiadau allanol niferus.

 

Pa elfennau o Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig sydd o’r budd mwyaf i chi?

Mae gwerthoedd proffesiynol UKPSF yn berthnasol iawn i mi o ran hynny, yn enwedig V1 – parchu amrywiaeth ein myfyrwyr sy’n dod o gefndiroedd addysgol a diwylliannol gwahanol ac felly mae ganddynt anghenion dysgu unigol y mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt wrth gefnogi eu dysgu.

 

Beth oedd yr elfennau hawdd o ran llunio eich cais? Beth oedd yr heriau?

Wrth ysgrifennu’r cais nid oedd argaeledd tystiolaeth atodol yn broblem – roedd gennyf lwyth o dystiolaeth y gallwn ei darparu. Yr her i mi oedd penderfynu pa elfennau i’w dewis, am fod gennyf gymaint i’w drafod. Yr her fwyaf oedd ynysu fy rôl benodol fy hun o ran arwain yr adran. Rwy’n ei ystyried yn ymdrech tîm ac felly roedd clodfori fy nghyflawniadau fy hun ar gyfer y cais yn anghyffyrddus i mi am nad yw pethau felly’n dod yn naturiol i mi.

Sut ydych chi’n parhau i fodloni’r disgwyliadau ar gyfer Uwch Gymrodoriaeth?

Rwy’n parhau i ddangos fy statws da fel Uwch Gymrawd trwy fy nyletswyddau arweinyddiaeth arferol, ac amlinellais lawer ohonynt yn fy nghais. Rwy’n rhoi gwerth mawr ar wella sgiliau fy nhîm felly rwy’n trefnu amser DPP wythnosol ac yn ddiweddar, er enghraifft, rydym wedi cynnal sesiynau ar hyrwyddo ein llesiant ein hunain…os nad ydym ni’n iach ein hunain ni allwn ni gefnogi ein myfyrwyr yn effeithiol. Rwy’n cynnal arsylwadau cymheiriaid yn rheolaidd er mwyn gwella galluoedd addysgu fy staff ac er mwyn eu paratoi ar gyfer arolygiadau allanol sydd ar y gweill.

Un peth yr wyf wedi meddwl amdano yw’r effaith y mae ymgysylltu â’n cyrsiau er mwyn diwallu trothwy lleiafswm yr iaith Saesneg wedi’i chael ar ganlyniadau ein myfyrwyr, o’u cymharu â’r myfyrwyr sy’n dod yn syth i’r Brifysgol gan eisoes feddu ar yr isafswm sgoriau IELTS. Cefais fy synnu nad oedd unrhyw dystiolaeth am hyn, felly rwy’n cydlynu ymchwil er mwyn dysgu mwy. Mae sail dystiolaeth yn ein gwaith ni yn hynod bwysig ac mae’n llywio ein cwricwlwm a’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein dysgwyr.

Cyngor ar gyfer ymgeiswyr y dyfodol?

Byddwch yn barod i neilltuo amser. Efallai y bydd yn teimlo bod y dyddiadau cyflwyno yn bell yn y dyfodol ond byddant yn cyrraedd mewn byr o dro. Mae pob un ohonom ni’n brysur ond efallai os byddwch chi’n neilltuo amser rheolaidd er mwyn ysgrifennu rhan o’ch cais yna bydd yn haws i’w wneud.

Hefyd, byddwch yn drefnus. Creais ffolder er mwyn rhoi’r dystiolaeth yr oeddwn yn mynd i’w defnyddio ynddo a bu hynny’n help o ran penderfynu pa enghreifftiau yr oeddwn yn mynd i’w defnyddio yn fy nghais.

Roedd fy mentor yn wych hefyd – felly manteisiwch yn llawn ar y cymorth y gallant ei gynnig.

Geiriau o anogaeth?

Bydd myfyrio a sylweddoli faint yr ydych chi’n ei wneud o ran cefnogi dysgu yn rhoi cymaint o foddhad i chi.


Am fanylion pellach am ELTS: https://www.swansea.ac.uk/english-language-training-services/

Leave a Reply

Your email address will not be published.