Sylwadau am Sioe Deithiol yr Ystafell Ddosbarth Ddigidol

Yr wythnos ddiwethaf, cymerais ran yn Sioe Deithiol yr Ystafell Ddosbarth Ddigidol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol De Cymru. Ysbrydolwyd y sioe deithiol gan lyfr Duncan Peberdy: Active Learning Spaces and Technology: Advances in Higher and Further Education. Mae’r sioe deithiol wedi bod yn ymweld â sefydliadau yn y DU am y 18 mis diwethaf er mwyn amlygu’r buddion profedig mae dysgu gweithredol yn eu cynnig i ddysgu a chyrhaeddiad myfyrwyr.

Nid yw dysgu gweithredol a mannu hyblyg yn rhywbeth newydd i mi, ond roedd gen i ddiddordeb i weld beth sy’n digwydd ar draws y sector a dysgu pa heriau y bu’n rhaid eu goresgyn i gyflwyno mannau o’r fath, yn ogystal â pha dechnoleg byddai’n cael ei defnyddio ar gyfer yr ystafell, pa mor hawdd yw ei defnyddio ac a yw’n addas ar gyfer unrhyw ddyfais a system weithredu.

Dechreuodd Duncan drwy gyflwyno’r prosiect SCALE-UP. Dechreuodd y prosiect hwn yn Adran Ffiseg Prifysgol Talaith North Carolina fel menter i newid y dull addysgu, oherwydd nad oedd eu dull traddodiadol yn gweithio ac am fod nifer uchel o fyfyrwyr yn gadael cyn gorffen eu cyrsiau. Newidiodd y prosiect y dull a’r amgylchedd dysgu a’i droi’n amgylchedd dysgu cydweithredol a rhyngweithiol iawn a oedd yn gwneud defnydd helaeth o gyfrifiaduron ac yn addas ar gyfer carfannau mawr. Crynhoir effaith y newid hwn isod:
Mae’r gallu i ddatrys problemau’n well
Mae dealltwriaeth gysyniadol wedi cynyddu
Mae agweddau’n well
Mae cyfraddau methu wedi gostwng yn sylweddol, yn enwedig ymhlith menywod a lleiafrifoedd
Mae myfyrwyr mewn perygl yn gwneud yn well mewn dosbarthiadau stateg peirianneg diweddarach

Cafodd egwyddor sylfaenol yr ymagwedd hon – annog myfyrwyr i gydweithio i archwilio rhywbeth diddorol, a rhyddhau’r athro i grwydro’r ystafell yn gofyn cwestiynau, yn herio myfyrwyr ac yn pryfocio dadleuon – ei harddangos yn ystod y sioe deithiol a hefyd, sut gall technoleg gynorthwyo’r ffordd hon o weithio.

Cynhyrchir y dechnoleg a ddefnyddiwyd yn y sioe deithiol gan Kramer. Roedd gan bob bwrdd Kramer Pro Box ac roedd Kramer Campus Box ar y cyfrifiadur ar y ddarllenfa. Mae’r rhain yn caniatáu i fyfyrwyr gysylltu eu dyfeisiau eu hunain – Android, iOS, Windows, Mac etc – â’r monitor ar eu bwrdd, a gallant gydweithio ar ddogfennau neu gyflwyno dogfennau, fideo, lluniau o’u dyfeisiau eu hunain i weddill y grŵp. Mae gan yr athro gymhwysiad sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae’n gallu rheoli pob monitor yn yr ystafell a gosod ei gyflwyniad eu hun ar y monitorau, neu rannu cynnwys un o’r grwpiau â monitorau’r grwpiau eraill.

Dros y 12 mis diwethaf yma yn Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, rydym wedi bod yn archwilio amrywiaeth o opsiynau eraill/amgen sy’n addo’r math hwn o rannu cydweithredol, ond sydd heb fynd â’r maen i’r wal hyd yn hyn, naill ai oherwydd cymhlethdod cysylltu dyfeisiau neu am eu bod yn gweithio gydag un neu ddwy system weithredu yn unig. Gyda thechnoleg Kramer, roedd yn hawdd cysylltu pob un o’r dyfeisiau a rhannu cynnwys. Roedd cyfyngiadau gyda dyfeisiau iOS ac amlygwyd bod y dechnoleg yn gweithio orau gyda gliniaduron yn hytrach na llechi/ffonau. Er gwaethaf hyn, dyma’r dechnoleg gyntaf sy’n caniatáu cysylltu nifer o ddyfeisiau a rhannu cynnwys/sgriniau’n hawdd.

Yn bresennol yn y sioe deithiol hefyd roedd Nicholas Burwell, Cyfarwyddwr y cwmni penseiri, Burwell Deakins, a oedd yn gyfrifol am ddylunio darlithfa gydweithredol Prifysgol Loughborough (ymysg eraill). Rhoddodd gyflwyniad diddorol ynghylch yr ymagwedd fodern sydd y tu ôl i ddylunio darlithfeydd prifysgolion. Roedd ei gyflwyniad yn afaelgar iawn ac yn cynnwys rhai syniadau diddorol am sut mae myfyrwyr yn newid a sut dylem ymateb i’r newidiadau hyn drwy addasu ein haddysgeg a chynllun ein mannau addysgu. Gallwch weld ei gyflwyniad mewn sioe deithiol gynharach (2016) isod. Byddwn yn eich argymell yn fawr i wneud hyn.

 

Parhaodd Duncan i siarad am y thema hon, a dangosodd enghreifftiau eraill o fannau dysgu arloesol, hyblyg a gweithredol mewn sefydliadau ledled y DU y mae wedi gweithio ynddynt neu ymweld â nhw.

Crybwyllwyd dau bwynt hefyd yn ystod y sioe deithiol, a chost oedd yr un cyntaf. Cost creu’r sioe deithiol oedd tua £50,000, sy’n swnio’n ddrud, ond gwnaeth Duncan ei osod yng nghyd-destun prosiect SCALE-UP; drwy gyflwyno’r math hwnnw o fan dysgu, llwyddwyd i wella cyfraddau cadw myfyrwyr. Felly, pe bai modd sicrhau bod 2 fyfyriwr yn parhau ar eu cyrsiau drwy gyflwyno man dysgu tebyg yn y DU (gwariant blynyddol cyfartalog ar ffioedd o £9,000), byddai hynny’n talu am gost yr ystafell. Yn ogystal â thalu am ei hun, dangoswyd bod dysgu gweithredol yn gwella cyrhaeddiad myfyrwyr felly, bydd gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr hynny sy’n defnyddio’r ystafell yn elwa hefyd.
Yn ail, dywedodd Nicholas fod darlithfa gydweithredol Loughborough wedi cael ei dylunio a’i hadeiladu ar gyfer yr Ysgol Ddylunio, ond oherwydd ei phoblogrwydd, ei bod wedi cael ei symud i’r system amserlennu ganolog i unrhyw adran ei defnyddio. Mae’n cael ei defnyddio i raddau llawer mwy helaeth na darlithfeydd traddodiadol am ei bod yn addas at ddiben addysgu gweithredol a didactig hefyd, i garfannau mawr a bach fel ei gilydd. Nodwyd hefyd bod yr ystafelloedd dosbarth digidol, y darlithfeydd cydweithredol a’r mannau hyblyg hyn yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr y tu allan i’r amserlen ac unwaith eto bod y lleoedd hyn yn cael eu defnyddio llawer mwy na mannau dysgu traddodiadol.

Yn Abertawe mae gennym nodau uchelgeisiol o ran cynyddu nifer ein myfyrwyr yn sylweddol yn ystod y degawd nesaf.  Credaf y bydd y cynnydd hwn yn arwain at amrywiaeth ehangach byth ymhlith ein myfyrwyr ac y bydd hyn yn effeithio, nid yn unig ar ble rydym yn eu haddysgu ond sut cânt eu haddysgu hefyd. Ar y cyd â’r ffaith bod cyflogwyr yn chwilio am sgiliau meddal, yn ogystal â gwybodaeth fanwl (fel y’i harddangosir gan y syniad o ‘raddedigion siâp T‘ y cyfeirir ato gan Nicholas Burwell yn ei gyflwyniad uchod), credaf fod angen i ni ystyried darlithfeydd cydweithredol ar gyfer adeiladau newydd ac wrth ailwampio’r ystafelloedd sydd gennym. I helpu staff i ymgyfarwyddo â’r newid hwn mewn lleoedd ac addysgeg, a’u galluogi i gael profiad o’r lleoedd a’r dulliau dysgu y gall y math hwn o ystafell a thechnoleg eu darparu, byddai o fudd mawr buddsoddi mewn labordy dysgu â chynllun tebyg i un yr ystafell ddosbarth ddigidol. Bydd cost yn gysylltiedig â’r newidiadau hyn mewn mannau dysgu, a bydd angen i rai aelodau staff newid eu hymagwedd at addysgu ond, os oes gobaith gennym ymuno â rhengoedd yr 20 o brifysgolion gorau, mae angen eu harchwilio o leiaf.

Leave a Reply

Your email address will not be published.