Dathlu 500 Cymrawd ym Mhrifysgol Abertawe – Najah Battikh

 

 

 

 

 

“Y rhan orau a gyfrannodd fwyaf i ddatblygu fy nghais oedd y drafodaeth  gymheiriaid gyda fy nghydweithwyr a roddodd sylwadau ar fy null addysgu drwy broses goruchwylio gan gymheiriaid a’m mentor academaidd”
Amdanoch chi:

Fy enw i yw Najah Battikh ac rwyf wedi bod yn diwtor addysgu ym maes Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe ers mis Medi 2017. Yn ogystal â Phrifysgol Abertawe, rwyf wedi magu profiad o addysgu mewn dau sefydliad addysg uwch arall yn y DU a thramor. Rwyf wedi bod yn Gymrawd Addysgu amser-llawn yn Ysgol Peirianneg Gemegol, Prifysgol Al-Baath yn Syria am ddwy flynedd ac yna ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin am bedair blynedd fel Cynorthwy-ydd Addysgu ym maes Peirianneg Gemegol.

Pam oedd cael cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth yn bwysig i chi? Pam gwneud cais?

Fy nod yn y pen draw yw datblygu fy ngyrfa fel academydd yn y DU, felly rwyf bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu fy nghymwysterau addysgu a’m ffocws ymchwil. Roedd cael statws cymrodor yn gam da i ddatblygu fy ngyrfa yn ogystal ag i hyrwyddo fy addysgu gyda mewnbwn addysgeg greadigol ac uwch.

Beth gwnaethoch chi ei “gasglu” o’r broses o baratoi cais i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU?

Trwy fyfyrio ar fy arfer addysgu, cynigiwyd cyfle gwych i mi werthuso’r hyn rwy’n ei wneud a darganfod ffyrdd o wella ar sail darllen beirniadol a chael dealltwriaeth o ymchwil ac ymarfer ym maes addysgeg. I wneud hynny, rwyf wedi cael fy nghyflwyno i ystod eang o ddeunyddiau darllen sy’n trafod dulliau addysgu gwahanol sy’n ymwneud â’r pum maes gweithgaredd; mae hyn wedi rhoi cronfa well o wybodaeth yn y pwnc hwn i mi o’i gymharu â’r hyn a gefais wrth baratoi ar gyfer fy statws Cymrawd Cyswllt.

Sut mae hyn wedi cael effaith ar y ffordd rydych yn ystyried addysgu dysgwyr yn yr amgylchedd addysg uwch?

Mae darllen drwy’r fframweithiau addysgu gwahanol wedi fy ngalluogi i gydnabod pa mor hyblyg y dylai’r dull addysgu fod er mwyn addasu i ddynamig a maint y grwpiau dysgu ar wahanol lefelau. Trwy ennyn dealltwriaeth o’r cyd-destun ehangach, tynnwyd sylw at y ffaith fod ehangu’r dull addysgu yn dechrau yn ystod y camau cyntaf wrth ddewis, wrth baratoi ac wrth lunio’r wybodaeth a gyflwynir.   Gwnaeth hefyd newid fy nghanfyddiad o’r ffordd y byddai technoleg yn cael ei defnyddio, a’m galluogi i amrywio’r defnydd o dechnolegau gwahanol wrth gyflwyno ar sail y gweithgarwch addysgu ac ennyn diddordeb cynifer o fyfyrwyr ag sy’n bosibl a mwyafu eu dealltwriaeth yn y pen draw.

Beth yw’r elfen bwysicaf o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich barn chi – y meysydd gweithgarwch, gwybodaeth graidd neu werthoedd proffesiynol – neu unrhyw un yn benodol a pham?

Mae amgylchedd addysg uwch mor amlddiwylliannol, rwy’n credu bod dwy ran o Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn hanfodol i lwyddiant dull addysgu; y rhain yw:

  1. Ymgysylltu â myfyrwyr o ran eu hamrywiaeth yn ogystal â gweithgareddau dysgu
  2. Pa mor addas a chryf yw’r wybodaeth graidd

Mae ymgysylltu â myfyrwyr yn datblygu cryfder gweithgarwch dysgu yn ogystal ag yn ehangu ac yn mwyhau deilliannau dysgu’r myfyrwyr ni waeth pa lefelau y maen nhw arnynt. Rhaid i’r wybodaeth fod yn addas i lefel y dysgwyr er mwyn bodloni’r egwyddor amrywiaeth a chefnogi myfyrwyr gwan. Fodd bynnag, dylai gynnwys elfen sy’n annog y myfyrwyr i archwilio ymhellach.

Beth oedd rhannau da’r broses ymgeisio? Pa bethau oedd yn fwy heriol?

Y rhan orau a gyfrannodd fwyaf i ddatblygu fy nghais oedd y drafodaeth  gymheiriaid gyda fy nghydweithwyr a roddodd sylwadau ar fy null addysgu drwy broses goruchwylio gan gymheiriaid a’m mentor academaidd. Galluogodd fy mentor, drwy roi adborth adeiladol, i mi gydnabod y meysydd y dylwn i weithio arnynt a’u gwella yn ogystal â sut i ddangos fy nghryfderau allweddol.Trwy fod yn ymchwilydd ym maes peirianneg gemegol, roedd yn heriol pan ddechreuais ddarllen am ddamcaniaethau dysgu ac addysgu oherwydd ei fod yn bwnc hollol newydd a gwahanol. Datryswyd y broblem hon pan ddechreuodd y deunyddiau darllen gynnwys enghreifftiau o roi’r damcaniaethau hyn ar waith fel bod modd i mi eu dysgu mewn modd gwell.

Sut rydych chi wedi parhau i gymhwyso safonau Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn eich gwaith ers cael y gydnabyddiaeth honno? Hynny yw, cynnal safon dda.

Mae cynnal gweithgareddau addysgu gwahanol (darlithoedd, yn y labordy ac ati) ar gyfer cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig wedi fy ysgogi i chwilio’n barhaus am strategaethau i ennyn diddordeb myfyrwyr a sicrhau’r deilliannau dysgu gorau iddynt.  Rwyf wedi parhau i chwilio am dechnolegau gwahanol a’u defnyddio i gynorthwyo myfyrwyr i feddwl yn ogystal â’u hannog i gymryd rhan a myfyrio’n feirniadol yn ystod y ddarlith. Yn ogystal, cyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon, ceisiais ddiweddaru deunyddiau dysgu a rhaglenni yn unol â’r wybodaeth a’r sgiliau a gefais o’r broses ymgeisio. Felly gwiriais pa mor gadarn oedd yr wybodaeth, amrywiais y gweithgareddau addysgu gyda sesiynau eraill (trafodaethau gan gymheiriaid, cyflwyniadau myfyrwyr ac adborth, tasgau ymchwil ac ati) a gwella’r ffordd roedd cyflwyniadau fy narlithoedd wedi’u llunio i gynnwys deunyddiau mwy deniadol.

 

I rywun nad yw’n siŵr os yw am wneud cais neu beidio, pa eiriau y gallech eu cynnig i’w annog?

Heb os, bydd mynd drwy’r broses hon yn newid y ffordd rydych yn canfod ac yn ystyried addysgu ym maes addysg uwch. Byddwch yn sylwi ar newid anferth yn y ffordd y byddwch yn trafod addysgeg ym maes addysg uwch ar ôl gwneud y cais. Ar un llaw mae’n gymhwyster proffesiynol, ond ar y llaw arall, mae’n cyfrannu’n uniongyrchol at eich dull addysgu, boddhad myfyrwyr a datblygiad eich gyrfa academaidd o ganlyniad.

Pa argymhellion y byddech yn eu cynnig i rywun sy’n paratoi cais am Gymrodoriaeth – unrhyw gategori?

Yn gyntaf, mae’n hanfodol eich bod yn deall yr hyn rydych yn ei wneud wrth addysgu a beth yw eich prif gryfderau a gwendidau. Darllenwch drwy arferion a damcaniaethau gwahanol a chredwch fod bob amser lawer gennych i’w ychwanegu at eich dull. Mae pob un ohonom yn addysgu ac yn gwneud rhai camgymeriadau, felly trafodwch eich dulliau’n feirniadol ac yn agored gyda’ch cydweithwyr fel bod modd i chi gael yr adlewyrchiad gorau a all eich helpu i ehangu eich ymarfer.

Leave a Reply

Your email address will not be published.