Gwnes i fynychu cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caeredin ar 15 Mehefin. Roedd y diwrnod cyntaf ar agor i bobl o’r tu allan a oedd yn rhagflas hyfryd o’r hyn a oedd i ddod yn ystod y digwyddiad dros dridiau. Agorwyd y gynhadledd gan eu pobl bwysig hwy, a oedd i’w ddisgwyl, ac roedd yn ddiddorol ac yn galonogol clywed y pethau tebyg yn ein sefydliadau dros y flwyddyn anodd ddiwethaf o waith caled gan staff a myfyrwyr. Roedden nhw hefyd yn dathlu eu Cymrodorion yr Academi Addysg Uwch gan annog eraill i gymryd rhan yn eu proses.
Roedd y ddau brif siaradwr a ddilynodd hyn yn rhagorol gan ysgogi llawer o drafodaeth yn y sesiwn holi ac ateb. Y cyflwyniad cyntaf oedd “Curriculum Considerations In Supercomplex Times” gan Kerri-Lee Krause sy’n Brofost ac yn Uwch Ddirprwy Is-ganghellor yng Ngholeg Prifysgol Avondale, Awstralia (daw Is-ganghellor Prifysgol Caeredin hefyd o Awstralia, felly roedd cysylltiad). Roedd hi’n drafodaeth hynod ddiddorol gan rannu ei hymchwil ym maes trawsnewid y cwricwlwm. Gofynnodd 4 cwestiwn: C1 Beth yw Trawsnewid y Cwricwlwm? C2 Pam mae eisiau Trawsnewid y Cwricwlwm? C3 Pwy sy’n arwain Trawsnewid y Cwricwlwm? A C4 Sut byddwch chi’n cyfranogi gyda Thrawsnewid y Cwricwlwm? Gwnaeth ein hannog ni i gyd i’w hateb naill ai yn y sgwrs neu ar bapur. Gwnes i drydaru’r cwestiynau ac yna ychwanegu fy ymatebion personol. Roeddwn yn meddwl y byddai’n ddiddorol i ni fel tîm ymateb, hyd yn oed heb wrando ar gyflwyniad @kerrileekrause, roeddwn yn meddwl y byddai’n ymarfer rhagorol i ni oll ei ystyried gan ein bod i gyd yn ddatblygwyr academaidd. Gallwch ddod o hyd i’m trydarau yn @mandyjjack, mae’r dolenni uniongyrchol i bob cwestiwn uchod.
Yr ail brif siaradwr oedd Rowena Arshad, Athro Emeritws a Chadair Bersonol Addysg Amlddiwylliannol a Gwrth-hiliol, Prifysgol Caeredin, “Diversity in Learning and Teaching: Is Inclusion Truly Available?” Roedd hwn yn anerchiad pwerus iawn lle bu Rowena’n trafod ymagwedd fwy cyfannol. Dyma’r prif bwyntiau allweddol y gwnaeth eu trafod:
- Cynhwysol – a’r angen i ystyried amrywiaeth dysgwyr, ethos gofod, yr iaith, cynnwys y cwricwlwm ac ymagweddau addysgegol
- Gwrth-hiliol – ei heriau, a gwerthoedd a strwythurau sy’n gadael i hiliaeth systematig barhau.
- Dad-drefedigaethu’r Cwricwlwm – a’r angen i archwilio pŵer a hanes yn feirniadol. Nid ychwanegu ystod amrywiol o ffynonellau at ein rhestrau darllen yn syml yw hyn. Nid ychwanegu amrywiaeth yw hyn chwaith ond dysgu o safbwyntiau gwahanol ac am weledigaeth wahanol ac y cyd.
Doeddwn i ddim yn gallu bod yn bresennol yn y pnawn, ond dyma ddolen i’w blog mae teitlau diddorol iawn a rhai dolenni hynod ddefnyddiol yn yr wybodaeth a allai fod o fudd ichi. Os bydd y recordiad o’r prif siaradwyr yn cael ei ddosbarthu, bydda i’n ei ychwanegu.