Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – ein 100fed Uwch Gymrawd

Fe wnes i mwynhau’r cyfle ar gyfer adlewyrchiad adolygol a’r sylweddoliad fy mod wedi gwneud newid yn ystod fy ngyrfa

… i gymryd amser ac adlewyrchu gydag ystyried ar yr effaith rydw i wedi gwneud mewn ardaloedd gwahanol. Rhaid weithiau cymryd pethau’n wynebwerth yn lle edrych mewn dyfnder

 

Amdanoch chi

Fy enw i yw Megan Rosser. Fy mhroffesiwn yw nyrs a dwi wedi bod mewn addysg am ugain mlynedd mewn amrywiaeth o rolau. Rydw i wedi bod yn dysgu yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd am 14 mlynedd ac wedi cael sawl rôl cyfarwyddwyr dros y 11 mlynedd diwethaf.


Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?

Fe ddes i yn ôl i’r coleg yn dilyn cyfnod o secondiad gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac roeddwn eisiau ymdrwytho fy hun ym musnes a gweithgareddau colegol, roedd ceisio am SFHEA i weld yn ddull effeithiol i ffocysu fy meddwl a’m adlewyrchiad. Roeddwn yn ymwybodol o bobl eraill yn y coleg yn ennill cydnabyddiaeth yr AAU ond nid oeddwn wedi gwneud amser i ddilyn y cais.

Dwi’n meddwl ei fod yn dda i gael cadarnhad ffurfiol oddi wrth yr AAU bod yr amser dwi wedi gwario mewn addysg wedi cael effaith bositif ar eraill. Fel addysgwr awyddus yn groes i ymchwiliwr llawn amser, mae’n orfodol bod fy nysgu yn cael effaith bositif ar myfyrwyr ac mewn tro, ar ofal cleifion.


Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

Yn gyntaf, roedd yn galed i ffitio fy nysgu i mewn i’r Fframwaith Safonau Proffesiynol, nid yw effaith wastad yn eglur. Fe wnaeth cymryd amser i feddwl tu allan i’r bocs a pherthnasu gweithgareddau dysgu ac ysgolheigaidd i’r meini prawf. Beth nes i gasglu oedd ei fod yn angenrheidiol i gymryd amser ac adlewyrchu gydag ystyried ar yr effaith rydw i wedi gwneud mewn ardaloedd gwahanol. Rhaid weithiau cymryd pethau’n wynebwerth yn lle edrych mewn dyfnder. Roedd hefyd yn amlwg ar adegau, nid y ffordd orau i orffen y cais yw bod yn ddiymhongar, roedd fy mentor yn amhrisiadwy wrth helpu mi fod yn fwy bendant yn fy hawliadau a fy ysgrifennu.


Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd Addysg Uwch?

Dwi’n meddwl ei fod wedi gwneud i mi sylweddoli bod potensial i mi fod yn ddinosor ynghylch dulliau dysgu a fy mod i’n gallu gwneud llawer mwy gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a chynyddu defnydd technoleg.


Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi?

Dwi’n meddwl i fi, y gwerthoedd proffesiynol. Dwi’n dysgu nyrsio, felly i fi os dwi’n parchu’r myfyrwyr, gobeithio byddai’n gwneud iddynt feddwl am sut i drin eraill. Mae’r synnwyr hanfodol o werthoedd proffesiynol dwi’n estyn iddyn nhw, yna’n adlewyrchu trwy nhw’n parchu cleifion a’u teuluoedd maent yn gofalu amdano. Heb parchu’n gilydd mae’n galed i helpu myfyrwyr symud ymlaen. Rydw i’n nyrs cyn dwi’n athrawes/hyrwyddwr ac mae’n hanfodol fy mod i’n cynnal gwerthoedd proffesiynol allweddol o nyrsio wrth cefnogi myfyrwyr. Dwi hefyd yn credu bod yna elfen o drosglwyddedd, mae fy nyletswydd gofal wnes i estyn i’m cleifion, nawr yn estyn i’m myfyrwyr – heb fod yn dadol.

Beth oedd rhannau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?

Fe wnes i werthfawrogi’r amser i eistedd, ymchwilio ac ysgrifennu, mae wedi bod yn amser hir ers i mi baratoi darn o waith arwyddocaol. Fe wnes i mwynhau’r cyfle ar gyfer adlewyrchiad adolygol a’r sylweddoliad fy mod wedi gwneud newid yn ystod fy ngyrfa. Mae’n hawdd iawn i gael ei ddala ar felin draed, felly wrth orfod cymryd amser i feddwl am effaith, mae’n werthfawr iawn. Fel dywed yn flaenorol, roeddwn i’n ffodus iawn i gael mentor cefnogol iawn, ac roedd y cyngor yn amhrisiadwy.

Y sialensiau mwyaf oedd

a) ffitio fy ngweithgareddau ac effaith i’r meini prawf mwy aneglur (i mi)

b) siarad yn dda am fy hun!

c) mae amser yn debygol o fod yn sialens i bawb.


Sut rydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers cael y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal safon dda.

Ond yr wythnos diwethaf ges i’r cadarnhad o fy nghais llwyddiannus felly nad ydwyf wedi cael llawer o amser i feddwl amdano. Ond, rydw i’n ymrwymedig i ddarparu’r gorau gallaf i fyfyrwyr, yn enwedig gyda’n myfyrwyr personol felly byddaf yn parhau i ymdrechu i weithio i’r safonau sy’n cymesuro gyda Uwch Gymrawd.


I rywun nad yw’n siŵr os yw am wneud cais neu beidio, pa eiriau y gallech eu cynnig i’w annog?

Dwi’n credu ei fod yn werth ceisio am Gymrodoriaeth. Mae’n gyfle i ddogfennu’ch holl weithgareddau dysgu ac addysgu, mae’n gadarnhaol. Yn y byd prysur o AU, mae’n rhwydd iawn i ymgolli’ch hun mewn pethau diwrnodol ac i beidio adlewyrchu ar yr effaith rydym ni, fel unigolion, yn cael ar fywydau ac astudiaethau’r myfyrwyr. I’r nyrsys sydd yn meddwl amdano, mae hefyd yn bwydo i mewn i’n gofynion ail-ddilysiad proffesiynol.


Pa argymhellion y byddech yn eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth – unrhyw gategori?

Gwnewch e!

Ffeindiwch yr amser i’w mapio yn erbyn yr UKPSF ac i adnabod a chasglu tystiolaeth.

Ymchwiliwch am theorïau addysgol.

Gweithiwch yn agos gyda’ch mentor.

Mynychwch sesiynau SALT – roeddent yn ddefnyddiol iawn.


Beth yw’r criterion allweddol i chi ar gyfer bod yn Uwch Gymrawd?

I mi, ac oherwydd fy safle cyfoes a gweithgareddau blaenorol, V1. Parch tuag at ddysgwyr unigol a chymunedau dysgu amrywiol. Rydw i wedi bod ynghlwm â datblygu a trosglwyddo nifer o rhaglenni sydd yn hyrwyddo llwybrau an-traddodiadol i rhaglenni proffesiynol. Mae hyn wedi golygu wrth i bobl cael mynediad a chyflawni addysg y Brifysgol a dod yn ymarferydd cofrestredig – mae’n rhywbeth roeddent yn credu byddai byth yn bosib.

Leave a Reply

Your email address will not be published.