Dysgu Drwy Brofiad a’r ‘7 nodwedd’

Yn ddiweddar, cyflwynodd yr Athro Richard Owen Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton seminar ‘7 Nodwedd Athro Prifysgol Da’ yn Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT).

Yn y sesiwn ddymunol hon, esboniodd Richard sut a pham y cymerodd ymagwedd ‘dysgu drwy brofiad’ at ei addysgu a’r manteision a gafwyd o ganlyniad. Mae ei fentrau’n cyfeirio’n gryf at ‘Saith Egwyddor Addysg Dda i Israddedigion’, a amlygwyd gan Richard drwy sawl enghraifft o’i arfer addysgu ei hun.

Beth yw Dysgu Drwy Brofiad ?

Tynnodd Richard ar ddiffiniad Felicia (2011) bod,

dysgu drwy brofiad yn broses o ddysgu drwy brofiadau, a chaiff ei ddiffinio’n benodol drwy ddysgu drwy fyfyrio ar wneud

Efallai y bydd athrawon addysg uwch hefyd yn gyfarwydd â ‘Chylch Dysgu Arbrofol’ Kolb, a gaiff ei gynrychioli fel arfer gan gylch dysgu pedwar cam lle mae’r dysgwr yn ‘cyffwrdd â’r holl seiliau’, o brofiad pendant i arsylwi’n fyfyriol, cydsyniadoli haniaethol ac arbrofi rhagweithiol.

Teimlodd Richard hefyd fod geiriau ‘taid dysgu drwy brofiad’, John Davey, yn ysgogydd pwerus.

Such happiness as life is capable of comes from the full participation in the endeavor to wrest from each changing situation of experience its own full and unique meaning.

Neu, yng ngeiriau Richard,

mae dysgu’n dod yn fyw pan fydd gennych ryw ffordd o’i gysylltu â’ch profiad chi

Beth yw’r prif ysgogwyr o ddysgu drwy brofiad ?

Trafododd Richard chwe dylanwad, ymhlith llawer o ysgogwyr cyfredol.

Main drivers of experiential learning are employability, smooth transition from higher education to work, engaging students in high level research and practice, soft skills, citizenship and major social problems, creativity, millenials like to make a difference.

Siaradodd hefyd am sut mae dysgu drwy brofiad yn galluogi athrawon i symud i’r maes affeithiol, sy’n bwysig gan fod un ym mhob tri o gyfreithwyr yn adrodd am broblemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’u gwaith.

Mae cyfleoedd dysgu drwy brofiad yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer natur heriol y proffesiwn cyfreithiol, gan gynyddu hunan-ymwybyddiaeth o heriau emosiynol. Gellir dysgu’r ‘sgiliau meddal’ a sgiliau rhyngbersonol sy’n hanfodol mewn arfer proffesiynol mewn ffyrdd ymarferol, creadigol, diddorol ac effeithiol, gyda myfyrio a chynnydd mewn camau.

Pa agwedd o ddysgu Richard sy’n ‘arbrofol’ ?

Richard yw Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe. Mae ei ymagwedd at ddysgu ac addysgu yn cynnwys:

  • gweithgareddau efelychiadol
  • profiad go iawn cleientiaid
  • ymgysylltu â’r gymuned

Clinical legal education includes simulated activities, mooting, simulated negotiations, simulated interviews, real advice and assistance, miscarriage of justice project, prison law, legal aid exceptional case funding, one stop shops, casework, community legal education and street law.

Wedi’i ysbrydoli gan ddysgu a arweinir gan ymarfer yn Awstralia ac yn UDA, teimla Richard ei bod yn bwysig canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer arferion proffesiynol yn gynnar iawn yn eu haddysg gyfreithiol. Pan gafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Clinig Gyfraith Abertawe, cyflwynodd prosiectau megis ‘Camwedd Cyfreithiol’, sef prosiect cyntaf y clinig i ddechrau yn 2017. Mae’n gweithio gyda chleientiaid sydd wedi dihysbyddu pob rhan o’r system cyfiawnder troseddol ond mae amheuon yn parhau ynghylch eu heuogfarn.

Meddai Louise Shortner o ‘Inside Justice’ fod y prosiect yn dod ag

ymagwedd ymarferol go iawn i ddysg myfyrwyr ac mae’n cefnogi myfyrwyr drwy gydweithio â maes cyfreithiol a fforensig sydd wir yn eu grymuso nhw

  • Mae Adroddiad Blynyddol 2017/18 Clinig y Gyfraith Abertawe yn cynnwys mwy am hyn a phrosiectau eraill yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu
  • Cyrhaeddodd Richard ei hun rownd derfynol Athro’r Gyfraith y Flwyddyn, sy’n wobr genedlaethol urddasol a noddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen

I ba raddau mae’r cyfleoedd dysgu drwy brofiad yn dangos y ‘7 nodwedd’ ?

Strwythurodd Richard ran ganol ei sgwrs o amgylch y ffordd y mae prosiectau dysgu ac addysgu Clinig y Gyfraith Abertawe yn dangos pob un o saith egwyddor neu nodwedd Chickering a Gamson.

Seven principles of Good Practice in Undergraduate Education. Encourage contact between students and faculty, Develop reciprocity and cooperation among students. Encourage active learning. Communicate high expectations. Respect diverse talents and ways of learning. Emphasis time on task. Give prompt feedback. Chickering and Gamson 1987/91).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy wylio recordiad o sgwrs Richard drwy glicio ar y ddolen hon i SALT TV 

Gorffennodd Richard ei sesiwn drwy ystyried ffurfiau ar ddysgu arbrofol mewn disgyblaethau ar wahân i’r Gyfraith, a fu’n sbardun am gwestiynau a thrafodaeth hynod ddiddorol ar ôl i’r ffilmio ddod i ben.

Bu’r digwyddiad yn gyfle gwych ar gyfer ‘croesffrwythlonni’ syniadau ar draws colegau ac ysgolion gwahanol ym Mhrifysgol Abertawe. Os ydych chi’n athro ym Mhrifysgol Abertawe ac mae gennych chi gwestiynau ar ôl gwylio’r recordiad, cysylltwch â ni yn SALT !

Efallai y bydd eich ymarfer chi’n cael ei gyflwyno yn y rhaglen ‘7 Nodwedd’.

Contact Rhian

Ffoniwch ar 01792 604302

E-bostiwch r.e.ellis@abertawe.ac.uk

Neu dilynwch fi ar Twitter Rhian Ellis @rhianellis3


Cyfeiriadau / Darllen pellach


Leave a Reply

Your email address will not be published.