Rhaglen Drws Agored


“The trouble with having an open mind, of course, is that people will insist on coming along and trying to put things in it.” – Terry Pratchett (1990 – Truckers)

Open Door

Beth yw’r Rhaglen Drws Agored?

Mae’r rhaglen drws agored yn paru athrawon gyda’i gilydd, er mwyn hyrwyddo datblygiad o sgiliau, gwybodaeth a hyder.

Mae’n rhoi’r cyfle i athrawon gyda chwestiynau, problemau neu syniadau eistedd i mewn ar sesiynau gan eu cydweithwyr sydd yn wybyddus am agweddau penodedig o’u dysgu. Gall athrawon dewis pa fath o sesiwn hoffent arsylwi, a lle’n bosib gallant ddewis y ddisgyblaeth. Ar ôl y sesiwn, bydd yna gyfle i drafod gyda’r athro Drws Agored fel aeth y sesiwn a pham.

Nid yw’r rhaglen yn addo cynnig sesiynau perffaith, mae’n rhoi cyfle i chi arsylwi a meddwl amdano.


Cliciwch yma i ddarganfod sut allwch chi fwcio i arsylwi sesiwn.

Yn gyntaf bydd angen i chi ddewis y sesiwn hoffech wylio. Gallwch ddarganfod y sesiynau trwy ddull o ddysgu, Coleg, campws (y tri yma o’r dolenni ar ochr dde, top y dudalen yma) neu wrth edrych ar y sesiynau sy’n cael eu cynnig gan yr athrawon Drws Agored isod.

Ar dop pob un o’r sesiynau, mae yna ddolen gallwch glicio i ddanfon e-bost i ni (sydd â chyfeiriad a thestun awtomatig), fel gallwn ni cadw lle i chi ar y sesiwn. Ni allwn gadw lle i chi ar sesiwn sydd yn llawn (gan fod yr athrawon Drws Agored wedi rhoi niferoedd i ni sydd yn gyfleus ar gyfer maint yr ystafell ar dosbarth), ond allwn ni geisio cael rhagor o sesiynau o’r person hynny/dull dysgu ayyb. Felly, danfonwch neges hyd yn oed os yw’r sesiwn yn llawn.

Fe wnawn ni ateb eich ebost gyda chadarnhad o’ch lle. Yna, ond troi i fynny a gwylio’r sesiwn sydd angen i chi gwneud. Wrth i chi wylio, ceisiwch sylwi ar ddau beth (o leiaf) oedd yn nodedig.

Ar ôl y sesiwn, gobeithio bydd amser gyda’r athro Drws Agored yn syth i drafod y sesiwn gyda’r gwylwyr. Fel aeth y sesiwn, beth oedd yn gweithio, beth nad oedd yn gweithio, pam gwnaethon nhw beth wnaethon nhw ayyb ac i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi.

Yn olaf, danfonwch ebost i ni salt@swansea.ac.uk yn nodi pa sesiwn aethoch chi i a beth oedd y ddau beth nodedig.


Pwy yw’r Athrawon Drws Agored?

Cliciwch ar enw’r athro am ragor o fanylion ac i weld y sesiynau byddant yn cynnig (wrth iddynt gael eu cadarnhau):

Dr Kevin Arbuckle (Gwyddoniaeth)

Mae brwdfrydedd Kevin yn ennyn diddordeb ei fyfyrwyr ac mae ei wybodaeth a’i ddychymyg yn ei gynnal. Wedi arsylwi ar Kevin yn addysgu, mae’n siarad yn naturiol iawn â’u myfyrwyr, gan eu cynnwys yn y sesiwn gyfan. Gwelais i sesiwn ar Baleontoleg Dinosoriaid a defnyddiodd Kevin elfennau o ddiwylliant poblogaidd i fachu diddordeb y myfyrwyr (gallwch chi ddyfalu’r ffilm), gan gymharu ag anifeiliaid byw, sleidiau hynod eglur â lluniau, hiwmor, arddangosiadau ffisegol a thop jigsô plentyn 4 oed i baentiau ei luniau. Llawer o holi (gan wobrwyo cyfraniad gyda siocled) a rhyngweithio, ac ychydig o waith grwp a thrafodaeth! Ei dro cyntaf gyda’r grwp hefyd. Llawer o awgrymiadau ar gyfer ennyn a chynnal diddordeb.
Cliciwch yma i weld y sesiynau y mae Kevin yn eu cynnig ar gyfer y rhaglen Drws Agored →

Dr Mark Coleman (Peirianneg)

Mae Mark yn adnabyddus yn ei Goleg (Peirianneg) am ei allu i addysgu dosbarthiadau mawr ac enillodd Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn 2018 am wneud hynny!Wrth wylio Mark yn addysgu, daw’n amlwg yn gyflym pam y cafodd ei enwebu am wobr. Mae ganddo ffordd hamddenol o gyfathrebu ac mae’n ennyn diddordeb ei fyfyrwyr â’i frwdfrydedd. Mae’n defnyddio llawer o fachau clyfar i gadw sylw’r myfyrwyr. Technoleg (Slido ac eraill), cwestiynau, hiwmor, modelau ymarferol, mae’n rhyngweithio â’r gynulleidfa, mae’n symud o gwmpas yr ystafell fawr (iawn) ac yn newid tôn ei lais. Mae’n gweithio’n galed! Mae llawer i’w weld yma.

Cliciwch yma i weld y sesiynau mae Mark yn eu cynnig ar gyfer y rhaglen Drws Agored →


Ute Keller-Jenkins (Celfyddydau a Dyniaethau – Ieithoedd Modern)

Fe wnaeth Ute ennill Gwobr Dysgu’r Is-ganghellor yn 2013, yr un amser iddi ennill ei thrydedd Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA). Mae hi’n adnabyddus am ei dull rhyngweithiol i ddysgu, wrth gynnwys ei myfyrwyr yn y sesiwn pob cyfle sydd ar gael. Mae’n drefnus ac mae’n amlwg bod ganddi barch tuag at ei myfyrwyr.Rydw i wedi gwylio Ute yn dysgu ac mae’n ymrwymo’i myfyrwyr ac yn defnyddio llawer o’i nodweddion yn ei dysgu. Mae Ute yn gefnogol iawn o’i myfyrwyr ac yn cynnwys bob un gyda chwestiynau penodol. Mae hi’n defnyddio gweithgareddau grwp gan newid trefn eistedd y myfyrwyr lle bo’n briodol.

Cliciwch yma i weld y sesiynau mae Ute yn eu cynnig ar gyfer y rhaglen Drys Agored →


Yr Athro Simon Bott (Gwyddoniaeth – Cemeg)

Mae gan Simon 21 o wobrau ar gyfer ei ddysgu, cyngor i fyfyrwyr ac ymrwymiad gyda myfyrwyr. Mae wedi treulio rhan fwyaf o’i amser yn yr UDA ac fe ddaeth yn ôl i Abertawe yn 2016 er mwyn agor adran Cemeg newydd Prifysgol Abertawe.Yn ystod ei amser yn America, roedd ganddo’r cyfle i ddatblygu nifer o wahanol strategaethau yn y dosbarth, llawer bydd yn gweithio’n dda yn ein hadran newydd yma yn Abertawe.

Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Simon ar gynnig →


Terry Filer (yr Ysgol Reolaeth – Cyfrifeg a Chyllid)

Dyfarnwyd Gwobr Cwrs Gorau Abertawe 2019 i Terry am y Defnydd Gorau o TEL mewn modiwl ac mae’n adnabyddus fel athrawes ragorol yn ei choleg. Ar ôl ei gwylio’n addysgu, mae hi’n glir iawn wrth ddysgu ac mae’n defnyddio digon o enghreifftiau dilys i drafod y ddamcaniaeth ac yn cynnwys llawer o sgiliau gwaith gwych ar gyfer cyflogadwyedd. Mae’n hyfryd gweld rhywun yn addysgu mewn ystafell gyfrifiadurol gan gadw diddordeb myfyrwyr ar dasg a’u cefnogi’n briodol. Hynod hamddenol ac yn hawdd mynd ati.

Gweler y sesiynau sydd ar gael gan Terry yma →


Tanya May (Celfyddydau a Dyniaethau – Ieithoedd Modern)

Mae Tanya wedi cael ei henwebu sawl gwaith am Wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu ac eleni, roedd hi’n un o enwebeion ei choleg am athro’r flwyddyn.

Mwynheais wylio Tanya’n addysgu, er nad oeddwn i’n gallu deall gair am fod y sesiwn yn Sbaeneg ! Ond doedd dim angen i mi ddeall y geiriau i weld yr hyn roedd yn ei wneud. Mae hi’n ymdrechu i feithrin cysylltiadau â’r holl fyfyrwyr, gan gwestiynu, turio’n ddyfnach, tynnu’r iaith ohonynt a symud o gwmpas yr ystafell i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. Roedd ganddi ddosbarth o lefelau cymysg (roedd un myfyriwr yn siarad Sbaeneg fel iaith gyntaf, roedd un arall yn siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf, ac roedd un wedi bod yn dysgu Sbaeneg am dair blynedd), ond gwnaeth hi ryngweithio â phob un ohonynt yn gyfartal a gwella a chywiro eu hiaith mewn modd cynnil iawn. Da iawn! Roedd gan Tanya berthynas wych â’i myfyrwyr, ac os ydych yn cynnal seminarau iaith, neu unrhyw seminarau sy’n dibynnu ar gwestiynu a chyfraniad myfyrwyr, byddech yn elwa ar fynd i un o sesiynau Tanya.


Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Tanya ar gynnig →


Sharon Harvey (Gwyddorau Dynol a Iechyd – Nyrsio)

Fe wnaeth Sharon ennill Gwobr Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu (ELTA) yn 2015 ac mae hi’n cael ei enwebu’n aml. Gan mae hi sy’n arwain y rhaglen Addysg Broffesiynol Iechyd, mae’r myfyrwyr yn gweld ei dysgu a’i phedagogeg fel ysbrydoliaeth.Wrth wylio Sharon yn dysgu, mae hi’n ymrwymo gyda’i myfyrwyr a’r deunydd wrth sicrhau bod pawb yn yr ystafell yn cymryd rhan. Mae hi’n sylwgar ac yn gofyn am gyfraniad o bob myfyriwr. Mae ganddi’r sgil i adrodd stori a naratif i’w dysgu er mwyn esbonio i’r dosbarth ei phrofiad mewn ymarfer clinigol.

Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Sharon ar gynnig →


Dr Tom Hannant (Hilary Rodham Clinton School of Law)

Cymeradwywyd Tom gan ei Bennaeth Coleg, Penaethiaid Dysgu ac Addysgu a’i fyfyrwyr. Ar ôl ei wylio’n addysgu, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael agoriad llygaid! A minnau’n beiriannydd a oedd yn cael fy herio trwy ddialog, llwyddais i gwblhau fy ngradd gyfan (flynyddoedd yn ôl) heb gymryd rhan mewn seminar. Felly, er nad oedd gennyf syniad o’r hyn i’w ddisgwyl, roedd yn bleser gweld Tom ar waith a mwynheais yn fawr. Mae ganddo arddull hamddenol iawn ac mae’n defnyddio technegau cwestiynu gofalus i ennyn diddordeb y myfyrwyr.

Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Tom ar gynnig →


Sian Rees (Celfyddydau a’r Dyniaethau – Cyfryngau a Chyfathrebu)

Fe wnaeth Sian ennill ‘Distinguished Teaching Award’ (adnabyddir nawr fel ELTA) yn 2011 ac mae’n cael ei enwebu bob blwyddyn! Mae’r myfyrwyr wastad yn uwcholeuo pa mor eglur yw ei dysgu a’r safon uchel o’i chyflwyniadau/taflenni/nodiadau ayyb.Wrth wylio Sian yn dysgu, mae’n amlwg bod hi’n drefnus a wastad wedi paratoi. Mae hi wastad yn sicrhau bod y myfyrwyr yn cymryd rhan yn y cynnwys mae hi’n dysgu. Mae’n defnyddio nifer o ddulliau gwahanol i wneud yn siwr bod ganddi sylw’r myfyrwyr trwy gydol y sesiwn. Mae’r dulliau hyn yn cynnwys, cymorth gweledol, clipiau fideo, astudiaethau achos, cwestiynu unigolion, gweithgareddau grwp byr (hyd yn oed mewn darlith fawr), trafodaethau ayyb. Mae Sian yn ymrwymo’i myfyrwyr gyda’i phwnc, ei dull a’i sylw i fanylder.

Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Sian ar gynnig →


Dr Peter Dorrington (Peirianneg)

Gwobrwywyd Peter â theitl Athro Prifysgol Abertawe’r Flwyddyn yn ddiweddar ac mae’n Athro’r Flwyddyn ar gyfer y Coleg Peirianneg . Chewch chi ddim y gwobrau hyn heb reswm ac ar ôl ei weld yn addysgu ac yn cynnal gweithdy dylunio, gwyliais i fyfyrwyr llawn brwdfrydedd yn archwilio brîff dylunio gyda gwaith grwp, arbenigwyr allanol, cymorthion ffisegol, efelychiadau, fideos a nodiadau cryno. Ddim yn wael o gwbl!Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Peter ar gynnig →


Dr John Knight (Gwyddorau Dynol ac Iechyd – Astudiaethau Rhyngbroffesiynol)

Fe wnaeth John ennill Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA) yn 2014 ac wedi cael ei enwebu’n gyson ers ni. Mae ei myfyrwyr wastad yn pwysleisio ei allu i wneud y pethau anodd yn ddeallus a diddorol. Mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen at ei sesiynau oherwydd ei ddefnydd o wybodaeth pwnc, trosglwyddiad gwybodaeth a’i synnwyr digrifwch.Wrth wylio John yn dysgu, mae’n arwain y myfyrwyr yn ofalus trwy’r deunydd gan gyfeirnodi gwaith blaenorol a nodau penodol. Mae’n ailadrodd yn aml a chwestiynu i sicrhau bod y myfyrwyr yn deall. Mae John yn defnyddio cymorth gweledol clir a syml gan annog gwrando actif. Mae’n cynnwys y myfyrwyr i gyd yn y broses dysgu ac mae yna awyrgylch tawel a chroesawgar yn ei sesiynau.

Mae sesiynau John yn dod yn fuan


Dr Joanne Hudson (Peirianneg – Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff)

Mae Jo yn cyflwyno sesiynau sydd bron yn hybrid. Maen nhw’n rhannol ddarlith, rhannol weithdy ac mae hyd yn oed rywfaint o elfennau tebyg i seminar ynddynt (pan fo nifer y myfyrwyr yn ddigon bach).Ar ôl ei gweld yn addysgu, mae’n amlwg bod gan Jo strwythur clir o ran yr hyn y mae hi’n ei wneud ac mae hi’n gweithio’n ofalus i gadw’r myfyrwyr ar y trywydd cywir. Mae hi’n defnyddio astudiaethau achos, gwaith ymchwil, clipiau fideo a thechnegau holi i ennyn sylw’r myfyrwyr, ac mae gwaith grwp, trafodaethau a thechnoleg yn rhan o’i sesiynau sy’n amlwg yn ennyn diddordeb ei chynulleidfa. Mae Jo yn cydnabod pwysigrwydd myfyrwyr yn siarad yn ystod y broses addysgu, ac mae hi’n hoffi cael grwpiau’n cydweithio yn ei sesiynau. Mae llawer i’w weld yma.

Cliciwch yma i weld fideo byr o Jo yn siarad am ei dull.

Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd gan Jo ar gynnig →


Trish Rees (Hilary Rodham Clinton School of Law)

(Apologies – Awaiting Welsh Translation)

Trish teaches on a range of modules across the Law School and is the module director for both Medical and Reproductive Law. Trish comes highly recommended by her Heads of L&T and is well known for her teaching. Having watched her teach, Trish has a relaxed style and handles potentially sensitive subject matter smoothly, and easily. Her use of Kahoot was outstanding, highlighting its use to gauge student opinion and benchmark it for revisiting further through the course. She uses questioning to provoke student response and to query student thinking. Very good example of how to navigate through quite polarising material.

Click here to see the sessions Trish is offering ?


Professor Danny McCarroll (Gwyddoniaeth – Daearyddiaeth)

Fe wnaeth Danny ennill gwobr Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu yn 2013, mae’n adnabyddus am fod yn ysgafngalon a bonheddig. Mae ei myfyrwyr wastad yn uwcholeuo pa mor frwdfrydig a cynorthwyol ydyw er mwyn cefnogi astudiaethau. Mae Danny wedi cymryd rhan mewn seminar SALT yn ddiweddar ar ei waith yn dysgu ystadegaeth i 240 o fyfyrwyr daearyddiaeth, anfodlon!Wrth wylio Danny yn dysgu (y grwp wedi nodi uchod), mae yna awyrgylch ymlacedig o’r dechrau ac yna’n defnyddio cymysgedd o weithgareddau (gan gynnwys corfforol), siarad â thrafodaethau i gyfeirio’r myfyrwyr. Nid yw’n cymryd ei hun o ddifrif gormod. Mae’n llwyddo creu awyrgylch croesawgar, cefnogol a di-bygythiol ond yn cadw myfyrwyr â diddordeb gyda cipiau sylw yn aml.

Danny’s sessions are coming soon

Cliciwch yma i weld y sesiynau mae Danny ar gael →


Yn olaf… Sut allai bod yn Athro Drws Agored ?

Rydym yn ddiolchgar iawn am eich brwdfrydedd! Ond, ar gychwyn y rhaglen Drws Agored, fel gallwn ni rheoli a chaniatáu iddo dyfu, mae SALT yn gweithio gyda dewis bach o bobl o fewn Colegau i sefydlu’r prosesau cywir sy’n gweithio. Felly, am nawr, gwahoddiad yn unig ydyw! Mae gennym ni gynlluniau ar gyfer proses enwebu yn y dyfodol (gan gynnwys hunan enwebiad).

Comments are closed.