National Teaching Fellowship
Mae cynllun Cymrodoriaeth Dysgeidiaeth Genedlaethol Academi Addysg Uwch yn cael eu hariannu gan Gronfa Cyngor Addysg Uwch ar gyfer Lloegr, Cronfa Cyngor Addysg Uwch ar gyfer Cymru ac Adran Cyflogaeth a Dysg yng Ngogledd Iwerddon. Mae ar agor i staff lle mae eu rolau yn cefnogi profiad dysgu myfyrwyr mewn sefydliadau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru.
Ar gyfer rhagor o wybodaeth ar yr Academi, ewch i: http://www.heacademy.ac.uk
Ein Cymrodyr Dysgeidiaeth Genedlaethol Flaenorol
Cymrawd Dysgeidiaeth Genedlaethol 2014 – Yr Athro Derek Connon
Dechreuwyd Derek yn Abertawe yn 1989 ac mae ef wedi dysgu ar amrywiaeth o fodylau sydd wedi ymroddi i lenyddiaeth a diwylliant Ffrengig, o’r 17eg a’r 20fed ganrif mewn genres llenyddol. Ond gyda phwyslais ar ei arbenigedd mewn drama. Mae Derek wedi dysgu dosbarthiadau ar iaith Ffrangeg, gyda diddordeb mewn cyfieithu, ac wedi cyfrannu i ddatblygiad astudiaethau cyfieithu yn ehangach. Mae ef hefyd wedi cyfrannu i ddarlithoedd ar sinema, cerddoriaeth a chelf. Ar ôl nifer o flynyddoedd fel Golygydd Ffrangeg, mae Derek hefyd yn Olygydd Cyffredin o ‘Modern Language Review’ ac yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Ymchwil Dyniaethau Modern.
Mae Derek wedi sefydlu nifer o ddatblygiadau i ymarferion a methodoleg, gyda’i chyfraniad unigol a’r esiampl mae’n creu i eraill. Mae ei ddysgu yn cofleidio natur alwedigaethol sydd yn pwysleisio gofynion a dulliau dysgu proffesiynol. Roedd wedi cael eu dylunio ar gyfer cyfieithwyr, mae’r modylau yma wedi profi’n boblogaidd iawn gyda myfyrwyr israddedig yn gyffredinol gan fod yna heriau byd go iawn, hunan-sicrwydd mae myfyrwyr yn cael gyda’u sgiliau ieithyddol a sgiliau gwneud penderfyniadau. Mae Derek wedi bod yn ddyfeisgar wrth ffeindio ffyrdd newydd o drosglwyddo ei frwdfrydedd a’i wybodaeth i’r myfyrwyr. Mae’n cyfuno cerddoriaeth, celf, ffilm, athroniaeth a dadansoddiad llenyddol ar ffurf dosbarth rhyngweithiol sydd yn gadael i fyfyrwyr deimlo wedi bodloni’n ddeallusol.
Mae Derek wedi bod yn rhan fawr o fwyhau pedagogeg ym Mhrifysgol Abertawe, o fewn ardal ei hun o Ieithoedd Modern ac ar draws y sefydliad. Mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol, Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau’r Brifysgol a hefyd yn aelod o Senedd a Llys y Brifysgol. Derek yw Deon y Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig ac mae’n cadeirio Bwrdd Academig (Israddedig) a Phwyllgor Achosion Myfyrwyr Israddedig. Yn arwyddocaol mae Derek wedi defnyddio’i rôl fel Deon i gefnogi’r mwyhad o brofiad dysgu myfyrwyr ar gyfer holl fyfyrwyr israddedig, gan uwcholeuo a rhannu arfer da ac i sicrhau cysondeb a hybu gwelliant parhaol ar draws y Brifysgol.
Cymrawd Dysgeidiaeth Genedlaethol 2012 – Yr Athro Jane Thomas
Jane Thomas (Cyfarwyddwr SALT) wedi ennill Cymrodoriaeth Dysgeidiaeth Genedlaethol yr Academi Addysg Uwch gyda chystadleuaeth galed.
Mae Cymrodoriaeth Dysgeidiaeth Genedlaethol yn cael ei wobrwyo ar gyfer rhagoriaeth mewn dysgu a chefnogaeth i’r dysgwyr mewn addysg uwch. Maent yn gystadleuol iawn. Fe gaeth Jane ei ddewis o dros 180 o enwebiadau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Jane yn nyrs, bydwraig ac yn ymwelydd iechyd gydag amrywiaeth o brofiadau yng ngwasanaeth proffesiynol cyn iddi ddechrau dysgu. Mae ei gyrfa dysgu yn ymestyn dros 25ain o flynyddoedd. Ymunodd yn gyntaf fel darlithydd gofal y gymuned ac ers ni mae hi wedi cael rolau gan gynnwys dysgu ymarferol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol, rheolaeth practis ar gyfer nyrsio oedolion a Chyfarwyddwr Ansawdd. Yn y rôl yna, roedd Jane yn arolygu asesiad, derbyniad a lleoliad myfyrwyr. Roedd hi’n cadeirio pwyllgorau dysgu ac addysgu, ansawdd cwricwlwm a derbyniad. Yn ei rôl uwch cyfredol, mae Jane yn rheoli cyfrifoldeb dysgu ac addysgu gan gynnwys staff a rhaglenni.
Mae Jane yng nghlwm ag agenda sefydliadol o bersbectifau gwahanol, sydd yn galluogi iddi rannu a buddio o ymarfer gorau. Mae wedi ymrwymo i ymarfer pedagogeg o strategaeth a throsglwyddiad, datblygu myfyrwyr ac athrawon i’w potensial llawn. Mae Jane yn cynnal gwaith llwyth dysgu ôl-raddedig gan alluogi iddi gadw perthynas gyda phrofiad myfyrwyr fel ymarferwr. Mae’r rôl reoledig yn cynnwys cyfeirio strategaeth academig yng Ngholeg Gwyddorau Dynol ac Iechyd o fewn Prifysgol Abertawe.
Gyda chefndir academig mewn iechyd cyhoeddus, mae Jane yn aseswr iechyd cyhoeddus gyda ‘United Kingdom Public Health Register (UKPHR)’. Mae hi’n arwain rhaglen ôl-raddedig mewn iechyd cyhoeddus ac yn darparu addysg unigol i’r sector. Mae hi wedi defnyddio dysgu lleoliad ar lefel ôl-raddedig, mae ganddi ddiddordeb mewn cyflogadwyedd yn seiliedig ar asesiad.
Mae Jane yn disgrifio’i hun fel wedi cael “gyrfa liwgar a heriol yn gweithio ar draws amrediad academig gydag athrawon da, aseswyr a myfyrwyr arloesol sydd yn ysbrydoli a chysylltu.” Mae Jane yn credu’n gadarn nad yw dysgu gydol oes ar gyfer myfyrwyr yn unig. Mae’n disgrifio’r Wobr NTF fel anrhydedd enfawr gan fod y gydnabyddiaeth a’r edmyget oddi wrth gyfoedion mewn addysg uwch. Bydd y Wobr yn galluogi i mi wneud datblygiadau creadigol ac arloesol bydd yn fudd i’m cydweithwyr a’m sefydliad a hefyd, i mi. Mae ganddi gynlluniau i ddatblygu adnodd i gefnogi datblygiad athrawon ac i archwilio ffyrdd gwahanol o asesu.
Dywed Yr Athro Alan Speight, Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr): “Rydym yn llongyfarch Jane ar y cyflawniad arbennig yma a chydnabyddiaeth genedlaethol ar ei chyfraniad i ddysgu ac addysgu nid yn unig i’r Brifysgol, ond i’r gymuned eang.”