Teclyn golygu fideos a meddalwedd yw Camtasia sy’n eich galluogi i greu, golygu a chyhoeddi eich fideos eich hunain. Gallwch wylio trosolwg fan hyn:
Un cynnyrch o fewn ystod ehangach TechSmith yw Camtasia. Mae’r Brifysgol wedi prynu trwydded i’r safle ar gyfer meddalwedd Camtasia 9 er mwyn i staff ei defnyddio i greu a chynhyrchu eu fideos eu hunain.
Mae Camtasia yn eich galluogi i recordio neu olygu fideos a fewnforiwyd ar y sgrin, ac mae’r feddalwedd wedi’i defnyddio fel rhan o’r Prosiect Peilot Dysgu Cyfunol, gydag academyddion yn ei defnyddio i greu e-ddarlithoedd neu fideos cyfarwyddiadol. Mae staff y Gwasanaethau Proffesiynol hefyd yn croesawu’r teclyn drwy greu fideos cyfarwyddiadol er mwyn cefnogi hyfforddiant staff.
Mae nodweddion uwch yn cynnwys defnyddio dulliau holi, gyda dewis o opsiynau i integreiddio; mae fformatau’n cynnwys cwestiynau amlddewis, testun rhydd, llenwi’r bylchau a mathau o gwestiynau atebion byr.
Mae fideos Camtasia yn cael eu defnyddio i greu dulliau dysgu cyfunol ar draws y Brifysgol. Gyda myfyrwyr yn defnyddio’r fideos neu e-ddarlithoedd cyn dosbarthiadau, mae ganddynt amser i ymgyfarwyddo â chysyniadau a themâu allweddol. Gellir ymgorffori fideos o fewn Blackboard neu eu rhannu ar blatfformau allanol megis YouTube. Gall myfyrwyr adolygu cynnwys y fideo fel y dymunant, er mwyn cynorthwyo eu dysgu a’u gwaith paratoi ar gyfer asesiadau. Mae’r feddalwedd yn eich galluogi i ychwanegu penawdau at fideos, er mwyn cefnogi myfyrwyr ag anableddau a’r rhai hynny sy’n dysgu Saesneg fel ail iaith. Mae rhai enghreifftiau o ddefnyddio fideos cyfarwyddiadol yn cynnwys sut i fynd at fodiwlau a ar Blackboard a sefydliadau, defnyddio byrddau trafod neu fideos cyfarwyddiadol ar gyfer systemau cyfeirnodi.
Mae Camtasia 9 ar gael ar ddyfeisiau bwrdd gwaith a reolir ar gyfer staff. Gallwch fynd at y teclyn o dan y rhestr “Training.”
Pan fyddwch yn clicio ar “Camtasia 9,” bydd yn lawrlwytho ar eich peiriant – bydd hyn yn cymryd ychydig o funudau. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn barod i ddechrau creu eich fideos Camtasia cyntaf.
Os nad ydych yn gweithio ar ddyfais bwrdd gwaith a reolir, siaradwch â’ch Coleg neu adran TG eich Ysgol er mwyn gosod y teclyn o bell, neu fel arall, dechreuwch alwad Ddesk Gwasanaeth.
Yn ogystal â chynhyrchu fideos yn eich gweithle eich hunain, rydym hefyd yn cynnig mannau gweithio tawel penodol ym
Mwth Recordio Camtasia. Mae’r bwth seinglos yn llawn o’r offer sydd ei angen arnoch i greu a chyhoeddi eich fideos.
Mae’r bwth wedi’i leoli yn Ystafell 19 Adeilad Keir Hardie ar Gampws Parc Singleton. Mae modd cadw lle i ddefnyddio’r ystafell drwy anfon e-bost at AVSupport@swansea.ac.uk.
ASTUDIAETHAU ACHOS
Canlyniad i’r gwaith a gychwynnwyd gan e-ddarlithoedd am baratoi fideos gan Paul Holland a Rhian Kerton o’r Coleg Peirianneg oedd y Cynllun Peilot Dysgu Cyfunol. Mae’r modiwl hyfforddiant Dysgu Cyfunol ar Blackboard yn rhoi enghreifftiau o sut y gwnaethant greu a defnyddio’r fideos hyn i gyd-fynd â’r gwaith dysgu ar eu modiwlau.
Anfonwch e-bost at technologyenhancedlearning@abertawe.ac.uk i gael mynediad at y modiwl at Blackboard.
Drwy’r Cynllun Peilot Dysgu Cyfunol, mae nifer o academyddion wedi bod yn defnyddio Camtasia i gynhyrchu eu fideos eu hunain. Dyma stori Neal Harman o’r Coleg Gwyddoniaeth, yn disgrifio ei brofiad o ddefnyddio fideos yn y modiwl hwn.
Cefnogaeth
Mae gwefan TechSmith yn cynnig ystod eang o fideos gwych i’ch rhoi chi ar ben y ffordd. Mae’r fideos yn eithaf byr, ac yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i chi o sut i ddechrau. Maen nhw’n adnodd gwych o ran dechrau os nad ydych wedi golygu fideos na defnyddio Camtasia o’r blaen.
– Recordio, Golygu, Rhannu (4.45) https://www.techsmith.com/tutorial-camtasia-record-edit-share.html
– Pontio ac Anodi (6:16) https://www.techsmith.com/tutorial-camtasia-transitions-annotations-behaviors.html
– Animeiddiadau ac Effeithiau (4:29) https://www.techsmith.com/tutorial-camtasia-animations-effects.html
– Golygu sain (3:56) https://www.techsmith.com/tutorial-camtasia-editing-audio.html
– Cynhyrchu a Rhannu (3:14) https://www.techsmith.com/tutorial-camtasia-produce-share.html
Awgrymiadau Darllen:
Beheshti, M., Taspolat, A., Kaya, O., and Sapanca, F.H. (2018) “Characteristics of instructional videos”. World Journal on Educational technology: Current Issues vol. 10, no.1, pp. 61 – 69. (Online) Available at https://files.eric.ed.gov/fulltext/EJ1170366.pdf
Boelens, R., de Wever, B. and Voet, M. (2017) “Four key challenges to the design of blended learning: A systematic literature review” Educational Research Review, vol.22, pp. 1-18 (Online). Available at https://www-sciencedirect-com.libezproxy.open.ac.uk/science/article/pii/S1747938X17300258
Di Paolo, T., Wakefield, J.S., Mills, L.A., and Baker, L. (2017) “Lights, Camera, Action: Facilitating the Design and Production of Effective Instructional Videos”. TechTrends vol. 61, no.5, pp. 452 – 460. (Online). Available at
https://link.springer.com/article/10.1007%2Fs11528-017-0206-0
Hajhashemi, K. and Caltabiano, N. (2018) “Blended Learning: Uncovering Challenges in Implementing Online Videos in Higher Education”, in Tang, S. and Cheah, S. (eds) Redesigning Learning for Greater Social Impact. Springer, Singapore, pp.113 – 188.
McBride, C. (2017) “Classroom Flipping and Online Teaching Tool Usage Advice”, International Journal for Infonomics, vol. 10, no. 1, pp. 1264-1272. (Online). Available at
http://infonomics-society.org/wp-content/uploads/iji/published-papers/volume-10-2017/Classroom-Flipping-and-Online-Teaching-Tool-Usage-Advice.pdf
Rana, J., Besche, H., and Cockrill, B. (2017) “Twelve tips for the production of digital chalk-talk videos” Medical Teacher vol. 39, no.6, pp. 653-659. (Online). Available at
https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/0142159X.2017.1302081