Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Cymrodoriaeth yr AAU – buddsoddiad ar gyfer eich dyfodol

Yn y cyfnod anodd hwn o ymaddasu i ddysgu ac addysgu ar-lein, efallai na fydd ennill clod ar gyfer eich addysgu fel Cymrawd yr Academi Addysg Uwch ar ben eich rhestr o bethau y mae’n rhaid ichi eu gwneud. Serch hynny mae’r broses ymgeisio yn werthfawr iawn, yn eich galluogi i adlewyrchu ar eich arfer addysgu, dathlu’r ymagweddau sydd wedi gweithio’n dda ac ystyried ffyrdd o gefnogi dysgu mwy effeithiol gan fyfyrwyr. Fel rhan o ddathliad 500 o Gymrodorion gan SALT, darllenwch am y ffordd roedd o fudd i un o’n Cymrodorion ac aseswyr presennol, ynghyd â’i awgrymiadau ar gyfer ymgeisio.


Dr Rhys Jones, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen MA Cyfryngau Digidol yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n rhannu ei brofiad o roi Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar waith yn ei ymarfer addysgu. Mae e hefyd yn cynnig awgrymiadau o’i rôl fel mentor ac asesydd ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais am Gymrodoriaeth yr AAU trwy Lwybr Cais Abertawe ar gyfer staff profiadol. Enillodd Rhys gydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yr AAU trwy gwblhau Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU/PGCtHE) yn 2012 trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn asesu portffolios PGCtHE ers 2015, ac wedi cefnogi Llwybr Cais Abertawe ers 2017. (Mwy o fanylion am Rhys: https://www.swansea.ac.uk/staff/arts-and-humanities/academic/jonesr/ )

 


“Rydw i wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 12 mlynedd, yn gyntaf fel cymrawd dysgu cyfrwng Cymraeg, yna fel darlithydd yn y Cyfryngau Digidol. Gorffennais y Dystysgrif Addysgu yn 2012 pan oedd yn bortffolio mawr o waith gyda chroesgyfeiriadau yn y tu blaen i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU.[1] Mewn rhai ffyrdd, efallai i fi gychwyn  ar y Dystysgrif yn rhy gynnar, am i fi weld bod y myfyrio ar ymarfer mor bwysig a doedd gyda fi ddim gymaint o brofiad addysgu i fyfyrio arno. Fe wnes i fwynhau ymdrin ag agweddau ar y damcaniaethau am ddysgu a dysgu am amrywiol ddulliau i gael adborth gan fyfyrwyr. Er enghraifft, “papurau munud”[2], lle mae myfyrwyr yn nodi un peth a ddysgwyd o’r sesiwn – rwy’n defnyddio’r rhain ar bapur ac yn electronig fel rhan o’m ‘hoffer addysgu’ – yr amrywiaeth o bethau y galla i ddefnyddio i fesur sut mae myfyrwyr yn dysgu a pha mor effeithiol yw fy addysgu. ”


Beth yw dimensiwn pwysicaf Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU i chi?

“Mae’n jig-so. Does dim posib i chi eu gweld ar eu pennau eu hunain – hyd yn oed os ydych chi’n ystyried y Meysydd Gweithgaredd ynddynt eu hunain, mae’r Wybodaeth Graidd a’r Gwerthoedd Proffesiynol ymhlyg yn hynny. Mae’n debyg na fyddwch chi’n addysgu’n effeithiol os ydych chi’n eu gweld ar wahân. I mi nawr, mae’n anodd gwahanu pob dimensiwn. ”


Felly, o ystyried eich pwnc (darlithydd yn y cyfryngau digidol), pa mor bwysig yw K4 – defnydd a gwerth technoleg briodol – i chi?

Allweddol yw’r gair allweddol fan’na! Mae’n rhaid i chi archwilio’n feirniadol pam ydych chi’n defnyddio’r dechnoleg. Yn eironig, yn y Dystysgrif Addysgu defnyddiais fersiwn bapur, yn hytrach na fersiwn electronig, o’r dull “papur munud” i werthuso pa mor effeithiol oedd fy ymyrraeth addysgu (K5) a phan ofynnwyd i mi pam, wel esboniais ei fod yn briodol ar y pryd. Dyna yw gwir werth K4: mae’n fater o wybod beth sy’n bosibl a phryd a sut i’w ddefnyddio. Bore ‘ma, roeddwn i’n defnyddio Kahoot, weithiau dwi’n defnyddio PollEverywhere[3], ond ar adegau eraill rwy’n defnyddio Google Forms i gasglu gwybodaeth am anghenion myfyrwyr fel rhan o’r paratoi ar gyfer eu traethawd hir er enghraifft. Gall y technolegau adael i chi wybod lefel sylfaenol gwybodaeth y myfyriwr, gwirio dealltwriaeth lefel wyneb. Mae’n fater o wybod beth rydych chi am ei wneud, yna gofyn i chi’ch hun, a yw’r dull digidol yn briodol? Gall fod yr un mor niweidiol rhuthro i mewn i ddefnyddio technolegau digidol ag y gall fod i beidio â’u defnyddio o gwbl. Mae angen i chi fod ag ymwybyddiaeth o bryd a pham i’w defnyddio.

 


Beth yw effaith eich rôl asesu ar eich ymarfer?

Mae wedi bod yn braf gweld, bod rhywfaint o gyffredinoldeb mewn addysgu gwaeth beth yw’r ddisgyblaeth

“Mae wedi bod yn braf gweld, trwy ddarllen neu siarad ag ymgeiswyr, bod rhywfaint o gyffredinoldeb mewn addysgu gwaeth beth yw’r ddisgyblaeth. Er enghraifft, bod nifer yn poeni am ddysgu dosbarthiadau mawr! Does dim ots ai rheolaeth, gwyddoniaeth neu beirianneg yw’r pwnc, gall yr addysgwr deimlo’r un peth!

Rwyf hefyd wedi gallu cymryd rhai awgrymiadau o geisiadau eraill a rhoi hynny ar waith yn fy ymarfer fy hun. ”


Sut arall ydych chi wedi cynnal ‘arfer da’ fel Cymrawd AAU?

“Dydw i ddim wedi gallu mynd i lawer o sesiynau DPP ffurfiol trwy SALT / datblygu staff. Ond i fi, mae cael cydweithwyr gerllaw ar un coridor wedi bod yn hanfodol bwysig er mwyn galluogi ‘sgyrsiau coridor’ i ddigwydd. Gallaf fynd i drafod sut mae sesiwn wedi mynd a rhannu awgrymiadau ar wahanol ddulliau. Mae hyn yn ein galluogi i effeithio ar arfer ein gilydd.

Rydw i yn ystyried Twitter yn rhan o fy DPP: rwy’n dilyn rhai pobl allweddol sy’n dysgu cyrsiau diddorol, efallai’n dysgu o fewn fy nisgyblaeth neu faes pwnc cysylltiedig ac rwyf hefyd yn dilyn rhai o Brif Gymrodyr yr AAU – yn aml mae ganddyn nhw bethau diddorol i’w rhannu. Rwy’n dilyn rhai hashnodau hefyd fel #AcademicTwitter, a all fod yn ddefnyddiol iawn cyn belled â’ch bod chi’n barod i hidlo trwy negeseuon trydar. Rwyf hefyd yn llechu o gwmpas #LTHEChat[] o bryd i’w gilydd [4]


Geiriau i annog ymgeiswyr y dyfodol?

“Mae’n werth gwneud cais, oherwydd bydd yn eich helpu chi i fyfyrio ar eich ymarfer addysgu. Dydyn ni ddim yn gwneud hynny ddigon oherwydd pwysau amser, ond bydd datblygu’ch cais yn rhoi golwg fwy cyflawn i chi o’ch rôl, a bydd yn eich helpu i fod yn well yn yr ystafell ddosbarth..

Peidiwch â bod ofn y damcaniaethau addysgu chwaith – mae yna ddarnau o ddoethineb. Rwy’n frwd iawn dros ymyriadau addysg sydd â thystiolaeth tu ôl iddyn nhw. Rwy’n croesawu gwaith yr Athro Phil Newton yn arbennig – mae’n chwalu llawer o fythau [5]. A pheidiwch â meddwl bod newydd bob amser yn dda – er enghraifft mae yna lawer o anogaeth i fynd i ddull ystafell ddosbarth wedi’i fflipio, ond mae tystiolaeth y gall darlith wedi’i chynllunio a’i chyflwyno’n dda fod yr un mor effeithiol wrth gefnogi dysgu myfyrwyr. ”


Syniadau Da i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth AAU?

…meddyliwch amdano fel buddsoddiad ar gyfer eich dyfodol, ar gyfer datblygu eich taith bersonol trwy fyfyrio ar eich ymarfer

“Darllenwch y deunydd ar ddulliau addysgu ac addysgu yn eich disgyblaeth ond byddwch yn feirniadol ohono. A yw llenyddiaeth (V3) yn sail iddo ac a yw’n ystyried sut mae myfyrwyr yn dysgu (K3)? Hefyd, ceisiwch roi’r deunydd hwnnw ar waith. Er enghraifft, os yw’n hysbys bod myfyrwyr yn dysgu’n well mewn cyfnodau byr o weithgaredd addysgu, yna dyluniwch eich sesiynau addysgu yn unol â hynny.

Hefyd, byddwch yn agored i fod yn feirniadol o’ch addysgu eich hun. Un o’r prif resymau dros beidio cymeradwyo ceisiadau’n syth yw nad yw’r unigolyn wedi dangos bod eu dulliau’n effeithiol, yn bennaf oherwydd nad ydyn nhw wedi myfyrio ar eu hymarfer. Wrth gwrs mae ffactorau cymhleth i’w hystyried gyda charfannau myfyrwyr gwahanol, ond gallwch chi gydnabod y cyfyngiadau hyn a sylwi efallai bod lle i newid.

Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych ddigon o amser i gyflwyno cais ‘da’, ond meddyliwch amdano fel buddsoddiad ar gyfer eich dyfodol, ar gyfer datblygu eich taith bersonol trwy fyfyrio ar eich ymarfer.”


Ac i ble ydych chi’n mynd?

““Wel. Rydw i wedi bod yn gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer yr MA yn y Cyfryngau Digidol ers 2013. Mae hynny’n fy ngalluogi i gael persbectif llawer ehangach o’n darpariaeth – i ystyried: beth mae myfyrwyr sy’n dod i mewn yn chwilio amdano? Sut mae ein cwricwlwm yn cyd-fynd â meincnodau diwydiant a phwnc? Rwyf hefyd newydd orffen chwe blynedd fel swyddog asesu adrannol ac wedi gallu, gobeithio, dylanwadu ar arferion fy nghydweithwyr o ran safonau ansawdd asesu. Ar ryw adeg, byddaf yn ystyried gwneud cais am Uwch Gymrodoriaeth.””

 


[1] Cafodd yr UKPSF ei ddiweddaru yn 2011. Mapiwyd gwaith Rhys i fersiwn y fframwaith a oedd yn bodoli cyn hynny.

[2] Mae yna amryw o grynodebau am werth a defnydd papurau munud. Erthygl gynnar yw un Stead D. (2005) “A review of the one-minute paper”, yn Active Learning In Higher Education Cyfrol 6(2), 118-131. (https://doi.org/10.1177%2F1469787405054237)

[3] Mae yna ystod o ffyrdd i ennyn diddordeb myfyrwyr ac i wirio eu dealltwriaeth. Gweler gwefan SALT am gymhariaeth o’r rhain: https://salt.swan.ac.uk/cy/polling-solutions-aka-clickers/

[4] Sgwrs Twitter wythnosol yw LTHEChat a gynhelir ar nos Fercher yn ystod y tymor rhwng 8- 9 p.m, ar amrywiaeth o bynciau: https://lthechat.com/

[5] Proffil staff Phil Newton: https://www.swansea.ac.uk/staff/medicine/learningandteaching/newtonpm/

Nodyn:

Am help i ddehongli Dimensiynau Ymarfer UKPSF, gweler yr adnoddau hyn ar wefan yr AAU: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/dimensions-framework

Hefyd, gweler gwefan SALT i gael gwybodaeth am feini prawf Uwch Gymrawd: https://salt.swan.ac.uk/cy/routes-to-fellowship-2

Disgwylir i Gymrodyr yr AAU aros mewn Arfer Da fel rhan o’r Cod Ymarfer – gweler gwefan SALT: https://salt.swan.ac.uk/cy/after-fellowship-what-next/

Ers y cyfweliad hwn ym mis Chwefror 2020, mae llawer o bethau wedi newid o ran sut rydym yn addysgu/cefnogi dysgu mewn addysg uwch! Yn arbennig, wrth ddefnyddio technolegau dysgu priodol a hefyd bod dylunio a gweithredu gweithgareddau dysgu effeithiol yn parhau i fod yn hanfodol bwysig, p’un ai wyneb yn wyneb, neu ar-lein neu ar adegau gwahanol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.