Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Arwain wrth ail-ddylunio’r cwricwlwm

 

Dyma Debbie Jones, Cyfarwyddwr Israddedig Troseddeg yn rhannu ei phrofiad o gael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth ac yna Gymrodoriaeth Uwch. Cafodd ELTA a enwebwyd gan fyfyrwyr yn 2018 ac mae wedi bod yn ymchwilio i reoleiddio’r diwydiant rhyw gyda’r Athro Tracey Sagar ers 2008. (Rhagor o fanylion ynglŷn â Debbie: https://www.swansea.ac.uk/staff/law/deborahjones/)

 

Roeddwn yn ystyried cydnabyddiaeth statws Cymrodoriaeth Uwch fel cyfle i adfyfyrio ar y gwaith datblygu a llunio cwricwlwm hwnnw ac arweinyddiaeth mewn asesu yr oeddwn wedi’u cwblhau


“Dechreuais i weithio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio yn yr heddlu felly roedd yn gam mawr dod i addysgu ym maes Addysg Uwch.

Cyn hynny, prin iawn o hyfforddiant ar gyfer addysgu a gefais i. Yn bennaf, cefnogi seminarau a chymryd rhan yn y cwrs addysgu grwpiau bach a oedd ar gael gan yn y Brifysgol ar y pryd oeddwn i, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn. Ond doeddwn i ddim wedi fy mharatoi ar gyfer rôl addysgu fwy eang ac felly es ati’n annibynnol i gwblhau’r PGCert mewn Addysg Uwch. Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i sicrhau y gallem ychwanegu gwerth at ddysgu myfyrwyr drwy’r cwrs ac roedd cyflawni peth Ymchwil Weithredu fel rhan o’r cwrs hwnnw’n benodol wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r portffolio o waith ar gyfer gwreiddio cyflogadwyedd yn ein cwricwlwm. Cafodd y cwrs achrededig hwn achrediad gan yr Academi Addysg Uwch ac felly wrth ei gwblhau, cefais gydnabyddiaeth drwy Gymrodoriaeth.

Rwyf wedi bod yn gyfarwyddwr rhaglen ers sawl blwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi ail-lunio’r cwricwlwm troseddeg, gan ystyried adborth gan fyfyrwyr a staff, yr hyn sydd ar y gweill yn y sector ac mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda sgoriau uchel iawn yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Roeddwn yn ystyried cydnabyddiaeth statws Cymrodoriaeth Uwch fel cyfle i adfyfyrio ar y gwaith datblygu a llunio cwricwlwm hwnnw ac arweinyddiaeth mewn asesu yr oeddwn wedi’u cwblhau. Roedd hefyd yn cyd-fynd â’m cyfraniad at y cwrs Arweinyddiaeth Aurora ac felly roedd yn ddefnyddiol gallu adfyfyrio ar arweinyddiaeth ac addysgu.

Gall elfennau ymarfer Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU beri dryswch a bod yn annymunol, wedi’u hysgrifennu mewn iaith jargonllyd, ac roedd yn anodd i mi alinio’r hyn yr oeddwn i wedi’i wneud â’r Fframwaith. Yr hyn a oedd yn rhoi cryn dipyn o foddhad oedd gweld bod y gwerthoedd proffesiynol a oedd gennyf fi’n bersonol yn cael eu cynrychioli mewn gwerthoedd proffesiynol Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ac felly roedd yn gadarnhad dal bod fy null i o ymarfer yn cyd-fynd â nhw. Roedd y broses o lunio cais am Gymrodoriaeth Uwch yn hwb i’m hyder yn fy ngalluoedd, gan gadarnhau yr oedd fy syniadau ar gyfer datblygu cwricwlwm yn gadarn ac yn cyd-fynd â safonau ym maes AU.

Roedd y broses o lunio cais yn heriol. Er bod yr enghreifftiau ar Blackboard yn ddefnyddiol, gall dynnu sylw i gyfeirio atynt gan fod pob un ohonynt yn unigryw i’r unigolyn ac nid oes ateb cywir neu anghywir! Cymerodd beth amser i mi lunio ffurf ar gais a oedd yn gweithio i mi. Roedd hefyd yn heriol i mi wahaniaethu rhwng fy rôl arwain i a’r hyn sy’n llwyddiant ar y cyd.

Ond i fod yn gadarnhaol, roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn, ac fel y dywedais i o’r blaen, roedd yr enghreifftiau’n ddefnyddiol ac mae’n rhaid fy mod i’n aelod o grŵp prin gan fy mod i’n hoff o Pebblepad! Dw i ddim yn rhywun sy’n graff iawn gyda thechnoleg ac felly mewn ffordd ymarferol iawn, roedd ymgyfarwyddo â’r feddalwedd wedi gwella fy sgiliau TG.

Wrth edrych at y dyfodol, byddaf yn parhau i arwain y rhaglen, ac rwy’n credu’n gryf mewn darparu’r cymorth angenrheidiol i staff er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau a chynnig amgylchedd sy’n annog natur greadigol ac arloesol wrth asesu a defnyddio technoleg. Fel mentor addysgu a Mentor Academaidd Uwch, bellach gallaf gefnogi darlithwyr newydd gyda’u hymarfer a chefnogi myfyrwyr a’u hannog wrth iddynt ddatblygu modiwlau newydd.

Felly ewch ati i wneud cais! Ac nid yn unig at ddiben cael cydnabyddiaeth ond, hefyd, i achub ar y cyfle i adfyfyrio ar eich ymarfer a chwilio am feysydd i’w gwella.


Sylwer: Er mwyn cael cymorth i ddehongli Elfennau Ymarfer yr UKSPF, gweler yr adnoddau ar-lein isod ar wefan yr Academi Addysg Uwch: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/dimensions-framework

Leave a Reply

Your email address will not be published.