Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Cymrodoriaeth – gall myfyrio fod yn braf!

Amdanoch chi – Marcus Doel:

Ymunais â Phrifysgol Abertawe fel Athro Daearyddiaeth Ddynol yn 2000, ac roeddwn i wedi treulio’r degawd blaenorol yn academydd gyrfa gynnar a chanolog yn mireinio fy nghrefft yn Lerpwl ac yn Loughborough. Bellach, mae gennyf y pleser o fod yn aelod o uwch-dîm rheoli’r Brifysgol, fel Dirprwy Is-ganghellor yn canolbwyntio ar Ymchwil ac Arloesi, yn enwedig wrth i ni baratoi ar gyfer REF 2021, wrth barhau i addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Nid teitl newydd disglair, tystysgrif grand, rhif digon anghofiadwy arall sy’n bwysig. Yr hyn sy’n bwysig yw dangos ymrwymiad cyhoeddus i ragoriaeth addysgu a phroffesiynoldeb

Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?

Fel Athro a Dirprwy Is-ganghellor, teimlais ei bod hi’n bwysig arwain drwy esiampl a sicrhau cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth gan yr Academi. Rwyf yn disgwyl i bawb sy’n addysgu myfyrwyr wneud hynny hyd eithaf eu gallu, ac un ffordd o ddangos ymrwymiad i addysgu o’r radd flaenaf yw gwneud yr ymdrech i geisio cael Cymrodoriaeth. Wrth reswm, nid hon yw’r unig ffordd o ddangos ymrwymiad proffesiynol, o bell ffordd, ond mae’n bendant yn ddatganiad pwerus – i’n myfyrwyr, ein cydweithwyr ac, o bosib, i ni ein hunain. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael statws Cymrodoriaeth, ac rwyf bob amser yn hapus i glywed gan gydweithwyr sydd hefyd wedi derbyn y clod, boed yn Gymrawd Cysylltiol neu’n Brif Gymrawd.

Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

gan y bu’n rhaid i mi adfyfyrio ar fy ngyrfa addysgu a’m hymarfer addysgu mewn ffyrdd annisgwyl a newydd. Ces i’m synnu sawl tro.

Roeddwn yn hapus iawn i allu gwneud cais am Gymrodoriaeth drwy ein llwybr mewnol, gan yr oedd i’w weld yn drefnus iawn ac yn cynnig llawer o gefnogaeth, gan symud yn hwylus rhwng jargon od a rhyfedd Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU. Cymerodd ychydig ddiwrnodau i mi gael crap ar yr iaith wrth-reddfol, ychydig ddiwrnodau pellach i lunio fy achos ar Pebblepad, ac ychydig ddiwrnodau eto i gasglu’r dystiolaeth ynghyd a pharatoi’r cais cyflawn i’w gyflwyno. Yn y diwedd, roedd pob un o’r camau hynny’n ddefnyddiol, gan y bu’n rhaid i mi adfyfyrio ar fy ngyrfa addysgu a’m hymarfer addysgu mewn ffyrdd annisgwyl a newydd. Ces i’m synnu sawl tro. Pan ddechreuais ar fy nghais, roedd gennyf syniadau crand o wneud cais am Gymrodoriaeth Uwch, ond sylweddolais yn gyflym bod cyflawni hyn yn haws dweud na gwneud. Parch mawr i’r sawl ag astudiaethau achos trawiadol! Felly, dewisais i wneud cais am Gymrodoriaeth syml yn lle hynny. Nid yw’n hawdd i’w gyflawni o bell ffordd, ond mae’n fraint er hynny.

Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd addysg uwch?

Erbyn hyn, rwyf yn llawer mwy ymwybodol o werth ymchwil addysgol yn hytrach na chymryd yn ganiataol y byddaf yn amsugno ‘arfer gorau’ yn naturiol o ether ysgolheigaidd

Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi – y meysydd gweithgarwch, gwybodaeth graidd neu werthoedd proffesiynol – neu unrhyw un yn benodol a pham?

I mi, yr elfen bwysicaf oll oedd elfen ‘Gwerthoedd Proffesiynol’ y Fframwaith, a’r hyn y cyfeiriwyd ato yn ‘V2’ (cydraddoldeb) a ‘V4’ (cyd-destun) – nid yn unig oherwydd yr iaith neo-ryddfrydol, sych a ddefnyddir yn y Fframwaith, ond gan ei bod hi wedi fy ngalluogi i fynegi mewn geiriau’r hyn rwyf o hyd wedi’i ystyried yn faes brwydr allweddol yn y maes a elwir yn ‘Addysg Uwch’, sef brwydr y dosbarthiadau cymdeithasol.

Eich gair i gall a’ch awgrymiadau euraidd?

Nid teitl newydd disglair, tystysgrif grand, rhif digon anghofiadwy arall sy’n bwysig. Yr hyn sy’n bwysig yw dangos ymrwymiad cyhoeddus i ragoriaeth addysgu a phroffesiynoldeb, gan adfyfyrio’n systemig ar eich athroniaeth a’ch ymarfer addysgu chi. Gall yr hyn y gallwch ei ddysgu o hynny fod yn arbennig.

Ewch amdani. A mwynhewch y broses.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published.