Cofnodion Adborth – Gweithio gyda’r Broses Adborth

Adborth gyda swigod siarad i ddarlunio sgwrs

Cyfieithwyd gan Natalie Morgan

Canolbwyntio ar Adborth

Fe wnaeth ein Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) Yr Athro Martin Stringer cyhoeddi Strategaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe, ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Strategaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe

Er mwyn i ni gyflawni’r chwe amcan yn ein strategaeth, bydd ein cwricwlwm yn mewnosod nodweddion penodol. Ymhlith y rhain, mae yna wystl i wella effeithlonrwydd o ddulliau asesiad ac adborth ar gyfer staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae rhaglen DPP (CPD) SALT o ‘Saith Nodwedd o Athro Brifysgol Dda’ wedi cynnwys esiamplau o ymarferion gorau asesiad ac adborth. Nid ond rhoi adborth prydlon (fel yn egwyddor o ymarfer da Chickering and Gamson) ond adborth effeithiol mae myfyrwyr yn gallu defnyddio a chymhwyso i’w gwaith er mwyn gwneud datblygiad.

Seminar 7C: Cofnodion Adborth

Roedd un seminar ‘7C’ SALT poblogaidd gaeth ei gyflwyno gan Ddeon o Asesiad newydd Abertawe, Dr Joanne Berry (Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau), yn ystod y seminar, cyfeiriwyd at y cwestiynau canlynol:

  • Pam nad yw myfyrwyr yn defnyddio eu adborth?
  • Fel gall staff rhoi adborth da sydd yn sbesiffig, cael ei ddarllen, cael ei ddeall, defnyddio, adolygu a gweithredu?
  • Pa dulliau gall cael eu ddefnyddio yn y broses yma?
  • Sut gall staff a myfyrwyr meddwl am ac adlewyrchu ar adborth gyda’i gilydd, er mwyn symud ymlaen?
  • Sut gall staff ddarganfod ble mae myfyrwyr yn meddwl eu bod nhw, ble ydyn nhw mewn gwirionedd, a chanfod dulliau i’w cynorthwyo i wneud datblygiad?
  • Sut gall cymorth cael ei dargedu?
  • Sut gallwn datblygu strategaethau ar gyfer gwellhad?

Fe ddaeth ‘Cofnodion Adborth’ Dr Berry yn ffocws ar gyfer adlewyrchiad a thrafodaethau defnyddiol mewn cyfarfodydd mentora academaidd, gyda chanlyniadau a ragwelir/ni ragwelir.

Dysgwch ragor am y datblygiad, defnydd a chanlyniadau o’r Cofnodion Adborth gan wylio’r fideo yma sy’n 32 munud o hyd:

https://videostream.swansea.ac.uk/View.aspx?id=33322~5a~RT8NCzzKsY

Os rydych yn aelod o staff dysgu Prifysgol Abertawe a bod gennych gwestiynau neu eisiau cymorth gyda’ch strategaethau adborth, bydd tîm SALT yn hapus i drafod eich gofynion cymorth ac i ddangos adnoddau defnyddiol i chi.

Neu, os hoffech rhannu strategaeth adborth sydd wedi gweithio’n dda i chi a’ch myfyrwyr, hoffwn glywed oddi wrthoch. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau isod:

E-bost: r.e.ellis@abertawe.ac.uk 

Ffon: 01792 604302

Trydar: @rhianellis3

Cymraeg: Natalie.morgan@abertawe.ac.uk

Leave a Reply

Your email address will not be published.