Diwrnod ym mywyd swyddog LHDT+

LGBTQ+ officers sitting on steps smiling

Fel swyddog (lle agored) rydw i’n gweithio gyda myfyrwyr a staff i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth LHDT+. Ochr yn ochr â hwn, rydw i yn y broses o gwblhau Doethuriaeth yn economeg, yn ymchwilio rôl tueddfryd rhywiol yn yr economi. Yn ddiweddar, roeddwn i wedi anrhydeddu cael fy mathodyn cynwysoldeb oherwydd y gwaith rydw i wedi gwneud o fewn yr Undeb Myfyrwyr yn nhermau hyrwyddo cynwysoldeb yn y Brifysgol. Gofynnwyd i mi ysgrifennu blog byr ar hwn a feddylies y ffordd orau o wneud hwn oedd trafod diwrnod ym mywyd swyddog LHDT+”.

Dihunais ar Ddydd Gwener, cael cawod, gwisgo a bwyta afocado ac wyau ar dost (rwy’n filflynyddol dwi fethu helpu’r peth) a gwneud fy ffordd i Singleton. Penderfynais i weithio yn JC’s gan ei bod nhw’n gwneud y coffi gwyn fflat gorau, rhaid cyfaddef. Mae Ddydd Gwener yn ddiwrnod bant o’r radd doethuriaeth ac fel arfer yn ymroddedig i’m rôl o swyddog LHDT+. Mae bod yn swyddog LHDT+ yn gallu fod yn heriol iawn gan ei fod yn waith gwirfoddol heb dal rydw i’n gorfod cydbwyso ynghyd y radd doethuriaeth. Ond i mi, mae’n werth chweil gan fy mod yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn y Brifysgol sydd yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl.

Felly, agorais fy ngliniadur, agor fy nghyfrif e-bost swyddog LHDT+ ac fel arfer roedd yna orlif o e-byst. Ond, wnes i wirioneddol mwynhau darllen drwyddynt. E-bost rhif 1;
“Hello Sam, jyst eisiau rhoi gwybod i ti bod gen i ddiweddariad ar ymgyrch ‘Rainbow Laces’: rydym wedi gwerthu dros 150 o lasys sy’n golygu dros £400 i Stonewall! Llongyfarchiadau!”. ‘Rainbow Laces’ oedd yr ymgyrch gyntaf i mi redeg y flwyddyn yma. Mae ymgyrch ‘Rainbow Laces’ yn ymgyrch wedi rhedeg gan Stonewall ar gyfer ‘Pride in Sport’ ac roeddwn i wir eisiau cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe gan fy mod i wedi brwydro gyda phryderon o ymuno â thîm chwaraeon gydag ofn o homoffobia (rwyf nawr yn chwarae Korfball sydd yn llawer o hwyl ac yn gynhwysol iawn). Y flwyddyn yma fe wnaethon ni gyflwyno ‘Rainbow Laces’ ym Mhrifysgol Abertawe. Fe ofynnon ni i fyfyrwyr wisgo’r rhain yn ystod yr wythnos i ddangos eu hundeb gyda myfyrwyr LHDT+ ac i annog iddyn nhw deimlo croeso i ymuno â chwaraeon. Y flwyddyn nesaf rydym ni’n gobeithio annog i fyfyrwyr i wisgo lasys enfys yn ystod Ffair y Glas (Freshers Fair) i ddangos i fyfyrwyr bydd croeso iddynt o fewn y chwaraeon priodol sy’n gwisgo nhw.

E-bost rhif 2; “Hello Sam, dim ond neges gyflym, rydw i wedi danfon yr isod”. Roedd yr e-bost yma o Grace Hannaford, Swyddog Lles yn Undeb y Myfyrwyr (sydd wedi ymroddi llawer o amser yn helpu fi i redeg yr ymgyrchoedd rydw i wedi eisiau gwneud – ni allaf wedi gwneud hwn hebddi). Roedd Grace yn rhoi gwybod i mi fod hi wedi danfon e-bost ynglŷn â Chyfleusterau Ystafelloedd Ymolchi ar Gampws Singleton. Rydw i a Grace wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i gynyddu’r nifer o ystafelloedd ymolchi Rhyw-Niwtral ar Gampws Singleton. Mae toiledau Rhyw-Niwtral yn bwysig i fyfyrwyr trawsrywiol a rhywedd nad yw’n ddeuaidd. Wrth siarad â myfyrwyr fel rhan o’r ymgynghoriad fe wnaeth un myfyriwr esbonio ei fod nhw’n aml yn colli darlithoedd gan fod eisiau defnyddio’r tŷ bach ond ddim eisiau defnyddio’r rhai ar y campws oherwydd y toiledau rhyw a’r ofn o gael eu hadnabod gyda’r rhywedd anghywir a hynny’n achosi cam-drin. Roeddwn i a Grace yn danfon e-bost i gael diweddariad ar sut gallwn wella’r cyfleusterau a (gobeithio) welwn newidiadau yn y misoedd i ddod.

E-bost rhif 3; “Helo! Dyma’r adnoddau hysbysebu ar gyfer Mis Hanes LHDT+, gobeithio dy fod yn hoffi nhw!” Roedd yr e-bost o gynorthwyydd marchnata yn Undeb y Myfyrwyr ac mae’n rhaid i mi ddweud roedd y poster yn WYCH!!! Y flwyddyn yma roeddwn i eisiau cyflwyno fwy o ddigwyddiadau ar gyfer mis Hanes LHDT+ yn ogystal â digwyddiad steil ‘pride’. Gyda chymorth Grace a Russ (rheolwr digwyddiadau’r Undeb) rydym wedi gallu creu rhaglen o ddigwyddiadau arbennig (gellir eu darganfod yma; https://www.facebook.com/events/ical/upcoming/?uid=638560602&key=AQDw_lHcd1CJ8aap). Un digwyddiad yw ‘Rainbow Grow’; digwyddiad lle byddwn ni’n rhoi ysgall ddeilen enfys mewn pot i fyfyrwyr a staff i annog cynaladwyedd ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o fis hanes LHDT+ (enfys; ydych chi’n deall?). Rydym ni hefyd wedi cyflwyno arddangosfa rhyngweithiol yn JC’s a Thafarn Tawe. Mae’r arddangosfa yma yn cynnwys ysgrifennu’ch ymateb ar galon i’r cwestiwn “Mae ‘Pride’ yn bwysig oherwydd?” Bydd ‘Pride’ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cymryd lle ar y 22ain o Chwefror ac mae’n edrych fel bydd yn ddiwrnod llawn. Bydd yn dechrau yn JC’s am 2yp, bydd yna nifer o drafodaethau panel yn siarad am gwestiynau a themâu gwahanol sy’n cwmpasu LHDT+ yn ein cymdeithas heddiw; megis Ffydd a Rhywioldeb, cynwysoldeb trawsrywiol a pam ei fod yn bwysig a pam bod o hyd angen ‘PRIDE’. Bydd hyn yn olynol â chomediwyr LHDT+ cyn noson o fingo. Ie, ma’ na’n iawn, dwi’n cael myfyrwyr i chwarae bingo. Gyda thro bach! Mae Bingo Lingo yn “noson bingo bywiol, parti, ynfyd a gorffwyll” ac mae’r myfyrwyr yn dwli arno. Felly, byddwn ni’n rhoi gwobrau allan ac yn dathlu popeth LHDT+ gyda noson o Bingo yn y Ffreutur.

E-bost rhif 4; “Helo Sam, edrych ymlaen at gweld ti heddiw fel gallwn ni gwneud datblygiadau ar yr hyfforddiant” – Damnio! Anghofies i fod gen i’r cyfarfod yna, ac mae e mewn 10 munud. Roedd y cyfarfod gyda Mandy Jack (SALT). Rydw i a Mandy wedi bod yn gweithio ar brosiect a gobeithio creu ffilm fer yn uwch oleuo anghenion gwahanol o’r myfyrwyr lleiafrif ac i annog staff i fod yn fwy cynhwysol yn eu dull. Bydd y ffilm yn ymdrin â nifer o leiafrifoedd megis hunaniaethau ‘LGBTQIA+’, myfyrwyr cymudwyr, myfyrwyr yr Iaith Gymraeg, myfyrwyr gydag anableddau ayyb. Rydym ni’n gobeithio cael y ffilm yma’n barod tua diwedd y flwyddyn. Roedd y cyfarfod yn grêt; fe wnaethon ni trafod y prosiect mewn mwy o fanylder, penderfynu pwy fyddwn ni’n gofyn am adborth ar y sgript ac i ddechrau symud y prosiect ymlaen. Hefyd, fe wnaeth Mandy rhoi fy mathodyn cynwysoldeb i mi, roedd yn ystum a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwaith yr oeddwn i’n ei roi i wneud myfyrwyr a staff sy’n ‘LGBTQIA+’ yn fwy cyfforddus yn y Brifysgol yn werth chweil. Rydw i nawr yn gwisgo’r bathodyn gyda balchder wrth wybod ei fod yn dangos i staff a myfyrwyr fy mod i’n gynhwysol, byddaf yn gwrando a gwneud fy ngorau i helpu, heb ots am bwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod neu sut maent yn uniaethu. Diolch Mandy!

Leave a Reply

Your email address will not be published.