Prosiect Peilot Dysgu Cyfunol

Rydym wrthi’n cynnal prosiect Peilot Dysgu Cyfunol draws-Brifysgol a reolir drwy’r Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol a Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau. Mae’r prosiect yn anelu at ddatblygu fframwaith a dull ar gyfer rhoi’r Dysgu Cyfunol ar waith. Diben y prosiect yw cefnogi’r broses o drosi hyd at 70 o fodiwlau i ddull Dysgu Cyfunol (tua 5 modiwl y semester ar draws pob un o’r 7 Coleg).

Noddir y prosiect gan yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor a chaiff ei arwain gan Dr Paul Holland, Deon Technoleg Addysgol a Rhian Kerton, Pennaeth Canolfan Gwella Dysgu ac Addysgu, y Coleg Peirianneg. Rheolir y prosiect o ddydd i ddydd gan Sean Cahill a chaiff ei gefnogi gan ddau dechnolegydd dysgu, wedi’u lleoli ar draws y ddau gampws.

Am wybodaeth am y prosiect a manylion am hyfforddiant a chymorth ar gyfer gwirfoddolwyr ar y prosiect, ewch i’r safle Collaborate:

https://collaborate.swansea.ac.uk/staff/projects/TEL/SitePages/FAQ.aspx

Comments are closed.