Un mis ym mywyd tîm Llydanu Mynediad

Alice Davies
Rheolwr Partneriaeth
Partneriaeth Ymgyrraedd Yn Ehangach De Orllewin Cymru

…gydag Ymgyrraedd yn Ehangach a Chamu Ymlaen i Brifysgol Abertawe.

Mae mis Mehefin yn aml yn fis prysur i dimau Llydanu Mynediad ac mae hyn yn wir iawn i dîm Ymgyrraedd yn Ehangach yn y Brifysgol.
Yn ystod mis Mehefin, fe wnaethon ni cynnal amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau, gan ddosbarthu 2,132 oriau o ddylanwad i 650 o gyfranogwyr a 624 awr o gyflogaeth a hyfforddiant i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Dyma giplun o’r dylanwadau sydd wedi digwydd trwy gydol mis Mehefin.

Ysgolion cynradd (Blynyddoedd 5 a 6)
Mae ein hymyriadau ysgolion cynradd wedi’u ddylunio i roi cyflwyniad positif i Addysg Uwch, darparu profiadau dysgu positif mewn pynciau gwahanol, a chefnogi disgyblion i ddarganfod sgiliau newydd ac i adeiladu ar rhai newydd yn enwedig llythrennedd a rhifedd. Trwy gydol mis Mehefin, fe wnaethon ni cynnal clwb ar ôl ysgol STEM, gan roi profiad i blant Blwyddyn 5 profiad ymarferol o redeg ymarferion gwyddoniaeth eu hun ac fe wnaethon ni rhedeg clwb darllen bechgyn i’w annog nhw i ddarllen mwy. Rydym hefyd wedi dod â channoedd o ddisgyblion i’r campws i edrych o gwmpas y Brifysgol ac i gyfweld â myfyrwyr. Rydym hefyd wedi gwneud gweithdai pwnc i ysgolion, o gestyll i chwilod!

Ysgolion Uwchradd 11 – 16
Mae ein hymyriadau ysgol uwchradd wedi’u ddylunio i gyflwyno i fyfyrwyr y buddiannau o symud ymlaen i Addysg Uwch. Rydym yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion i archwilio a datblygu eu dyheadau academig a chyflogaeth, ehangu eu gwybodaeth pwnc a datblygu eu sgiliau academig.
Ym mis Mehefin, fe wnaethon ni rhedeg Megamaths, cystadleuaeth rhyng-ysgol, gyda’r nifer uchelaf o fynychwyr o dros 140 o ddisgyblion, gweithdai blasu pwnc, rhaglen hyder a buddiant i ferched, diwrnod peirianneg mewn perthynas â Tata Steel ac ymweliadau campws i ddisgyblion Blwyddyn 9.

Llun – tweet o ysgol fuddugol o’r digwyddiad Megamaths.

Plant ifanc sydd wedi cael profiad gofal
Rydym yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael profiad gofal trwy gydol y flwyddyn ac nid yw mis Mehefin yn wahanol. Mae’r term “wedi cael profiad gofal” yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi, neu o hyd mewn gofal. Efallai bod y gofal wedi cael ei ddarparu mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd megis, gofal maeth neu ofal preswyl. Ym mis Mehefin fe wnaethon ni ddod â grŵp o blant gyda phrofiad gofal, o ysgolion ledled Abertawe, i’r campws i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn pynciau gwahanol. Rydym wedi datblygu clwb ar ôl ysgol gan weithio gyda ‘The Roots Foundation Wales’ i ddod a phobl ifanc i’r campws unwaith yr wythnos iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol wrth ddarparu cymorth cyfoed i’w gilydd.

Blwyddyn 12 a myfyrwyr Coleg Addysg Bellach
Mae ein ymyriadau ôl-16 wedi’u ddylunio i helpu myfyrwyr gwneud dewisiadau wybodus sy’n alinio gyda’u diddordebau personol a dyheadau gyrfa ac hefyd gyda’r bwriad i gefnogi fyfyrwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus a thrawsnewidiad i’r Brifysgol. Yn ystod mis Mehefin, fe wnaethon ni rhedeg cynhadledd i flwyddyn 12 gan gynnig sesiynau blasu i fyfyrwyr mewn amrywiaeth o bynciau a chefnogi nhw i ddatblygu sgiliau academaidd. Fe wnaethon ni rhedeg diwrnod Blasu Gwyddor Barafeddygol gan fynd â grŵp o fyfyrwyr 6ed dosbarth allan ar y cwch ymchwil newydd i ddarganfod bioleg morol trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd cymorth ar gael trwy cynnal diwrnod UCAS a Cyllid, fe wnaeth rhoi cyfarwyddyd i fyfyrwyr sut i wneud cais llwyddiannus i’r Brifysgol a gwybodaeth o’r ariannu sydd ar gael.

Heb golegau cefnogol ar draws colegau academig a gwasanaethau proffesiynol, ni fyddai’r gwaith yn bosib. O’r staff arlwyo sy’n croesawi’r myfyrwyr wrth weini cinio, i’r darlithwyr ysbrydoledig sydd yn helpu myfyrwyr i weld pwnc mewn ffordd wahanol, i’r gwasanaethau proffesiynol sy’n disyfrdanu cyllid myfyrwyr a UCAS. Mae gan bawb rhan i’w chwarae i helpu gwneud Addysg Uwch yn hygyrch i bawb.
Mae mis Mehefin wedi bod yn brysur iawn ac mae mis Gorffennaf yr un mor brysur gyda rhaglenni preswyl wedi dylunio i rhoi blas o fywyd myfyrwyr, ar gampws y Bae a Singleton, yn unol ag ymweliadau campws a gweithdai rhieni. Os hoffech ddarganfod mwy neu gweithio gydag Ymgyrraedd yn Ehangach, cysylltwch â reachingwider@swansea.ac.uk

Alice Davies
Rheolwr Partneriaeth
Partneriaeth Ymgyrraedd Yn Ehangach De Orllewin Cymru

Leave a Reply

Your email address will not be published.