BOD YN WEITHREDOL!

Dulliau Dysgu Gweithredol ym maes Addysg Uwch

 

Why teach like this when learning is like this?

Education Rickshaw

Mae’r blog hwn yn trafod DYSGU GWEITHREDOL a’i bwysigrwydd cynyddol ym maes Addysg Uwch.Mae hefyd yn gyfle gwych i mi gynnig cipolwg i chi ar weithdy ‘7C’ adlewyrchol iawn Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe dan arweiniad Dr  Patricia Xavier o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a’r teitl difyr iawn oedd:‘Dynamism, conversation and challenge: using active learning and assessment to engage passive learners’.

 

Beth yw dysgu gweithgar?

‘‘Learning is not a spectator sport. Students do not learn much just by sitting in classes listening to teachers, memorizing pre-packaged assignments and spitting out answers. They must talk about what they are learning, write about it, relate it to past experiences, and apply it to their daily lives. They must make what they learn part of themselves’’ (Chickering & Gamson 1987).

Mae’r ‘defnydd o ddulliau dysgu gweithredol’ yn un o’r ‘Saith Egwyddor Arfer Da mewn Addysg Israddedig’ a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1987 gan Chickering a Gamson.

Dyma bob un o’r saith yn y drefn wreiddiol a gyflwynwyd…

  1. Yn annog cyswllt rhwng myfyrwyr â chyfadrannau
  2. Yn datblygu dwyochredd a chydweithrediad ymhlith myfyrwyr
  3. Yn defnyddio dulliau dysgu gweithredol
  4. Yn rhoi adborth prydlon
  5. Yn pwysleisio amser ar dasg
  6. Yn cyfleu disgwyliadau uchel
  7. Yn parchu amrywiaeth o ddoniau a ffyrdd o wneud pethau.

Mae dysgu ac addysgu ardderchog yn aml yn cyfuno pob un o’r saith egwyddor mewn dull penodol – gellir disgrifio llawer o’r rhain yn ‘weithredol.’ Gellir dod o hyd i enghreifftiau da o Brifysgol Abertawe ar y ddolen hon i’r rhaglen o seminarau a gweithdai Saith Nodwedd sy’n gwneud Athro Da yn y Brifysgol,’ lle gallwch weld fideos a blogiau ar ddigwyddiadau blaenorol yn ogystal â dolenni i gofrestru ar gyfer rhai yn y dyfodol.

Mae eu henghreifftiau nhw o ddulliau dysgu gweithredol yn cynnwys:-

  • Ymarferion strwythuredig
  • Trafodaethau heriol
  • Prosiectau tîm
  • Beirniadaethau gan gymheiriaid
  • Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth e.e. interniaethau
  • Astudio annibynnol
  • Rhaglenni gwaith cydweithredol
  • Myfyrwyr yn dylunio ac yn addysgu ar y cyd

Mae pob un o’r uchod yn parhau’n feysydd hanfodol o ran datblygiad academaidd ym maes Addysg Uwch heddiw, yn ogystal â chysyniadau mwy newydd megis ‘yr ystafell ddosbarth wrthdro a dysgu cyfunol sy’n aml yn cynnwys technolegau dysgu na feddyliwyd amdanynt ym 1989.

Mannau Gweithredol a Meddyliau Gweithredol

Yng nghyd-destun addysg uwch, mae’r term ‘dysgu gweithredol’ bellach yn gyfystyr â’r mannau a’r amgylcheddau y cynhelir dysgu gweithredol ynddynt, oherwydd bod heriau’n gysylltiedig â darlithfeydd traddodiadol gyda charfannau mawr o fyfyrwyr o ran y gallu i fabwysiadu dull mwy gweithredol ynddynt. Gellir ceisio atebion o ran defnyddio mannau mewn ffyrdd arloesol sy’n addas ar gyfer dysgu gweithredol, ac mae technoleg hefyd wedi gwella’r cyfleoedd dysgu gweithredol ar gyfer grwpiau mwy e.e. A019 ar Gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio mae term ambarél yw dysgu gweithredol ar gyfer dysgu drwy bob math o weithgareddau ystyrlon. Mae’n ymwneud â’r prosesau gwybyddol y mae’r dysgwr yn eu profi yn hytrach na’r amgylcheddau dysgu y maen nhw ynddynt fel y cyfryw. Trwy feddwl yn greadigol, gallwn greu cyfleoedd ar gyfer dysgu gweithredol mewn sawl maes o ‘ddysgu ac addysgu traddodiadol.’Mae cyflogwyr hefyd yn cefnogi dulliau dysgu gweithredol am eu bod yn cynnig ‘mwy o gyfleoedd i ymgorffori’r broses o wella sgiliau ynddynt, megis datrys problemau, gweithio mewn tîm, cyfathrebu a brwdfrydedd…’ (Power 2012).

Gweithdy 7C Ionawr

Dynamism, conversation and challenge: using active learning and assessment to engage passive learners’

Yn y sesiwn hon yn A019 ar Gampws y Bae, bu Dr Patricia Xavier yn rhannu ac yn myfyrio ynghylch ei phrofiadau o gyflwyno dulliau dysgu ac asesu gweithredol i grwpiau o dros 160 o fyfyrwyr, ac roedd y gweithdy’n cynnwys y cyfle i gymryd rhan mewn un o’i hymarferion dysgu gweithredol.

Pam newid?

Dechreuodd Patricia y sesiwn drwy ofyn i ni feddwl am dermau megis dysgu ‘gweithredol,’ ‘seiliedig ar broblem’ a ‘seiliedig ar brofiad’…beth sy’n debyg rhwng y dulliau addysgu hyn?Maen nhw’n golygu bod myfyrwyr yn fwy GWEITHREDOL yn hytrach na GODDEFOL yn eu dysgu.Dyfynnodd Patricia Dr Ben Branon, Uwch-ymgynghorydd yn Advance HE, a fu’n dadlau’n ddiweddar bod pobl yn dysgu’n well ‘drwy wneud, gofyn cwestiynau ac adeiladu eu gwybodaeth eu hunain. Rydym yn fwy tebygol o ddal gafael ar yr hyn rydym ni’n ei ddarganfod.’

Esboniodd Patricia fod nifer o ffactorau wedi ei chymell i gyflwyno mwy o ddulliau gweithredol i fodiwl rheoli adeiladu – ymwybyddiaeth o’r dystiolaeth addysgu, dysgu gan gymheiriaid mewn cynadleddau Academaidd Dysgu ac Addysgu Abertawe, yn ogystal â phrofiad ymarferol o bresenoldeb sy’n gwaethygu, a diffyg cwestiynau a ofynnir gan fyfyrwyr mewn darlithoedd mawr.Wrth siarad â myfyrwyr,  derbyniodd y syniad mai prin yw’r dysgu sy’n digwydd mewn darlithoedd mawr, nid yw’r myfyrwyr yn dal gafael ar lawer o wybodaeth. Yn syml, maen nhw’n eu gweld fel mannau i’w cyfeirio at ddysgu yn eu hamser eu hunain.

Beth sydd wedi newid?

Felly, er iddi boeni, diwygiodd Patricia ei dull i gynnwys y canlynol:

  • sesiynau dysgu grŵp a amserlennwyd
  • astudio astudiaethau achos a data prosiectau
  • archwilio tasgau rhyngweithiol
  • rhyngweithio a chael cyfarwyddiadau gan gymheiriaid
  • wythnosau ‘paru’ strwythuredig
  • tasgau a aseswyd yn ffurfiannol gydag adborth cyn rhai crynodol

Dyluniwyd tasgau’n ofalus i ddiwallu deilliannau dysgu, drwy sicrhau bod y myfyrwyr yn:-

  • treulio mwy o amser gyda’i gilydd
  • darganfod pethau drostynt eu hunain
  • datrys problemau, a
  • chymryd rhan mewn trafodaethau.

Roedd Patricia am osgoi micro-reoli tasgau, ond roedd hi ar gael drwy gydol y sesiynau i ateb cwestiynau a hwyluso gwaith grŵp. Roedd hi’n cael cefnogaeth gan nifer fach iawn o ddangoswyr ar adegau.

Cafodd 166 o fyfyrwyr eu neilltuo i sesiynau pedair awr tebyg i’r uchod. Roedd elfen o hunan ddewis i grwpiau o 3, yna roedd grwpiau’n cael eu paru. Rhoddwyd rhywfaint o ystyriaeth i lefelau gallu. Mae’n bwysig pwysleisio ar yr adeg hon nad oedd eu sesiynau asesu ffurfiannol yn orfodol ond eto, roedd myfyrwyr yn mynd iddynt.

Mynd ati!

Gofynnwyd i ni ‘fod yn weithredol.’Drwy chwarae rôl myfyrwyr mewn grwpiau o bedwar, gwnaethom roi cynnig ar un o’r gweithgareddau roedd hi wedi’i ddefnyddio go iawn yn un o’i sesiynau.Yn fy marn i, dyma strategaeth weithdy diddorol a dadlennol, oherwydd ein bod ni’n canfod ein bod yn profi emosiynau tebyg i fyfyrwyr Patricia h.y. teimlo’n ddryslyd i gychwyn yna boddhad ac ymdeimlad o gyflawniad wrth i’r dasg fynd rhagddi.  Gofynnwyd i ni nodi’r emosiynau hyn ar ddarnau o bapur – defnyddiol iawn i gyfeirio atynt wrth reoli risgiau.

Cynhaliwyd y sesiwn ‘7C’ yn ystafell A019, Adeilad Canolog Peirianneg, sef un o fannau dysgu gweithredol pwrpasol newydd Prifysgol Abertawe, ond, esboniodd Patricia ei bod hi wedi cyflwyno ei dulliau gweithredol mewn ystafelloedd addysgu cyffredinol a oedd yn ddigon mawr ar gyfer ei myfyrwyr, heb unrhyw offer neu feddalwedd arbenigol.

A oedd hi’n werth y newid?

Gofynnodd Patricia am adborth gan ei myfyrwyr, ac i gychwyn roedd rhai’n gwrthwynebu – roeddent yn amlwg yn teimlo eu bod yn cael eu herio ac yn gwneud rhywbeth a oedd yn wahanol i’r arfer. Fodd bynnag, canfu Patricia fod yr adborth a’r sicrwydd roedd hi’n eu cynnig yn gyfnewid, ar y cyd â manteision y dull yn dweud cyfrolau am ddysgu myfyrwyr. Yn fuan daeth yr adborth yn gadarnhaol iawn, ac roeddent yn dyfynnu’r hwyl, y lefel uchel o ymgysylltiad a’r rhyngweithio rhwng staff a myfyrwyr ymysg y pethau yr oeddent yn eu hoffi orau.Dechreuodd yr adborth gynnwys y sylw ‘diolch yn fawr.’

A oedd anawsterau?

Oedd. Nododd Patricia lawer, a ddylai fod yn amlwg yn nogfennau rheoli risgiau unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadau dull tebyg.

  • Rheoli lefelau gorbryder
  • Hwyluso grwpiau mwy
  • Lliniaru anawsterau o ran iaith

Gellid mynd i’r afael â phob un o’r rhain yn yr wybodaeth cyn-sesiynol a roddir i baratoi myfyrwyr e.e. rhestrau termau, rheoli disgwyliadau, esboniad eglur o fanteision dysgu gweithredol.

Ar ddiwedd y sesiwn, gadawais yn meddwl bod dull newydd Patricia yn adleisio sawl un o’r ‘Saith Egwyddor Arfer Da mewn Addysg Israddedig,’ ac roedd yn ysbrydoledig ac o gymorth yn ymarferol i gydweithwyr sy’n ystyried gwneud eu newidiadau i’w dysgu ac addysgu eu hunain.

Adnoddau Ychwanegol

https://spark.adobe.com/page/vUuxhmKq2iJkz/

Chickering, A., & Gamson, Z. (1987). “Seven Principles for Good Practice in Undergraduate Education” (PDF). AAHE Bulletin. 3.

Research findings on the seven principles. Yn A.W. Chickering & Z.F. Gamson (Eds.) Applying the seven principles for good practice in undergraduate education (pp. 13-25). New Directions for Teaching and Learning, No. 47. San Ffrancisco: Jossey-Bass. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/tl.v1991:47/issuetoc

Power, Jess (2012) Promoting Employability Skills through Active Learning. Yn: The Second Employability, Enterprise, & Citizenship in Higher Education Conference, Dydd Mawrth 27 Mawrth 2012, Manceinion, DU.

https://educationrickshaw.com/2017/12/02/after-100-years-of-the-same-teaching-model-its-time-to-throw-out-the-playbook/

https://www.thetimes.co.uk/article/death-of-the-university-lecture-theatre-8vhmtwf8k

https://www.insidehighered.com/blogs/university-venus/death-lecture

https://www.google.com/search?q=the+death+of+the+lecture&rlz=1C1GGRV_enGB764GB764&oq=the+death+of+the+lecture&aqs=chrome..69i57j0j69i64l2.3822j0j8&sourceid=chrome&ie=UTF-8

https://www.tandfonline.com/doi/abs/10.1080/08923647.2015.1084837?journalCode=hajd20

 

2 Comments

  1. Pingback: Open Door Observation – Large Group Teaching – Swansea Academy of Learning and Teaching

  2. Pingback: SALT – Getting active! Active Learning in Higher Education – Swansea Academy of Learning and Teaching

Leave a Reply

Your email address will not be published.