Dathlu 500 Cymrawd ym Abertawe – Mae Andrew Davies yn myfyrio ar yr effaith a gafwyd ar ei ymchwil

Pam y cyflwynais i gais am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch a’r effaith ar fy ymarfer

A bod yn onest, penderfynais i ymgeisio am gymrodoriaeth oherwydd yr angen i gyflawni targedau fy nghyfnod prawf, ac ychydig iawn o syniad oedd gen i am y broses ymgeisio, heriau cwblhau’r broses ac yn wir, canlyniadau allweddol cais llwyddiannus.

Fy enw i yw Andrew Davies ac rwy’n Uwch-ddarlithydd Gwyddor Barafeddygol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ers 2015. Er i mi gronni llwyth o brofiad clinigol yn ystod fy ngyrfa, roedd fy mhrofiad o ddysgu ac addysgu mewn lleoliad addysgol yn brin. A bod yn onest, penderfynais i ymgeisio am gymrodoriaeth oherwydd yr angen i gyflawni targedau fy nghyfnod prawf, ac ychydig iawn o syniad oedd gen i am y broses ymgeisio, heriau cwblhau’r broses ac yn wir, canlyniadau allweddol cais llwyddiannus.

Cymerais i ran yn y sesiwn sefydlu a drefnwyd gan dîm ADAA ac roedd yn rhyddhad sylweddoli bod pobl eraill yn y sesiwn yn rhannu fy mhryderon am y broses. Wrth i’r gwaith grŵp fynd yn ei flaen, bu tipyn o ddryswch am yr elfennau o fewn y fframwaith; sut dylai rhywun eu dehongli, sut maen nhw’n cefnogi ymarfer a pha dystiolaeth gallem ei defnyddio i ddangos ein bod yn eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, wrth i’r sesiwn fynd yn ei blaen, daeth y materion hyn yn fwy clir a dechreuais i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth a fyddai’n fy helpu i ddatblygu fy nghais.

..gwnaeth y dasg o archwilio sut mae elfennau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn cyd-fynd â’m hymarfer fy sbarduno i feddwl o ddifrif am yr hyn rwy’n ei wneud, sut rwy’n ei wneud a sut i werthuso hyn

Er ei bod yn her llunio’r cais, gwnaeth y dasg o archwilio sut mae elfennau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn cyd-fynd â’m hymarfer fy sbarduno i feddwl o ddifrif am yr hyn rwy’n ei wneud, sut rwy’n ei wneud a sut i werthuso hyn. Roedd angen agwedd onest ac agored i gwblhau’r cais. Roedd yn gyfle i mi fyfyrio ar fy ymarfer a dadansoddi sut mae hyn yn berthnasol i’r dimensiynau amrywiol yn y fframwaith safonau proffesiynol. Rwyf wedi cadw mewn cysylltiad ag un o’r bobl cwrddais i â nhw yn y sesiwn sefydlu ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn. Byddem yn cwrdd o bryd i’w gilydd neu’n cyfathrebu drwy e-byst, yn trafod ein cynnydd, yn rhannu syniadau am y mathau o dystiolaeth a fyddai orau a sut gallem fapio hyn i’r elfennau amrywiol yn y fframwaith.

Ers ennill y gymrodoriaeth, mae’r dysgu a ddeilliodd o’r profiadau wedi dylanwadu ar fy ffordd o baratoi ar gyfer darlithoedd, datblygu modiwlau newydd a datblygu rhaglen newydd.

Yn fy marn i, mae pob un o’r elfennau yn y fframwaith yr un mor bwysig, ac mae’r cysylltiadau rhyngddynt yn darparu sylfaen gadarn a fframwaith hyblyg i gefnogi ymarfer wrth iddo ddatblygu. Ers ennill y gymrodoriaeth, mae’r dysgu a ddeilliodd o’r profiadau wedi dylanwadu ar fy ffordd o baratoi ar gyfer darlithoedd, datblygu modiwlau newydd a datblygu rhaglen newydd.

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am Gymrodoriaeth fyddai: cymerwch ran yn y sesiwn sefydlu. Bydd yn gwella’ch dealltwriaeth o’r broses gan eich galluogi i symud ymlaen i gyflwyno cais. Trafodwch eich syniadau, eich pryderon a’ch disgwyliadau ag eraill sy’n mynd drwy’r broses, manteisiwch ar yr oruchwyliaeth sy’n cael ei chynnig a siaradwch ag eraill sydd wedi mynd drwy’r broses.

Leave a Reply

Your email address will not be published.