DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) Cynwysoldeb

Hoffai Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) eich croesawu i’ch Beit DPP cyntaf. Rydym wedi creu cwrs Blackboard o’r enw DPP Cynwysoldeb, y’i nod yw helpu’r holl staff addysgu a chymorth i ddatblygu ymagwedd fwy cynhwysol yn eu rôl. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth am eich dyletswyddau yn unol â’r gyfraith a pholisïau Prifysgol Abertawe o ran darpariaeth ar gyfer yr ystod lawn o nodweddion gwarchodedig.

Mae’r cwrs wrthi’n cael ei ddatblygu, felly byddem yn croesawu’ch syniadau a’ch barn. Ceir adran blogio lle anogir aelodau staff i roi gwybodaeth gyfredol werthfawr am Arfer Cynhwysol yn eu disgyblaethau penodol. Byddwn yn ychwanegu at y cynnwys ar-lein drwy weithdai hefyd. Yr un cyntaf yw ‘Bod yn Diwtor Personol Cynhwysol’, yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd.

Gobeithiaf y bydd cynnwys y cwrs ei hun, a’r angen i wneud yr hyn a wnawn yn well, yn ddigon o ysgogiad i gymryd rhan yn y cwrs DPP Cynwysoldeb, ond rhagwelaf y bydd bathodynnau yn ysgogiad ychwanegol i ddysgu.

Y syniad yw y gall staff brofi’r cynnwys cyfarwyddol, a gyflwynir yn y modiwl, yna cael eu gwobrwyo â llun digidol o fathodyn ar ôl ei gwblhau. Gall y bathodynnau digidol ddynodi sgiliau ardystiadwy.
Mae’n bosib eich bod wedi’ch cofrestru eisoes, felly cadwch lygad am DPP Cynwysoldeb yn eich Modiwlau Cyfredol 1617. Os na welwch y modiwl, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

  1. Yn gyntaf, sicrhewch eich bod wedi mewngofnodi i Blackboard
  2. Cliciwch ar http://bit.ly/CPDInclusivity
  3. Cliciwch ar y ddolen “Click Here to Enrol” link
  4. Cliciwch ar y botwm gwyrdd + Enrol ar y chwith
  5. Dywedwch wrth Mandy Jack sut yr aeth pethau drwy e-bostio m.j.jack@abertawe.ac.uk

An image version of the instructions above

Leave a Reply

Your email address will not be published.