Non Vaughan Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfryngau Digidol
“Mae’r profiad o ddarllen am arbenigedd aelodau eraill o staff ar draws y brifysgol, a rhannu barn gydag aseswyr o ddisgyblaethau gwahanol yn golygu fy mod yn parhau i ddysgu a datblygu fel athrawes.”
Rwy’n uwch-ddarlithydd mewn Cyfryngau Digidol yn yr adran Cyfryngau a Chyfathrebu o fewn Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2012. Mae fy nghefndir yn y byd darlledu, ac rwyf wedi gweithio yn y sector addysg uwch fel darlithydd ers ugain mlynedd, gan gyfuno hynny gyda gwaith fel cynhyrchydd cyfryngol.
Nid fûm erioed ar gwrs ymarfer dysgu i hyfforddi fel athrawes, nid wyf ychwaith wedi cael profiad addysgu trwy lwybr gyrfa ymchwil fel nifer o fy nghyd-weithwyr, felly roeddwn yn awyddus i ffurfioli yr hyn a deimlwn oedd yn dod yn naturiol i mi, sef rhannu fy mhrofiad, sgiliau ac arbenigedd gydag eraill o fewn ystafell ddosbarth. Y bwriad oedd ymgeisio am gydnabyddiaeth fel Cymrawd, ond cafodd fy mhenaethiaid berswâd arnaf i roi cynnig am gategori Uwch Gymrawd, oherwydd y mentrau yr oeddwn wedi eu rhoi ar waith yn y Coleg, megis sefydlu Panel Diwydiant o fewn Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu.
Amlygodd y broses o baratoi’r cais bod llawer o’r hyn a oeddwn yn ei wneud yn naturiol yn darparu enghreifftiau o arfer dda, ac yn cynnig esiamplau o dystiolaeth angenrheidiol er cyfoethogi’r cais. Ar y llaw arall, roeddwn yn sylweddoli wrth ddarllen ymchwil pedagogaidd bod angen i mi, er fy mhrofiad helaeth, herio rhai o fy nulliau addysgu gan agor fy meddwl i ddulliau newydd.
Mae’r profiad wedi fy annog i gwestiynu yr hyn rwy’n ei wneud mewn modd gwrthrychol, gan osod y myfyriwr/wraig ynghanol y profiad addysgol. Rwyf hefyd yn fwy hyderus i rannu gwybodaeth am fy nulliau addysgu gyda myfyrwyr er eu hannog i ddeall y broses ddysgu. Ers cwblhau y cais ac ennill y gydnabyddiaeth rwyf hefyd yn fwy parod i fabwysiadu yr agwedd o adnewyddu sgiliau (rwyf bob amser wedi ei rhoi ar waith o fewn fy mhwnc) i’r agwedd bedagogaidd o fy ngwaith.
Bu’r penderfyniad o fuddsoddi amser mewn datblygu fy nghrefft fel athrawes yn fuddsoddiad gwerth chweil a chefais gymorth adeiladol gan fentor o fewn fy ngholeg. Roedd y broses o baratoi’r cais yn heriol ynghanol tymor prysur, ac roedd angen tipyn o amynedd wrth osod y cais ar y meddalwedd Pebblepad.
Ers gorffen y cais, ac yn bendant ers llwyddo i gael y gydnabyddiaeth, yr wyf wedi cael hyder i rannu fy nulliau addysgu gyda chydweithwyr o fewn fy adran, er enghraifft ar ddulliau cyfunol ac asesu grŵp. Bellach rwyf wedi hyfforddi fel asesydd a mentor, ac wedi cael cyfle i arwain tîm wrth asesu ceisiadau mewnol am gydnabyddiaeth yr Academi Addysg Uwch. Mae’r profiad o ddarllen am arbenigedd aelodau eraill o staff ar draws y brifysgol, a rhannu barn gydag aseswyr o ddisgyblaethau gwahanol yn golygu fy mod yn parhau i ddysgu a datblygu fel athrawes. Edrychaf ymlaen i fentora aelodau o staff, gan fedru cynnig cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae cydnabyddiaeth fel Uwch Gymrawd yn dilysu yr arweiniad yr wyf wedi ei roi ar fentrau gwahanol, a fy ysbrydoli i archwilio, ac adlewyrchu ar ddulliau gwahanol o arwain cydweithwyr a thimau. Rwyf newydd gael dyrchafiad o ddarlithydd i uwch-ddarlithydd, a chredaf bod y gydnabyddiaeth fel Cymrawd Hŷn wedi cynorthwyo gyda hyn.
Buaswn yn annog unrhywun i roi cynnig arni, er mwyn ennill cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydych mwy na thebyg yn ei wneud beth bynnag, ac i gyfoethogi eich ymarfer er budd eich myfyrwyr, a’ch budd eich hun – o safbwynt datblygiad personol a balchder yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
That’s a very inspiring story, Non!