Beth yw Hygyrchedd Digidol?
Gallu gwefan, dyfais symudol neu ddogfen electronig i gael ei llywio a’i deall gan ystod eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys y defnyddwyr hynny ag anableddau gweledol, clywedol, motor neu wybyddol yw hygyrchedd digidol. (whatis.com, 2016)
I’r rhai hynny sy’n ei chael hi’n anodd cyrchu technolegau digidol, gallai ‘meddalwedd gynorthwyol’ eu helpu nhw. Serch hynny, mae’n bwysig bod adnoddau digidol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n galluogi’r feddalwedd hon i weithio a ‘gall dylunio digidol gwael wneud yr offer hynny’n llai effeithiol ac atal gallu’r defnyddiwr i ryngweithio â’r cynnwys digidol’. (Whatis.com, 2016)
Beth yw ystyr y Rheoliadau Hygyrchedd Digidol i mi?
Mae’r dudalen we hon yn canolbwyntio ar agweddau Addysgu, Dysgu ac Asesu’r Rheoliadau’n unig. O safbwynt dysgu ac addysgu, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynnwys ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE), ac unrhyw blatfformau eraill (megis PebblePad) fod yn hygyrch. Bydd hyn yn cynnwys eich cyflwyniadau PowerPoint, nodiadau o’r darlithoedd, fideos etc.
Cydymffurfio:
Beth sydd angen i mi ei wneud i gydymffurfio?
VLE:
Mae’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir; Canvas ar hyn o bryd, yn cynnwys nodweddion hygyrchedd. Mae manylion o’r rhain ar dudalennau gwe Canvas. Serch hynny, dylai cynnwys rydych yn ei roi ar Canvas fodloni safonau hygyrchedd. Nid yw hyn yn dasg anodd na beichus, ac mae rhai adnoddau isod a fydd yn eich helpu i wneud eich cynnwys yn fwy hygyrch.
Deunyddiau Addysgu:
Rhaid i unrhyw gynnwys rydych yn ei greu fod yn hygyrch. Gallai hyn fod mor syml â bod yn ymwybodol o’r cyferbyniad rhwng eich blaendir a chefndir ar eich cyflwyniadau PowerPoint, neu lle’r ydych wedi gosod llun, i ddefnyddio ALT-TEXT yn y priodweddau. Mae ALT-TEXT yn galluogi darllenwyr sgrîn i ddisgrifio’r llun. Mae rhai adnoddau a allai fod o gymorth i’w cael isod.
Llywio a Strwythur:
Pan fyddwch yn uwchlwytho cynnwys i’ch tudalen ar Canvas, byddwch yn gyson yn y ffordd rydych chi’n ei strwythuro. Sut bynnag rydych chi’n bwriadu strwythuro’ch cwrs, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth eich myfyrwyr sut rydych chi’n ei strwythuro a ble maen nhw’n gallu dod o hyd i’w deunyddiau, aseiniadau ac ati. Wrth greu tudalennau a modiwlau, rhowch enwau ystyrlon iddyn nhw – mae mynd yn ôl pwnc yn hytrach nag wythnos yn fwy perthnasol (yn enwedig o ran adolygu!)
Argaeledd deunyddiau electronig:
Mae gan y Brifysgol bolisi y dylai deunyddiau darlithio fod ar gael 24 awr o flaen llaw. Mae’r Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu wedi cymeradwyo hyn, a’r rheswm am hyn yw ei fod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyrchu’r deunydd at ddibenion hygyrchedd – efallai bydd angen i rai myfyrwyr newid y ffont/lliw, bydd eraill yn cymryd amser i’w ddarllen, ac efallai bydd angen i rai ei ddarllen yn electronig ar eu dyfais gan ddefnyddio darllenydd sgrîn neu feddalwedd chwyddwydr.
Sut gallaf i wneud fy neunyddiau addysgu’n hygyrch?
Mae llu o wybodaeth, canllawiau a thiwtorialau ar gael ar-lein i’ch helpu i wneud eich deunydd darllen yn hygyrch. Serch hynny, mae SAILS wedi llunio dogfen ddefnyddiol iawn, sef Canllaw cyflym ar ddeunydd hygyrch a chynhwysol
Sut gallaf i creu deunyddiau mewn fformat amgen?
Yn hytrach na llunio deunyddiau mewn fformatau gwahanol, byddem yn cynghori myfyrwyr y mae angen deunyddiau mewn fformatau penodol arnynt i gysylltu â’u darlithydd i ddechrau. Byddem yn argymell os oes angen newid lliw/ffont a maint/gofod y papur, dylai’r myfyrwyr gael y ddogfen wreiddiol yn electronig fel y gallant ei golygu i fodloni eu hanghenion nhw er mwyn defnyddio’r deunydd. Am ragor o wybodaeth am bethau eraill yr ydych yn gallu eu gwneud mewn achosion o’r fath, gweler tudalennau gwe SAILS ar wneud adnoddau’n gynhwysol a’r polisi VLE Minimum with amendments for Inclusive Culture o’r adran adnoddau isod.
Adnoddau:
- Tudalennau gwe SAILS ar wneud adnoddau’n gynhwysol
- Canllaw cyflym SAILS ar wneud dogfennau’n hygyrch
- Clwt Cynwysoldeb
- Tudalennau Technoleg Gynorthwyol
- iFind Reading (am wybodaeth ac arweiniad ar hygyrchedd wrth ddefnyddio gwasanaethau sganio’r llyfrgell)
- iViewTraining (mynediad i fideos ac adnoddau ar dechnoleg gynorthwyol, ynghyd â gwneud dogfennau’n hygyrch. Mewngofnodwch gyda’ch manylion arferol y brifysgol
- VLE Minimum
- VLE Minimum with amendments for Inclusive Culture
- Mae’r dudalen we hon yn rhoi trosolwg i chi o rai o’r nodweddion hygyrchedd yn Microsoft Office 365.
Ble gallaf ddod o hyd i gymorth?
- Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (ADAA)
- Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd (CAS)
- Y Ganolfan Drawsgrifio
- Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
Cyfeiriadau:
whatis.com. (2016). Whatis.com . Retrieved July 30, 2019, from http://whatis.techtarget.com/definition/digital-accessibility