Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Cydnabod cefnogaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil drwy Gymrodoraeth yr AAU

 

Wrth iddo fod yn orfodol i staff ifancach, credais ei fod yn bwysig bod academyddion uwch i’w gweld yn cyflogi’r broses yma hefyd, ac efallai arwain drwy esiampl, ennill y gydnabyddiaeth fy hun.”

Mae Steve Conlan yn Athro Ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae’n arwain grŵp ymchwil bioleg atgynhyrchiol ac oncoleg gynaecoleg gan gefnogi amrywiaeth o staff ôl-ddoethurol, myfyrwyr PhD a meistr a hefyd myfyrwyr israddedig sy’n gwneud traethawd terfynol yn y maes yma. Roedd yn un o gyd-sefydlydd Canolfan ar gyfer NanoHealth. Darllenwch ragor am Steve drwy ei broffil: <https://www.swansea.ac.uk/staff/medicine/research/conlanrs/>

Mae cyfrif Steve o Gymrodoriaeth eithaf anghyffredin gan ei fod yn ffocysu’n flaenorol ar gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig gyda’r bwriad o ennill graddau uwch. Dyma pam wnaeth ef geisio am gydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yr AAU a beth wnaeth ef gael allan o’r broses gais.


Pam wnaethoch chi roi gwerth ar ennill cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yr AAU?

“Rydw i’n gweithio mewn Prifysgol ac i mi, y bwriad cynradd yw addysg. Mae angen i wyddonwyr y dyfodol cael eu dysgu am eu maes a chael eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau priodol i’w rolau.

Pan ddechreuais yn 2000, roedd yna peth cymorth ‘proffesiynol’ ar gyfer darlithwyr newydd.  Er i chi gael “taflu’r llyfr testun” ac roedd disgwyl i chi ddysgu yn fuan iawn wedi hynny. Fe wnes i ddysgu sut i addysgu a chefnogi addysgu drwy ‘entropi’.

Nawr, mae staff academig ifancach yn dysgu’n broffesiynol sut i fod yn addysgwyr ac mae’n werthfawr eich bod wedi gwneud yr ymarfer trwyddedig yma. Wrth iddo fod yn orfodol i staff ifancach, credais ei fod yn bwysig bod academyddion uwch i’w gweld yn cyflogi’r broses yma hefyd, ac efallai arwain drwy esiampl, ennill y gydnabyddiaeth fy hun.”

Pa effaith wnaeth y broses ysgrifennu cael?

“Roedd y broses yn un eithaf diddorol i’w gwneud. Fe wnaeth i mi adlewyrchu ar beth rydw i wedi elwa trwy’r profiad. Roeddwn yn gallu atgyfnerthu fy syniadau ac ystyried ardaloedd o fy ymarfer goruchwyliol ble gallaf gynnig hyd yn oed yn fwy i fy myfyrwyr.

Fe wnaeth alluogi i mi ddod â’n syniadau at ei gilydd, adolygu’r llenyddiaeth pedagogeg a fe wnaeth hyn helpu cryfhau fy ymarfer.

Rydw i wastad wedi annog dysgu annibynnol. Er enghraifft, yn hytrach na’r cyfarfod ‘traddodiadol’ arolygwr/myfyriwr lle mae’r arolygwr yn gofyn i’r myfyriwr beth maent wedi gwneud ac mae’n teimlo fel bod y myfyrwyr yn rhoi adroddiad, mae fy myfyrwyr yn arwain y cyfarfod ar lefel cymar wrth gymar. Rydym yn archwilio syniadau, rydym yn cael sgwrs dwfn ddwyffordd sy’n adlewyrchu’r arddull o hyfforddi rydw i’n defnyddio i staff – rydw i’n gweithredu hynny gyda myfyrwyr. Gall myfyrwyr gwahodd cyfoedion i’r cyfarfodydd neu arbenigwyr arall, rydw i’n cynnig amgylchedd yn y cyfarfodydd yma lle nad ydynt yn dychrynu wrth rhoi syniadau.”

Rhai heriai? Rhannau da o’r broses gais?

“Nid oeddwn yn gwybod llawer o’r llenyddiaeth mewn addysg yn cwmpasu arolygaeth myfyriwr ymchwil, fe wnes i ffeindio’n anodd i ddod o hyd i tystiolaeth ar gyfer hyn a beth ganfyddir fel ymarfer gorau (mae’r llenyddiaeth ar gael yn eitha’ gyfunedig). Dyma lle mae timau goruchwyliol yn ddefnyddiol i gefnogi ein gilydd a chynnig arddull personol gwahanol.

Fe wnes i ffeindio’r broses ysgrifennu’n rhwydd iawn. Roedd yna sgyrsiau gwerthfawr o amgylch yr ystafell yn y sesiynau datblygu’ch cais – yn enwedig gyda’r rhai oedd â cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn barod ac yn ceisio am Uwch Gymrawd. Roedd y canllawiau doethurol o’r AAU yn fframwaith hefyd yn ddefnyddiol iawn ac roedd yn ddiddorol i edrych ar esiamplau blaenorol i fedryddu cyfeiriad a dyfnder y manylder yn agweddau gwahanol o’r cais.

Mae’r arddulliau ysgrifennu yn gwbl wahanol i ysgrifennu gwyddonol. Fe wnes i ffeindio’n debyg i ysgrifennu datganiad i’r wasg. Roedd yn hanfodol i ddynoli’r ysgrifen – mae amdana i!

Roedd cael adborth rhywun arall ar fy nrafftiau yn amhrisiadwy. Nad oes ofn gen i i gael beirniadaeth adeiladol – gallwch fynd yn geirddall ac mae’n bwysig i’w rhoi i un ochr a rhoi allan ar gyfer adolygiad.”

Mae disgwyl i Gymrodyr ‘aros mewn arfer da’, sut ydych chi’n gwneud hynny?

“Dwi’n parhau fy null i arolygiaeth gyda ffocws ar bwysigrwydd o ysgrifennu papurau ymchwil yn gynnar ac yn gyflinellol â ysgrifennu’ thesis. Cyhoeddiadau ymchwil yw’r nwydd o wyddonwyr ac felly mae cael rhai yn barod a ddim aros tan ddiwedd eu ymchwil yn rhoi myfyrwyr mewn safle cryf iawn o rhan gyrfa yn y dyfodol. Rydw i’n cefnogi nhw mewn ffordd strwythuredig, trafod syniadau, yr arddull ysgrifennu, mae drafftio a golygu yn rolau allweddol i mi fel arolygwr ymchwil.

Rydw i hefyd yn archwilio, yn fy rôl fel Pennaeth Menter ac Arloesedd ar gyfer yr Ysgol, ffyrdd gallai ymgorffori arloesodd o fewn cwricwlwm israddedig ac ôl-raddedig. Hefyd, annog fy ymchwiliwr ôl-ddoethurol sy’n gwneud peth dysgu i geisio am gydnabyddiaeth Cymrawd Cysylltiol.”

Peth cyngor ar gyfer y rheini sy’n ystyried ceisio? 

“Dechreuwch yn gynnar, cynlluniwch yn dda a pheidiwch adael tan y funud olaf. Nid yw’n galed i ysgrifennu. Dechreuwch!”

Leave a Reply

Your email address will not be published.