LHDT+ Bathodynnau Cynhwysol a Rhagenwau

Gan Cath Elms, c.l.elms@abertawe.ac.uk

Swansea University Pronoun Badges on a Swansea Uni lanyardFel Ymgynghorydd Cydraddoldeb y brifysgol a chyd-gadeirydd o Rwydwaith Staff LHDT+, rydw i’n arbenigo yng nghydraddoldeb LHDT+ (Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Traws) ar gyfer staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae fy ngwaith i yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â phroblemau LHDT+ yn y gwaith ac wrth astudio. Rydw i hefyd yn arwain ar gais blynyddol y Brifysgol i ‘Stonewall Workplace Equality Index’, gwobr genedlaethol sydd wedi ymrwymo i fwyhau cynwysoldeb LHDT+ yn y gweithle (rydyn ni ar hyn o bryd, y 29ain o brif gyflogwyr yn y DU, ac yn un o Gyflogwyr Traws-Gynhwysol 11 uchaf y DU.)

Mae cynwysoldeb LHDT+ yn y brifysgol yn dasg enfawr sy’n cynnwys amrywiaeth o faterion megis polisïau a gweithdrefnau cynhwysol, lles, amrywiaethu cwricwlwm, hyfforddiant ar ddefnyddio iaith briodol a sicrhau bod hyrwyddwyr LHDT+ yn weledig.

Un o’r pethau sbesiffig rydw i wedi cyflwyno’n ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe yw’r defnydd o fathodynnau rhagenwau ar gyfer staff. Rydw i wedi gwneud y rhain ar gael i staff i wisgo ar eu llinynnau fel bod pobl arall yn gwybod beth yw eu rhagenwau.

Nid ydych wastad yn gallu adnabod rhagenwau rhywun (na’u rhyw) wrth edrych arnynt. Yn y brifysgol, rydym yn cysylltu ag amrywiaeth o staff a myfyrwyr yn ddyddiol, rhai sydd yn draws ac yn genderqueer, efallai heb wybod. Mae gwisgo bathodyn rhagenwau yn ffordd syml ond effeithiol i ddangos parch tuag at ragenwau pobl a’u hunaniaeth rhyw. Mae hyn yn golygu llawer i aelodau o staff traws a genderqueer sydd efallai yn teimlo’n anweledig neu’n ffeindio’n anodd gyda bod yn draws yn y gwaith neu wrth astudio.

Beth yw rhagenw?

Rhagenw personol yw math o enw sy’n cael eu defnyddio i gyfeirio at berson arall yn lle eu henw. Rhagenwau personol cyffredin yw hi, fe/ef neu nhw/eu/hwy.

Er enghraifft:

  • Daeth Sarah a’i ymbarél gyda
  • Gollyngodd Michael ei ffon ef.
  • Roedd Jo yn flinedig felly aethon nhw i’r gwely.

Fel arfer pan mae pobl yn siarad am ragenwau, maent yn cyfeirio tuag at ragenwau personol. Darllenwch ragor yma: https://en.oxforddictionaries.com/grammar/pronouns

Pa wahanol ragenwau sydd i gael?

Yn yr iaith Saesneg, mae rhagenwau personol fel arfer yn dynodi rhyw rywun. Y rhagenwau cyffredin yw:

  • Hi (She/her/hers)
  • Fe/ Ef (He/him/his)
  • Nhw/Eu/Hwy (They/their/theirs)
  • Ze/Hir/Hir

Mae’r rhagenwau uchod sydd â thestun trwm yn cael eu hadnabod fel rhyw-niwtral neu rhyw-cynhwysol, gan nad ydynt yn cysylltu â rhyw. Gall y rhagenwau yma gael eu defnyddio gan bobl sydd â rhywedd nad yw’n ddeuaidd neu genderqueer (mae’r termau yma yn golygu bod rhyw rywun ddim ond yn wryw neu’n fenyw), ond gall hefyd cael eu defnyddio gan bobl sy’n adnabod fel dynion neu fenywod.

Peidiwch byth cyfeirio at rywun fel “it” neu “he-she” gan fod y termau yma’n niweidiol ac yn dad-ddyneiddio.

Nad yw’r gair ‘nhw’ yn cyfeirio at grŵp o bobl?

Nid o reidrwydd – gall ‘nhw’ cyfeirio at berson unigol, naill ai oherwydd nad ydych yn gwybod eu rhyw, oherwydd nad ydych eisiau enwi unigolyn priodol neu oherwydd dyma’r rhagenw maent yn cysylltu â. Er enghraifft:

  • Rydw i wedi colli galwad ffôn; gadawon nhw ddim neges.
  • Dwi’n teimlo os yw rhywun yn gwneud gwaith da, dylen nhw gael clod.
  • Roedd Robin yn rhedeg yn hwyr oherwydd bod eu gar wedi torri i lawr.

Mae ‘nhw’ unigol yn cael ei ystyried yn gywir.

Pam fod yn bwysig i barchu rhagenwau pobl?

Nid ydych wastad yn gallu adnabod rhagenwau rhywun (na’u rhyw) wrth edrych arnynt. Yn y brifysgol, rydym yn cysylltu ag amrywiaeth o staff a myfyrwyr yn ddyddiol, rhai sydd yn draws ac yn genderqueer, efallai heb wybod. Mae gofyn a defnyddio rhagenwau rhywun yn un o’r ffyrdd symlaf i ddangos parch tuag at eu hunaniaeth rhyw. Pan bod rhywun yn cael eu cyfeirio gyda’r rhagenw anghywir, gall wneud iddynt deimlo wedi amharchu, yn annilys, wedi’i ddiswyddo, wedi’i ddieithrio, neu’n ddysfforig.

Sut alla i ofyn pa ragenwau maent yn defnyddio?

Ceisiwch ofyn: “Pa ragenwau rydych yn defnyddio?” neu “A wnei di atgoffa mi pa ragenwau rwyt yn defnyddio?” Gall teimlo’n anghyfforddus yn gyntaf, ond nid yw mor wael â gwneud rhagdybiaeth niweidiol.

Os rydych yn gofyn fel rhan o ymarferiad cyflwyno ac eisiau esbonio’n gyflym beth yw rhagenwau rhyw, gallwch geisio rhywbeth fel hyn: “Dywedwch wrthon ni eich enw, lle rydych yn dod o a’ch rhagenwau. Mae hyn yn golygu y ragenwau rydych yn defnyddio i gyfeirio at eich hun. Er enghraifft, John ydw i, rydw i o Abertawe a dwi’n defnyddio’r rhagenwau fe/ef.”

Beth os rydw i’n gwneud camgymeriad?

Mae’n iawn! Mae pawb yn gwneud gwall pob hyn a hyn. Y peth orau i wneud os rydych yn defnyddio’r rhagenw anghywir yw dweud rhywbeth yn syth megis, “Sori, roeddwn yn golygu dweud (rhagenw)”. Os ydych yn sylweddoli ar ôl, ymddiheurwch yn dawel ac anghofiwch amdano.

Peidiwch ailadrodd pa mor wael rydych yn teimlo am wneud camgymeriad gan eich bod yn gallu gwneud i’r person oedd wedi cael ei gamgymryd i deimlo’n lletchwith ac yn gyfrifol i’ch cysuro.

Beth os rydw i’n clywed rhywun arall yn gwneud camgymeriad?

Gallwch glywed un o’ch cyd-weithwyr neu fyfyrwyr yn defnyddio’r rhagenw anghywir ar gyfer rhywun. Ym mron pob achos, mae’n addas i’w cywiro’n dawel heb godi rhagor o gywilydd ar yr unigolyn sydd wedi cael ei gamgymryd. Mae hyn nyn golygu dweud rhywbeth megis, “Mae Alex yn defnyddio’r rhagenw hi” ac yna symud ymlaen.

Os mae rhywun yn cael ei gamgymryd drosodd a throsodd, gall fod yn addas i ofyn iddynt ym mhreifat a dweud rhywbeth megis, “Roeddwn wedi sylwi dy fod yn cael ei gyfeirio ato gyda’r rhagenw anghywir a dwi’n deall gall hyn fod yn niweidiol iawn. A fydd ots gennyt fy mod i’n hatgoffa’r person yma am dy ragenwau?” Efallai ni fyddant eisiau i chi ymyrryd ond mae’ch ystyriaeth yn meddwl llawer iddynt.

Eisiau bathodyn rhagenw eich hun? Cysylltwch â Cath ar lgbtplus@abertawe.ac.uk

One Comment

  1. I’m interested in the idea of EVERYONE using the pronoun “per”, short for “person” as an alternative to only some people using “different” personal pronouns. It’s an idea that includes everyone, rather than one that makes some people seem to be “other” and a nuisance because they have a weird request. What do you think?

Leave a Reply

Your email address will not be published.