Beth mae’r Bathodyn Cynwysoldeb yn golygu i mi?

Beth mae’r Bathodyn Cynwysoldeb yn golygu i mi?


Pan dderbyniais fy mathodyn cynwysoldeb lliwgar, newydd, dechreuais fyfyrio ar beth mae hyn wir yn golygu… wrth gwrs – bod yn ‘gynhwysol’ ac yn y blaen, ond beth yw’r neges tu ôl i’r term yma?

Dechreuais fy siwrnai ym Mhrifysgol Abertawe fel Cydlynydd Trawsgrifio yn y Ganolfan Trawsgrifio (neu ‘Canolfan Recordio i’r Deillion’ fel yr oedd amser hynny) yn 2005 yn cynorthwyo myfyrwyr gyda nam ar y golwg gan ddarparu adnoddau hygyrch megis print mawr, Braille, recordiadau sain a diagramau cyffyrddol. Gan edrych ar y derminoleg o’r frawddeg flaenorol, mae’n amlwg fel mae ein hagenda cynhwysol wedi newid. Mae “Canolfan Recordio i’r Deillion” nawr yn Ganolfan Trawsgrifio; nid ond ar gyfer myfyrwyr dall, ond hefyd ar gyfer y rhai sydd â nam ar y golwg, golwg rhannol, dyslecsig, dyspracsia ac anableddau eraill sydd yn atal mynediad i brint traddodiadol. Mae’r lledu o’r Gyfraith Hawlfraint wedi cefnogi’r datblygiad yma. Nid ydyn ond yn ‘recordio’, rydym yn darparu amrediad eang o adnoddau hygyrch.
Ond, hyd yn oed yn ôl yn 2005, byddech yn credu bod hyn i gyd yn gynhwysol, iawn? Roeddwn ni, y brifysgol, yn gwneud ein hadnoddau yn gaffaeladwy ar gyfer myfyrwyr gyda nam ar y golwg. Wel, ie ac na. Roeddwn ni yn trawsgrifio adnoddau ar gyfer myfyrwyr unigol ond beth os gallent ddylunio ein hadnoddau o’r cychwyn ac ond eisiau man newidiadau ar gael ar gyfer amrywiaeth o anghenion gwahanol?!
Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o fodel meddygol o anabledd i’r fodel gymdeithasol, gan ddilyn egwyddorion o ddyluniad cyffredinol, gan greu nifer o fersiynau mewn ffurfiau gwahanol sydd yn gaffaeladwy fel bod pawb yn elwa. Os a pryd rydym yn ystyried hygyrchedd yn y cyfnod o ddylunio, rydym yn creu adnoddau sudd o fudd i bawb, dim yr ychydig. Mae’r syniad yma o ddyluniad cyffredinol yn gallu cael, a dylid, ymestyn i’n hamgylchedd digidol a chorfforol, ein polisïau a hyd yn oed ein harddull dysgu.
Mae’r shifft yma’n dechrau yn raddol ym Mhrifysgol Abertawe, hefyd oherwydd bod agenda cynwysoldeb yn cael eu hyrwyddo yn fwy ar bob lefel. Mae yna bocedu o ragoriaeth yn tyfu yma, mae gennym ni timau arbennig SAILS a SALT, mae gennym Grŵp Cynwysoldeb GGS. Mae gwasanaethau proffesiynol yn rhan o’r sgwrs ac mae pobl yn fodlon gwrando a gweithredu i greu amgylchedd mwy cynhwysol ar gyfer dysgwyr, addysgwyr a staff yma yn Abertawe. Rydw i’n falch i fod yn rhan o hynny. Rydw i’n gwisgo’r bathodyn ac yn edrych ymlaen at gael fy nghrys-t!
Ond, mae yna wastad ond, mae’n siwrnai, nid ydynt yna eto ac mae yna lawer mwy o waith, codi ymwybyddiaeth ac ymarfer gorau dysgu eisiau gwneud. Felly, os rydych chi’n fy ngweld (yn gwisgo fy mathodyn lliwgar cynwysoldeb) o’r gwmpas ac eisiau gwybod rhagor am ddylunio hyrddych, stopiwch fi – rydw i wastad yn hapus i ledaenu’r neges!

Leave a Reply

Your email address will not be published.