Trwy gydol yr wythnos yma, mae SALT yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ddysgu mwy am Ddysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg a’i defnydd arloesol mewn dysgu ac addysgu.
Mae yna wahoddiad i staff Prifysgol Abertawe, o bob disgyblaeth, i gymryd rhan mewn unrhyw un o’r cyfleoedd DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus) isod, i gynorthwyo datblygu gwybodaeth a sgiliau:
Dyma fwrdd bwletin ar-lein gellir defnyddio i arddangos gwybodaeth ar unrhyw destun. Mae ein Padlet TEL yn dangos awgrymiadau TEL Tool sy’n cyd-fynd â’r ‘Chwe Math o Ddysgu ‘a nodwyd gan Diana Laurillard (2002), a ddefnyddir fel fframwaith ar gyfer cynllun dysgu ‘Arena, Blended, Connected’ (ABC) (gweler isod).
Mae Padlets yn rhyngweithiol felly, mae yna groeso i unrhyw gwestiynau neu sylwadau gallwn yna ymateb i.
Dod yn Athro Gwell – Y Dosbarth wedi Trosi, gyda Dr Nigel Francis o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Dydd Mercher 15fed Mai 2019, 1-2yp, A019, Campws y Bae.
(Bydd yna recordiad o sesiwn Nigel ar gael ar ôl y digwyddiad rhag ofn nad ydych yn gallu mynychu.)
Bydd Trafodaethau TEL yn digwydd ar Ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener, gan ddefnyddio Blackboard Collaborate, teclyn webinar a chyfathrebu ar-lein cydamserol.
Sesiynau Blasu’r Bore – 10.00-10.45yb
I gael profiad o drafodaeth ar-lein sylfaenol mewn amgylchedd dysgu ar-lein, byw, mewn sesiwn rhagarweiniol anffurfiol a chyfeillgar gyda Datblygwyr Academaidd SALT.
Trafodaethau TEL y Prynhawn
Trafod buddiannau pedagogeg o daclau TEL ar gyfer themâu amrywiol o ddysgu ac addysgu, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o drafodaethau ar-lein, cyfranogiad mewn webinar a dosbarthiadau rhithwir. Hyrwyddiad gan Ddatblygwyr Academaidd SALT.
Bydd pedwar testun:
- Polau fel ffordd i Atynnu Grwpiau Mawr
- Padlet
- Dysgu Cyfunol a Dysgu wedi Trosi
- Cynwysoldeb a Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth, gan gynnwys dolen i gadw lle.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am wythnos DPP TEL cysylltwch â:
r.e.ellis@abertawe.ac.uk, Ffon: 01792 604302
neu salt@abertawe.ac.uk
Dilynwch ni ar Drydar: susalt@susaltteam, #susaltcpd, #TELTALKS19