Swyddfa SALT – Manylion Cyswllt
Ein cyfeiriad yw::
SALT
3ydd Llawr Adeilad CDS,
Prifysgol Abertawe,
Parc Singleton,
Abertawe,
SA2 8PP
Ein ebost yw salt@swansea.ac.uk
Dilynwch ni ar Trydar @susaltteam
Mae rhifau ffôn ar gyfer unigolion o’r tîm SALT i’w gweld yn yr adran isod.
Gall manylion cyswllt ar gyfer cynrychiolwyr SALT i’w gweld yn yr adran isod.
Rydym ar y trydydd llawr o hen adeilad CDS tu cefn i Taliesin.
Nodyn: nid oes yna fynediad lifft i swyddfeydd SALT ac i’r rhai sydd ddim yn gallu dringo grisiau dylid cysylltu â ni i wneud trefniadau gwahanol – naill ai gydag aelodau unigol o’r tîm neu’n mynychu sesiwn. Rydym yn flin iawn am yr anghyfleuster.
Wrth gerdded o Dŷ Fulton ar hyd y Mall, fe welwch chi ein harwydd:
Neu …
… Arhoswch tu allan i’r llyfrgell ac edrychwch ar draws y Mall. Cerddwch tuag at y grisiau…. … | Yna i fyny’r grisiau ac i mewn trwy’r drws gyda’r arwyddion. I fyny mor bell gallwch fynd … |
Cwrdd â’r Tîm
Simon Gibbon – Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro
Mae Simon yn gyfrifol am ddatblygu strategol a gweithredol SALT. Mae’n meddu ar dros 10 mlynedd o brofiad ym maes dysgu ac addysgu. Yn gynnar yn ei yrfa, addysgodd Wyddoniaeth a Bioleg ym maes addysg ysgolion uwchradd cyn symud i ddysgu a wellir drwy dechnoleg yn y sector Addysg Uwch. Mae Simon yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch.
Ebost: s.gibbon@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 606074(galwadau allanol) / Ex.6074 (mewnol)
Chris Hall – Rheolwr SALT
Mae Chris Hall wedi bod yn gyswllt â dysgu ac addysgu am nifer o flynyddoedd, yn y DU ac yn dramor. Mae’n arweinydd rhaglen y TUAAU (PGCert), yn Gymrawd o’r AAU ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Dysgu a Pherfformiad.
Ebost: c.m.hall@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 513473 (galwadau allanol) / Ex.3473 (mewnol)
Matthew Allen
Mae Matthew Allen wedi bod yn gyswllt â addysgu ac addysg am nifer o flynyddoedd. Mae’n defnyddio llawer o dechnoleg yn y broses dysgu – gweinyddiaeth, datblygiad, cymorth ac i weithredu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Mae Matthew yn gweithio ar draws y Brifysgol ar nifer o brosiectau gwahanol ac ar weithredai gwahanol technolegol i fwyhau dysgu ac addysgu.
Ebost: m.allen@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602453 (galwadau allanol) / Ex.2453 (mewnol)
Steve Beale
Mae gan dros Steve 11 mlynedd o brofiad o addysgu myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, yn Ewrop ac Asia, gan weithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau mewn pedair gwlad wahanol ac mae’n gyfathrebwr rhyngddiwylliannol galluog. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb brwd mewn Dysgu â Chymorth Technoleg, dysgu ieithoedd a gweithgarwch corfforol i hybu ffyrdd iach o fyw a lles.
Ebost: s.j.beale@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Fred Bonatto
Fred wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau technoleg a newid proses, wedi cynnal hyfforddiant defnyddwyr terfynol a chefnogi mentrau ymgysylltu â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aarhus. O ganlyniad i’w gefndir mewn gweithredu systemau, mae’n frwdfrydig am y manteision y gall defnydd da o dechnolegau amgylchedd dysgu rhithwir eu cynnig i Abertawe, drwy gefnogi addysgu a helpu i ddarparu profiadau rhagorol i fyfyrwyr.
Ebost: f.bonatto@swansea.ac.uk
Phone: TBC
Helen Davies
Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad addysgu a hyfforddi, mae Helen wedi chwarae rôl bwysig o ran llunio cwricwlwm a’r defnydd o dechnoleg wrth ddysgu, addysgu ac asesu ym meysydd AB, AU, llywodraeth leol a’r sector preifat.
Mae gan Helen sgiliau penodol mewn technoleg gynorthwyol, mapio meddwl a byrddau straeon, dysgu gwrthdro a dysgu ar-lein gan ddefnyddio’r ystafell ddosbarth rithwir. Mae ei diddordebau’n cynnwys DPP sy’n seiliedig ar TEL, dylunio cyfarwyddol a dysgu mewn pytiau.
Mae Helen yn Gymrawd o’r AAU ac yn Hwylusydd Dysgu Ar-lein Ardystiedig
Ebost: helen.m.davies@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602834 (galwadau allanol) / Ex.2834 (mewnol)
Rhian Ellis
Ymunodd Rhian â’r tîm yn 2017 gyda phump ar hugain o flynyddoedd o brofiad amrywiol mewn rolau gwahanol addysgol. Mae ei ymglymiad yn ymestyn llawer o lefelau, cyrsiau a phynciau, ei phwnc arbenigedd yw Cymdeithaseg a Seicoleg. Mae gan Rhian llawer o brofiad fel darlithydd a thiwtor mewn addysg i oedolion ac mae hi hefyd wedi arwain prosesau sicrhau ansawdd allanol dysgu oedolion ledled Cymru.
Mae Rhian wedi cyfranogi mewn datblygiad cymhwyster, yn arholwr profiadol Cymdeithaseg ac yn fentor i athrawon dan hyfforddiant. Mae Rhian yn dod â dealltwriaeth eang o fethodoleg o ddysgu, addysgu ac asesiad i SALT, lle fydd hi’n cynorthwyo academyddion mewn eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Ebost: r.e.ellis@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 604302 (galwadau allanol) / Ex.4302 (mewnol)
Melanie Hainke
Mae Melanie Hainke wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2016, gan ymgymryd â rolau yn y Gwasanaethau Proffesiynol, yr Ysgol Feddygaeth a’r Coleg Peirianneg. Yn y cyfnod hwn, mae hi wedi cronni profiad helaeth ym maes cymhwyso Dysgu â Chymorth Technoleg, yn benodol drwy’r Peilot Dysgu Cyfunol a chreu ystafelloedd dosbarth dysgu gweithredol. Ymunodd Melanie ag Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) ym mis Medi 2019 fel Uwch-ddatblygwr Academaidd ar gyfer prosiect Canvas ac mae hi’n gyfrifol am y rhaglen hyfforddiant ar gyfer staff y brifysgol.
Ebost: melanie-jayne.hainke@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Stuart Henderson
Mae Stuart Henderson yn darparu cymorth ar gyfer asesiad ac adborth ar-lein ar draws y Brifysgol. Yn flaenorol roedd Stuart yn gweithio i Rwydwaith Fideo Cymru, ond cyn hynny, roedd yn athro mewn ysgol gynradd.
Ebost: s.d.r.henderson@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 513317 (galwadau allanol) / Ex.3317 (mewnol)
Julia Hopkins
Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Julia’n gweithio am 15 mlynedd mewn rolau TG amrywiol gan gynnwys datblygu meddalwedd, gweinyddu systemau, diogelwch TG a gwaith fforensig digidol. Yn 2012, dychwelodd i Gymru i astudio’r Celfyddydau Cain, gan gwblhau Gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain yn ddiweddar yn y Coleg Celf Brenhinol ac yna TAR ar gyfer addysg ôl-orfodol.
Ebost: julia.m.hopkins@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Carys Howells
Cwblhaodd Carys ei doethuriaeth yn yr Adran Hanes ac Astudiaethau Canoloesol yn 2015. Ers hynny, bu ganddi nifer o rolau ym Mhrifysgol Warwig, gan gynnwys Cymrawd Addysgu mewn Hanes Modern a Chyfarwyddwr Gweithredol Profiad y Myfyrwyr.
Ebost: c.howells@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Mandy Jack
Ymunodd Mandy â SALT yng Ngorffennaf 2015 ar ôl 14 mlynedd fel academig. Fe ddysgodd modylau dysgu ac addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ar amrywiaeth o raglenni gan gynnwys hyfforddiant cychwynol i athrawon. Mae ganddi ddiddordeb mewn technolegau dysgu ac mae’n mwynhau archwilio a rhannu ymarferion newydd ac arloesol. Fel rhan o dîm SALT, mae Mandy yn gwella, arloesi a chefnogi a gwasanaethau perthnasol eraill. Mae Mandy yn Uwch Gymrawd o’r AAU
Ebost: m.j.jack@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 513282 (galwadau allanol) / Ex.3282 (mewnol)
Darren Minister
Cyn ymuno â thîm cydnabyddiaeth SALT, gweithiodd Darren men Addysg Uwch yn dysgu Hanes a Llywodraedd a Gwleidyddiaeth am ddeng mlynedd. Am ddwy flynedd, roedd hefyd ganddo’r rôl o swyddog UCAS.
Bydd Darren yn cefnogi a chyfeirio ymgeiswyr ac aseswyr gyda phroses yr AAU a defnyddio’r UKPSF ynghyd â’r gwaith cynorthwyol i banel yr aseswyr.
Ebost: d.g.minister@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 604307 (galwadau allanol) / Ex.4307 (mewnol)
Luke O’Sullivan
Fe ymunodd Luke â Thîm Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg yn SALT ym mis Mai 2018. Mae ganddo 20 mlynedd o brofiad o ddarganfod a datblygu systemau a gwasanaethau ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus ac academig. Ar ôl gweithio yn y Brifysgol am ddeng mlynedd fel datblygwr meddalwedd a chwblhau TAR mewn Addysg Gynradd, mae Luke yn gyffroes i gael y cyfle i gyfuno’i brwdfrydedd o addysg a thechnoleg i ddarganfod a rhannu ymarferion gorau mewn dysgu ac addysgu.
Ebost: l.osullivan@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602772 (galwadau allanol) / Ex.2772 (mewnol)
Liza Penn-Thomas
Ymunodd Liza â SALT ym mis Mehefin 2017 er mwyn rhoi cymorth a hyfforddiant rheng flaen ym maes Datblygu Dysgu a wellir drwy Dechnoleg, yn ddiweddarach, fel Datblygwr Academaidd ar Dîm Prosiect Canvas. Mae hi’n meddu ar dros 25 o flynyddoedd o brofiad ym maes cefnogi dysgwyr amrywiol a’u hathrawon mewn amrywiaeth o rolau – gan ganolbwyntio ar hwyluso dysgu gydol oes trwy hyrwyddo llythrennedd digidol a llythrennedd gwybodaeth.
Hefyd, mae Liza yn angerddol am gyfathrebu creadigol ym maes ymchwil ac addysgu. Mae ganddi ddiddordeb penodol ym maes buddion chwarae a bod yn chwaraeus a mynegiant creadigol mewn amgylcheddau dysgu Addysg Uwch.
Ebost: l.penn-thomas@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Suzie Pugh
Mae Suzie wedi mwynhau gyrfa yn addysg mewn nifer o rolau dysgu ac ymgynghoriaeth. Cyn ymuno â SALT ym mis Tachwedd 2017, gweithiodd hi fel academig am ddeng mlynedd, yn ffocysu ar ddatblygiad proffesiynol yn y gwaith. Fel rhan o dîm SALT bydd Suzie yn gweithio gyda’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch.
Mae Suzie yn Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Ebost: Suzannah.Pugh@Swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 604309 (galwadau allanol) / Ex.4309 (mewnol)
Louise Rees
Mae Louise wedi bod yn gweithio yn SALT ers mis Mawrth 2015 gan gefnogi gweithrediad llwybr mewnol y Brifysgol i Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae hwn yn fenter gyffrous, mae’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon o arbenigo staff mewn dysgu, addysgu ac asesu wedi’i fewnosod o fewn Strategaeth SALT a hefyd o fewn Strategaeth Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol. Cyn ymuno â SALT, gwariodd Louise pymtheg mlynedd yn gweithio yn y swyddfa Ansawdd (Quality Office), yn cefnogi sicrwydd ansawdd a mentrau mwyhad. Roedd hi hefyd yn cefnogi Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol gan gynghori ar bolisiau a datblygiad strategol. Fel rhan o’r tîm Cydnabyddiaeth, mae Louise yn rhan o gefnogi a chyfeirio ymgeiswyr ac aseswyr ar eu profiad mewn cysylltiad â’r UKPSF ynghyd â’r gwaith cynorthwyol i banel yr aseswyr.
Ebost: l.j.rees@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 606075 (galwadau allanol) / Ex.6075 (mewnol)
Jenny Tetlow
Ymunodd Jenny â thîm SALT gan weithio i dîm prosiect Canvas SALT ac mae hi bellach yn rhan o Dîm Technoleg Dysgu Uwch SALT.
Gweithiodd fel peiriannydd prosesu siartredig yn y diwydiannau olew, nwy ac yswiriant yn ystod ei gyrfa gynnar. Ar ôl hynny, gweithiodd mewn nifer o feysydd gan gynnwys: datblygu dysgu prosiectau a diogelwch, ymgynghoriaeth prosiectau, yn ogystal â dysgu ac addysgu mewn diwydiant ac ym maes addysg uwchradd. Mae hi’n meddu ar radd TAR mewn Addysgu Mathemateg Uwchradd. Mae hi’n cynnig dealltwriaeth o ddylunio a chyflenwi dysgu wrth ddefnyddio technoleg mewn lleoliadau sector cyhoeddus a sector preifat.
Ebost: j.h.tetlow@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Suzanne Wells
Ymunodd Suzanne â thîm DPP SALT ym mis Ionawr 2020 a’i phrif ddyletswydd yw trefnu Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu SALT. Cyn ymuno â SALT, gweithiodd Suzanne fel darlithydd am 16 o flynyddoedd gan ddatblygu a chyflwyno rhaglenni a oedd, yn bennaf, yn ymwneud â Rheoli Digwyddiadau. Mae ganddi brofiad a diddordeb ym maes sicrhau ansawdd, dylunio a datblygu cwricwlwm, dysgu’n seiliedig ar waith, asesu dilys ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Ebost: s.m.wells@swansea.ac.uk
Ffôn: TBC
Cynrychiolwyr Coleg SALT
Cliciwch yma am Amlinelliad rôl – Cynrychiolydd SALT
Arts and Humanities – Steve McVeigh
Athro Cysylltiol – Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol
Ebost: s.p.mcveigh@swansea.ac.ukk
Ffôn: 01792 602897 (external calls) or Ex.2897 (internal)
Ar gyfer pob ymholiad sy’n gysylltiedig ag agweddau gweinyddol y rôl, cysylltwch â Helen Baldwin (h.baldwin@swansea.ac.uk)
Peirianneg – Tom Love
Darlithydd – Gwyddor Chwaraeon
Ebost: t.d.love@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 606243 (galwadau allanol) / Ex.6243 (mewnol)
Gwyddorau Dynol ac Iechyd – Ingrid Pritchard
Uwch Darlithydd – Nyrsio
Ebost: i.l.pritchard@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602876 (galwadau allanol) or Ex.2876 (mewnol)
Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton – Michael Draper
Darlithydd Cysylltiol
Ebost: m.j.draper@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602258 (galwadau allanol) / Ex.2258 (mewnol)
Rheolaeth – Simon Rudkin
Uwch Darlithydd – Economeg
Ebost: s.t.rudkin@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 606159 (galwadau allanol) / Ex.6159 (mewnol)
Meddygaeth – Paula Row
Darlithydd
Ebost: p.e.row@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 602789(galwadau allanol) / Ex.2789 (mewnol)
Gwyddoniaeth – Timothy Burns
Darlithydd Cysylltiol – Ffiseg
Ebost: t.burns@swansea.ac.uk
Ffôn: 01792 295020 (galwadau allanol) / Ex.5020 (mewnol)