Dylai arweinyddiaeth gynnwys bod yn fodel rôl a helpu a chefnogi cydweithwyr i feddwl yn fwy am eu haddysgu a’r ffyrdd y gallant wella eu harfer ar gyfer eu myfyrwyr a’u hunain.
Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn gwerthfawrogi addysgu, ac athrawon gwych mewn AU. I mi, mae bod yn Gymrawd yn un o’r ffyrdd y gallaf ddangos yr ymrwymiad hwn.
Dywedwch wrthym amdanoch:
Dr Laura Mason ydw i ac rwy’n wyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff yn y coleg peirianneg. Des i Abertawe fel myfyriwr israddedig yn 2000 a dwi heb adael. Rwyf wedi bod yn addysgu yma ers 2005. Des yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch yn 2015 cyn i lwybr cais uniongyrchol Abertawe ddechrau a des yn Gymrawd Hŷn drwy lwybr ysgrifenedig SAR yn 2018.
Pam roedd cael cydnabyddiaeth fel Cymrawd yn bwysig i chi? Pam cyflwyno cais?
Yn y coleg peirianneg rwy’n eistedd yn y ganolfan gwella dysgu ac addysgu (LTEC) felly rwy’n ymroddedig i geisio gwella’r profiad addysgu a gynigir i’n myfyrwyr. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn gwerthfawrogi addysgu, ac athrawon gwych mewn AU. I mi, mae bod yn Gymrawd yn un o’r ffyrdd y gallaf ddangos yr ymrwymiad hwn.
Beth ddysgoch chi o’r broses llunio cais ar gyfer Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?
Mae paratoi’r cais fel cynnal archwiliad o’ch addysgu a’ch gweithgareddau addysgu. Mae’n brofiad defnyddiol iawn am y rheswm hwnnw, cyn i chi ysgrifennu gair ar gyfer y cais ei hun.
Sut mae wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn meddwl am addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd Addysg Uwch?
Mae wedi agor fy llygaid i faes ymchwil cwbl newydd lle addysgu dysgwyr yw’r ffocws. Rwy’n darllen mwy o ymchwil addysgeg ac yn meddwl llawer mwy am fy modiwlau a sut gallaf eu datblygu a’u gwerthuso nhw.
Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi – y Meysydd Gweithgarwch, Gwybodaeth Graidd neu Werthoedd Proffesiynol – neu unrhyw un penodol a pham?
Y meysydd gweithgarwch yw’r rhai allweddol (er nad wyf yn gallu dewis un yn unig!). Dyma’r hyn rydym yn ei wneud yn ein rôl fel darlithwyr a dyma hanfod y Fframwaith, sy’n cael ei gryfhau gan wybodaeth graidd a gwerthoedd proffesiynol. Dyma’r hyn rydych yn ei wneud i wella eich addysgu ac addysg myfyrwyr!
Beth oedd elfennau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?
Y rhan orau am y broses yw ei bod yn rhoi’r cyfle i chi feddwl o ddifri am eich arfer addysgu a myfyrio ar yr elfen honno o’ch gyrfa. Mae’n ffordd dda o bwyso a mesur pethau. Mae’n gyfle da i gwrdd â chydweithwyr newydd ar draws y Brifysgol yn y gweithdai paratoi hefyd. Y peth mwyaf heriol i mi oedd yr arddull ysgrifennu. Nid wyf byth yn ysgrifennu unrhyw beth yn y person cyntaf ac yn ei chael hi’n anodd iawn i ysgrifennu amdanaf i a fy nghyraeddiadau heb fod yn orfeirniadol wrth fyfyrio.
Sut ydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers derbyn y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal y gymeradwyaeth honno.
Fel y rhan fwyaf ohonom, rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella fy modylau, felly rwy’n teimlo fy mod mewn cylch o werthuso a newid. Mae bod yn aseswr fel rhan o lwybr cais Abertawe yn cadw’r Fframwaith yn fyw yn fy meddwl ond mae hefyd yn fy ngalluogi i weld enghreifftiau gwych o arfer da gan golegau eraill yn y Brifysgol a dewis a dethol syniadau. Mae fel cynhadledd gydol blwyddyn Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (ond gyda mwy o waith papur!). Mae bod yn gymrawd yr Academi Addysg Uwch hefyd yn rhoi mynediad i adnoddau a chysylltiadau gwych i chi drwy HE Advance sydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol er mwyn parhau i ddatblygu a gwella fy arfer.
I rywun nad yw’n siŵr am ymgeisio, pa eiriau o anogaeth y gallech chi eu cynnig?
Os ydych wedi bod yn addysgu mewn AU am beth amser, rydych yn gwybod bod gennych yr wybodaeth graidd ac rydych siŵr o fod yn gwneud yr holl weithgareddau maes gyda gwerthoedd proffesiynol yn ei ategu. Felly mewn gwirionedd rydych yn rhoi amser i chi’ch hun er mwyn ei roi ynghyd a chanfod y dystiolaeth i gefnogi eich cais.
Pa awgrymiadau y gallech chi eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrawd – unrhyw gategori?
Neilltuwch amser. Gwnewch yr hunanddiagnosis a chasglu eich tystiolaeth yn gyntaf
Neilltuwch amser. Nid yw’n beth rhwydd i’w wneud nawr ac yn y man ac mae’n wahanol iawn i’n harddull ysgrifennu ein gwaith ymchwil academaidd. Gwnewch yr hunanddiagnosis a chasglu eich tystiolaeth yn gyntaf fel eich bod yn gwybod yr hyn rydych am ysgrifennu amdano.
Beth yw’r prif feini prawf i chi fel Cymrawd Hŷn?
Yr elfen arweinyddiaeth yn amlwg yw’r prif newid o fod yn gymrawd, ond mae’n bwysig cofio nad yw arweinyddiaeth yn y maes hwn yn ymwneud â rheoli cydweithwyr. Dylai arweinyddiaeth gynnwys bod yn fodel rôl a helpu a chefnogi cydweithwyr i feddwl yn fwy am eu haddysgu a’r ffyrdd y gallant wella eu harfer ar gyfer eu myfyrwyr a’u hunain.